Rob's Weekly Round-Up
15 July, 2022
Annwyl gydweithwyr,
Gobeithio eich bod chi i gyd yn iawn ar drothwy penwythnos twym iawn.
Rwyf newydd ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cael gwyliau ac rwy’n gobeithio y byddwch chi i gyd yn cynllunio eich gwyliau eich hun dros yr wythnosau nesaf i fwynhau'r heulwen.
Gyda'r tywydd poeth a ragwelir mewn golwg, hoffwn atgoffa cydweithwyr o'r cyngor sydd ar gael wrth weithio mewn tymheredd uchel. Gall gorludded gwres ddigwydd wrth eistedd yn ogystal ag wrth wneud gwaith llaw. Mae trawiad gwres yn gyflwr sy'n bygwth bywyd felly cadwch lygad amdanoch chi eich hun, eich teulu, eich cymdogion a'ch cydweithwyr.
Yr wythnos hon, cawsom lythyr o ddiolch gan breswylydd yn canmol ein cydweithwyr yn yr adrannau Treth Gyngor, Tai ac Ailgylchu a Gwastraff. Diolchodd Mrs Jane Keen i'r timau am eu cymwynasgarwch a'u gwaith caled yn ystod y pandemig ac am ei helpu i ddatrys ymholiadau. Rwy’n adleisio ei diolch.
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod y rhestr fer gyntaf ar gyfer Gwobrau Staff eleni wedi'i chyflwyno. Llongyfarchiadau i'n henwebeion ar gyfer y wobr Arwr Ysgol - Tracey Clee o Ysgol Gynradd Tregatwg, Brenda Cleak ac Wyn Gower o Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn, Jeffrey Schembri o Ysgol Gynradd Oakfield a Hannah Cogbill o Ysgol Gynradd Tregatwg.
Cofiwch y gall pawb bleidleisio. Gallwch fwrw eich pleidlais ym mhob categori, hyd yn oed os nad eich adran chi ydyw. Cofiwch mai dim ond un bleidlais y gallwch ei bwrw ym mhob categori. Caiff y rhestrau byr eraill eu llunio yn ystod yr wythnosau nesaf.
Hon fydd yr wythnos lawn olaf cyn dechrau Gwyliau'r Haf i lawer o’n cydweithwyr ysgol. Hoffwn ddiolch i’r holl staff ysgol am eu gwaith caled dros flwyddyn sydd wedi bod yn rhyfedd ac yn heriol o hyd.
Pob lwc i'r disgyblion hynny sy'n cael eu canlyniadau ym mis Awst.
Tra ar y pwnc o ysgolion, mae cydweithwyr wedi gweithio'n galed i sefydlu gwersyll pêl-droed haf i'w gynnal yn Ysgol Uwchradd Whitmore dros wyliau'r haf ac yn dechrau ar 25 Gorffennaf. Mae hyn yn argoeli i fod yn llwyddiant ysgubol a hoffwn longyfarch cydweithwyr o’r ysgol a’r Cyngor sydd wedi bod yn allweddol wrth sefydlu hyn gydag Academi Pêl-droed Joe Ledley. Diolch i ddull tîm, bydd cyfranogwyr hefyd yn elwa o becynnau bwyd am ddim a ddarperir gan y Cyngor trwy gwmni Big Fresh Catering.
Hoffwn atgoffa pawb hefyd y bydd ein cydweithwyr yn cynnal digwyddiad Arolwg Staff yn Nepo'r Alpau yr wythnos nesaf. Mae'r digwyddiad yn agored i bawb sydd am gymryd rhan yn yr Arolwg Staff, ond nad ydynt wedi cael y cyfle i wneud felly eto. Bydd brechdan a diod am ddim i'r rheiny sy'n cymryd rhan.
Cynhelir y digwyddiad ddydd Iau 21 Gorffennaf rhwng 6am a 4pm. Hoffwn sicrhau pawb y bydd eich ymatebion yn aros yn ddienw. Bydd sioe deithiol yr Arolwg Staff hefyd yn mynd i'n cartrefi preswyl yn ystod yr wythnosau nesaf.
Os na allwch fynd i’r digwyddiad, rhowch o’ch amser i lenwi'r arolwg ar-lein. Ni ddylai hyn gymryd mwy na 15 munud a bydd yn ein helpu i'ch cefnogi'n well yn y dyfodol.
Yn olaf, hoffwn atgoffa cydweithwyr o'r wybodaeth am Gostau Byw sydd ar gael ar Staffnet+. Mae canllawiau a chynlluniau ar gael i helpu'r rheiny y mae’r costau byw cynyddol yn effeithio arnynt.
Byddaf yn dod â’r neges hon i ben drwy ddymuno pob lwc i bawb sy'n cymryd rhan yn Narbi Lawr Rhiw blynyddol Penarth. Pob lwc i chi i gyd.
Fel bob amser, diolch i chi i gyd am eich gwaith yr wythnos hon. Diolch yn fawr.
Rob.