Yr Wythnos Gyda Rob
29 Gorffenaf, 2022
Annwyl gydweithwyr,
Gobeithio’ch bod i gyd yn iawn. Er ei bod yn adeg dechrau gwyliau haf yr ysgolion does byth wythnos dawel i'n sefydliad ni, ac mae hon wedi bod yn wythnos brysur.
Bydd llawer ohonoch wedi gweld yn y cyfryngau yr wythnos hon bod y cynnydd mewn biliau ynni cartrefi yr hydref hwn yn debygol o fod hyd yn oed yn uwch na'r hyn a ragwelwyd yn flaenorol. Daeth ein gweithgor costau byw mewnol ynghyd y bore yma i ystyried sut y gallwn barhau i gefnogi preswylwyr a staff gyda hyn a'r cynnydd ehangach mewn costau byw. Yn y tymor byr rydym wedi diweddaru'r hybiau Costau Byw ar ein gwefan a StaffNet+ gyda gwaith yn parhau er mwyn i ni allu cefnogi cydweithwyr a'n cymunedau yn y ffordd orau bosibl.
Mae'r wythnos hon hefyd wedi gweld carreg filltir bwysig yn ein gwaith datblygu economaidd gyda chyflwyno cais y Cyngor i Gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU. Rwy'n siŵr y byddwch i gyd wedi clywed trafodaeth yn y cyfryngau am uchelgeisiau Llywodraeth y DU ar gyfer y gronfa. Yn sicr rydym wedi cyflwyno cynnig gyda lefel o uchelgais. Wedi'i lywio gan hanes morwrol a diwydiannol yr ardal, mae'r cais yn cynnwys dau brosiect allweddol a fydd, gyda'i gilydd, yn ffurfio pecyn enfawr o fuddsoddiad i barhau i adfywio ardal dociau’r Barri a’r glannau cyfagos.
Mae'r cynlluniau ar gyfer marina a chanolfan chwaraeon dŵr newydd yn hynod drawiadol ac mae wedi bod yn ymdrech tîm go iawn i gael y cais at ei gilydd. Er bod y gwaith wedi'i arwain gan dimau yn y Gyfarwyddiaeth Lleoedd, mae'r cais yn enghraifft wych arall eto o sut mae cydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad wedi eu cefnogi ei gilydd ac wedi gweithio'n agos drwyddi draw. Hoffwn ddiolch i bawb a fu ynghlwm wrth y gwaith, o arweinwyr adfywio i gyfreithwyr ac arbenigwyr cyllid, ac rwy'n edrych ymlaen at rannu diweddariad pellach wedi i’r cais gael ei ystyried.
Os bydd yn llwyddiannus, gallai'r cais nodi dechrau rhaglen fawr arall o fuddsoddiad i'n cymunedau. Yn gysylltiedig â’r pwnc hwn, bore 'ma fe gwrddais â chydweithwyr o Gyngor Tref Penarth i drafod camau nesaf y buddsoddiad parhaus yng nglan môr Penarth. Bu gwariant sylweddol ar y Pier, y Pafiliwn, ac Esplanâd dros y blynyddoedd diwethaf. Cyn hir iawn byddwn yn lansio rhaglen ymgysylltu â thrigolion, busnesau a phartneriaid lleol allweddol ar sut i sicrhau bod Penarth yn cael y budd mwyaf posibl o hyn. Enghraifft wych o'r Cyngor yn gweithio gyda i'r cymunedau rydym yn eu cefnogi, ac iddyn nhw.
