Staffnet+ >
Cyfleoedd lleoliadau â thâl Quickstart
Cyfleoedd lleoliadau â thâl Quickstart
Gwahoddir rheolwyr yr Adran i wneud cais am gynllun Quickstart yr Hydref hwn.
Bydd y cynllun yn ariannu 10 o bobl ifanc i gwblhau lleoliadau yn y Cyngor. Y nod yw rhoi sgiliau cyflogaeth hanfodol i bobl 18-24 oed sy'n byw ym Mro Morgannwg er mwyn gwella’u rhagolygon gyrfa yn y dyfodol.
Rhaid i'r swydd fod yn rôl newydd ac ni ddylai ddisodli swyddi gwag presennol neu a gynlluniwyd, nac achosi i weithwyr, prentisiaid neu gontractwyr presennol golli gwaith neu leihau eu horiau gwaith.
Rhaid i reolwyr hefyd allu darparu cyflogaeth am chwe mis (wedi'i ariannu i ddechrau trwy Quickstart). Yna bydd y Cyngor yn ceisio cynnig cyflogaeth fwy cynaliadwy i'r ymgeisydd Quickstart ar ôl cwblhau eu lleoliad yn llwyddiannus.
Bydd y cyllid yn cwmpasu 25 awr yr wythnos ar y Cyflog Byw Cenedlaethol (yn ddibynnol ar oedran ymgeiswyr) a hynny am y 6 mis. Bydd hefyd yn darparu hyd at £500 fesul ymgeisydd ar gyfer hyfforddiant ac adnoddau.
Gall rhai ymgeiswyr hefyd dderbyn hyfforddiant cyn cyflogaeth ychwanegol drwy'r rhaglen Cymunedau am Waith mewn partneriaeth â Dysgu Cymunedol i Oedolion.
Os ydych yn meddwl y gallwch gynnig lleoliad addas, cysylltwch â:
Michelle Atkins a gan gopïo Angelina Patrick i bob gohebiaeth, am ragor o wybodaeth - MEAtkins@valeofglamorgan.gov.uk / (cc) APatrick@valeofglamorgan.gov.uk
Y dyddiad cau i wneud cais yw dydd Llun 08 Awst, lle gellir darparu rhagor o wybodaeth a bydd templedi swyddi gwag yn cael eu hanfon allan i'w chwblhau. Bydd y swyddi gwag yn cael eu hysbysebu o ddydd Llun, 22 Awst gydag ymgeiswyr i fod i ddechrau ddydd Llun, 26 Medi.
Nodwch y bydd gofyn i reolwyr y swyddi gwag a gymeradwywyd gytuno i delerau ac Amodau Quickstart.