Yr Wythnos gyda Rob

22 Gorffenaf, 2022

Annwyl gydweithwyr,

Hoffwn ddechrau fy neges yr wythnos hon drwy ddiolch yn ddiffuant i bawb am weithio drwy'r tywydd eithriadol o boeth yr wythnos hon. Gwn y bydd wedi bod yn arbennig o anodd i'r rhai sy'n gweithio mewn rolau corfforol iawn, ond fel y dywedais yr wythnos diwethaf gall y gwres effeithio arnoch ni waeth pa rôl rydych chi’n gweithio ynddi. Gobeithio eich bod i gyd wedi gallu mwynhau'r tymheredd oerach wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen.

Cyrhaeddodd y Cyngor garreg filltir ar ei daith ddigidol yr wythnos hon wrth i'r cyfarfod cabinet hybrid cyntaf erioed gael ei gynnal ddydd Iau. Ymunais â'r cyfarfod yn bersonol o'r Swyddfeydd Dinesig a rhaid imi ddweud bod y dechnoleg yn hawdd ei defnyddio a bod yr holl broses yn hollol ddi-dor. Hoffwn ddiolch i bawb yn ein Gwasanaethau TGCh a'n Gwasanaethau Democrataidd a weithiodd i gyflawni hyn.

Staff Survey Volunteers

Rwy'n gobeithio y bydd llawer ohonoch eisoes wedi cymryd yr amser i gwblhau'r arolwg Staff diweddaraf a ddydd Iau cynhaliwyd sesiwn ymgysylltu arno yn Nepo'r Alpau. Roedd hwn yn foment arwyddocaol arall gan mai dyma'r ymarfer ymgysylltu staff wyneb yn wyneb ar raddfa fawr gyntaf a gynhaliwyd gennym ers y pandemig. Bydd yr arolygon a gwblhawyd ddoe, ynghyd â phob un sydd wedi’i gyflwyno hyd yn hyn, yn ddefnyddiol iawn i'n helpu i ddeall sut y gallwn wneud mwy i gefnogi staff. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i ddod i gwblhau'r arolwg yn ogystal â'r tîm a oedd yno drwy gydol y dydd i gefnogi'r digwyddiad. Os nad ydych wedi cael cyfle eto i gymryd rhan yn yr Arolwg Staff, mae gennych tan 08 Awst i wneud hynny. Bydd pob ymateb a gawn yn ein helpu i gynllunio'n well ar gyfer y dyfodol, felly cofiwch gymryd y cyfle i ddweud eich dweud.

Award

Fel sy'n digwydd yn aml, mae hon wedi bod yn wythnos arall lle mae gwaith gwych y Cyngor wedi cael cydnabyddiaeth allanol. Mae Ysgol Gynradd Trwyn y De, ysgol ddi-garbon gyntaf Cymru, wedi ennill Gwobr y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru am Ragoriaeth Cynllunio. Yn y seremoni, dywedodd Cadeirydd y Sefydliad, Rob Chichester, fod yr ysgol "yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth ac ymgorffori seilwaith ar ddechrau prosiect i ddarparu ysgol sero-net. Mae cynllunwyr a'r system gynllunio wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o reoli'r prosiect o'r dechrau i'r diwedd. Mae'r tîm hefyd yn parhau i ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd o'r prosiect hwn i lywio cynlluniau pellach."

Dyma fwy fyth o ganmoliaeth am waith gwych. Fel y gwyddoch i gyd, mae agor yr ysgol newydd hon yn y Rhws wedi bod yn un o elfennau arbennig ein gwaith i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Yr wythnos hon, roedd hefyd yn wych gweld ein hymdrechion yn y maes hwn a gwaith Cwmni Arlwyo Big Fresh a amlygwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn ei chylchlythyr ym mis Gorffennaf. Enghraifft arall o'n gwaith yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol.

Gold Award Defence

Rwyf hefyd yn falch iawn o allu rhannu bod y Cyngor wedi ennill Gwobr y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Aur y Weinyddiaeth Amddiffyn yr wythnos hon. Rhoddir y wobr hon i sefydliadau sy'n cyflogi ac yn cefnogi'r rhai sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, cyn-filwyr a'u teuluoedd. Mae Abi Warburton, ein Cydlynydd Cyn-filwyr, yn gwneud llawer iawn o waith yn y maes hwn a gwn y bydd ei hymdrechion wedi bod yn ffactor pwysig yn llwyddiant y Cyngor.

Yr wythnos hon hefyd, agorwyd y golchdy cymunedol newydd yn Nhregatwg yn y Barri. Y cynllun cyntaf o'i fath yn y Fro.  Mae'r golchdy sydd ynghlwm wrth gegin gymunedol y Big Bocs Bwyd, yn sicrhau bod peiriannau golchi a sychwyr dillad ar gael i unrhyw un eu defnyddio am ddim. Mae'r argyfwng costau byw cynyddol yn rhoi llawer o deuluoedd mewn sefyllfaoedd lle mae'n rhaid iddynt wneud dewisiadau amhosibl. Bydd y golchdy cymunedol yn rhoi lle i bawb olchi a sychu dillad eu teuluoedd a'r cyfle i gael mynediad at ystod o gymorth arall ar yr un pryd. Ariannwyd y cynllun diolch i ddefnydd arloesol o arian grant gan ein tîm Strategaeth a Phartneriaethau ac fe'i harweiniwyd gan Hannah Coghill yn Ysgol Gynradd Tregatwg. Mae gwaith arall Hannah yn y gymuned eisoes wedi cael effaith enfawr ac nid oes gennyf amheuaeth na fydd y cynllun hwn yn cael yr un effaith.

Mae mwy o enghreifftiau o'r hyn sy'n gwneud ein hysgolion a'r bobl sy'n gweithio ynddynt yn wych yn rhestr fer Gwobr Arwr Ysgolion yn rhan o’r Gwobrau Staff eleni. Mae'r pleidleisio bellach ar agor yn y categori hwn. Gallwch fwrw eich pleidlais nawr ar StaffNet+. Bydd y rhestrau byr ar gyfer gwobrau Arwyr eraill yn cael eu cyhoeddi ddydd Llun. A pheidiwch ag anghofio bod tocynnau bellach ar werth ar gyfer y digwyddiad eleni.

Yn olaf, hoffwn ffarwelio â Tom Dodsworth yn ein tîm Tai sy'n gadael Cyngor Bro Morgannwg heddiw. Mae gwaith Tom yn ystod y blynyddoedd diwethaf i gefnogi ailsefydlu ffoaduriaid Syriaidd ac Wcreinaidd yn fwy diweddar, yn ogystal â gwaith i gefnogi cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn ystod y pandemig, wedi bod yn ysbrydoledig. Mae natur ei rôl yn golygu nad yw gwaith Tom bob amser yn cael y ffanffer y mae'n ei haeddu ond mae wedi gwella bywydau pobl sydd wedi wynebu trawma anhygoel. Ar eu rhan hwy a Chyngor Bro Morgannwg hoffwn ddiolch o galon i Tom a dymuno'r gorau iddo yn ei rôl newydd.

Fel bob amser, diolch i chi i gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon.

Diolch yn fawr bawb.

Rob.