Enghraifft ddiweddar arall o'r Cyngor yn buddsoddi yn y gymuned yw'r ardal ymarfer corff awyr agored sydd newydd ei hagor yng Nghanolfan Hamdden y Barri. Agorwyd yr ardal hon yn swyddogol i'r cyhoedd yr wythnos hon. Mae cyfleusterau hamdden yn y Fro wedi gwella'n fawr ers i'r Cyngor ddechrau partneriaeth gyda Parkwood, neu Legacy Leisure fel y maen nhw erbyn hyn, bron ddeng mlynedd yn ôl. Mae rhai wedi honni mai dyma’r bartneriaeth fwyaf llwyddiannus o'i math yng Nghymru gyda chynnydd yn nefnydd y cyfleusterau a symiau sylweddol yn cael eu hail-fuddsoddi ynddyn nhw bob blwyddyn. Roedd agor y gofod awyr agored newydd yn cyd-fynd â'r cyhoeddiad bod y bartneriaeth hon wedi'i hymestyn tan 2030. Diolch i bawb yn Nhîm y Fro a'n cydweithwyr yn Legacy sydd wedi sicrhau llwyddiant y prosiect hwn.
Un o Dimoedd eraill y Fro sy'n gwneud eu rhan i hybu byw'n iach yw'r rhedwyr fydd yn cynrychioli'r Cyngor ac yn codi arian i Sefydliad y Maer yn ras 10k y Barri y penwythnos nesaf. Mae'r tîm yn gobeithio codi £1000. Gallwch gael mwy o wybodaeth a chyfrannu drwy dudalen Tîm 10k y Fro ar StaffNet+.
Rwyf wastad yn mwynhau gallu cydnabod cydweithwyr sydd wedi dangos ymrwymiad eithriadol i'r Cyngor a thrigolion y Fro. Un person o'r fath yw Elaine Edgerton yn ein tîm Cynllunio. Yn ddiweddar dathlodd Elaine 40 mlynedd o weithio i'r Fro. Mae'n teimlo fel ddoe (wel – nid ddoe efallai) pan ddechreuais i yn Adran Gynllunio Cyngor y Fro nôl yn 1996 ac rwy'n cofio bod Elaine yn aelod allweddol o'r tîm Cymorth Busnes bryd hynny! Bydd y geiriau caredig gan reolwr Elaine yn y darn StaffNet diweddar yn taro deuddeg gyda phawb sydd wedi gweithio gydag Elaine. Maen nhw'n sicr wedi taro tant i fi. Da iawn Elaine – diolch am eich ymrwymiad a'ch ymroddiad i'r Cyngor dros y 40 mlynedd diwethaf.
Ar fater ymroddiad, ac yn boeth o’r wasg – diolch o galon i'n timau Parciau am eu hymdrechion i gynnal a gwella ein mannau gwyrdd hanfodol. Fe wnaethon ni glywed yr wythnos hon fod gan y Fro 28 parc Baner Werdd bellach - sy'n ein rhoi’n ail yn nhabl cynghrair Cymru, sy'n gryn gamp o ystyried ein maint. Mae 16 safle yn rhai cymunedol, ac mae hyn yn dangos yn glir yr hyn y gallwn ei gyflawni wrth weithio mewn partneriaeth â'n trigolion a'n cymunedau. Da iawn bawb sy'n ymwneud â chynnal a chadw ein parciau. Diolch yn fawr iawn.
Ar ôl derbyn 194 o enwebiadau - y nifer uchaf erioed - ar gyfer gwobrau 2022, mae rhestr fer pob un o'r categorïau Arwyr wedi eu cyhoeddi'r wythnos hon. Gallwch nawr bleidleisio dros eich hoff enwebai ym mhob un o'r categorïau. Gallwch bleidleisio dros gydweithiwr, hyd yn oed os nad ydyn nhw yn eich Cyfarwyddiaeth chi, felly os yw gwaith un o’n harwyr posib wedi eich helpu chi yna dyma'ch cyfle chi i ddangos eich gwerthfawrogiad.
Mae ychydig dros wythnos i fynd yn yr Arolwg Staff. Mae bron 1000 o ymatebion wedi eu derbyn hyd yma. Rydym eisiau clywed gan gynifer o bobl â phosibl felly, os nad ydych chi eisoes wedi gwneud, cofiwch fanteisio ar y cyfle i ddweud eich dweud cyn i'r arolwg gau ar 08 Awst.
Fel bob amser diolch am eich ymdrechion yr wythnos hon. Diolch yn fawr iawn.
Rob.