Diwrnod Rhyngwladol Anneuaidd
14 Gorffennaf
Mae Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anneuaidd yn cael ei ddathlu ar 14 Gorffennaf. Yn 2012, dewiswyd y dyddiad hwn am fod hanner ffordd rhwng Diwrnod Rhyngwladol y Dynion a Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Nod Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anneuaidd yw codi ymwybyddiaeth o'r materion niferus sy'n wynebu pobl anneuaidd fel gwahaniaethu, anghrediniaeth a nodi eu rhywedd yn anghywir.
Felly beth yw ystyr anneuaidd?
Mae anneuaidd yn derm ymbarél ar gyfer pobl nad yw eu hunaniaeth o ran rhywedd yn cyd-fynd yn gyfforddus â ‘dyn’ neu ‘fenyw’. Mae hunaniaethau anneuaidd yn amrywiol a gallant gynnwys pobl sy'n uniaethu â rhai agweddau ar hunaniaethau deuaidd, tra bod eraill yn eu gwrthod yn llwyr. Gall pobl anneuaidd deimlo bod eu hunaniaeth o ran rhywedd a'u profiad o ran rhywedd yn golygu bod yn ddyn ac yn fenyw ar yr un pryd, neu ei fod yn rhyweddhylifol, rhwng y ddau, neu'n gwbl y tu allan i'r cysyniad deuaidd hwnnw. Yn bwysig, cofiwch mai mater i unigolyn yn unig yw sut mae’n disgrifio ei hun ac nad oes un ffordd 'gywir' o fod yn anneuaidd.
I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anneuaidd, bydd Stonewall yn rhannu straeon gan bobl anneuaidd sy'n defnyddio'r hashnod #ThisIsWhatNonBinaryLooksLike.
Sut gallwn ni helpu?
Dylem ystyried sut i fod yn well cynghreiriaid i bobl anneuaidd, a bod yn fwy cynhwysol gyda phawb, ni waeth beth y bo'u hunaniaeth rhywedd. Mae defnyddio iaith gynhwysol a di-rywedd yn allweddol ac er y gall gymryd amser i ddod i arfer â hi, nid yw'n achosi unrhyw niwed i chi ac mae'n helpu i wneud i bobl anneuaidd deimlo'n ddilys a’u bod yn cael eu cydnabod. Dyma rai ffyrdd o wneud hyn:
- Dylech gynnwys eich rhagenwau yn eich llofnod e-bost a phan fyddwch yn cyflwyno eich hun – gall hyn wneud pobl eraill yn gyfforddus wrth rannu eu rhagenwau eu hunain
- Cyfarch grŵp fel 'bobl' neu 'bawb' yn hytrach na ‘boneddigion a boneddigesau' – mae’n gynhwysol ac yn atal dieithrio pobl a nodi eu rhywedd yn anghywir.
- Canolbwyntio ar y berthynas yn hytrach na’r rhywedd e.e. brodyr a chwiorydd, rhieni, partner
- Defnyddio 'nhw/eu' yn hytrach nag 'ef/ei' neu 'hi/hi' – nid yw pawb yn defnyddio rhagenwau ar sail rhywedd neu efallai nad yw eu rhagenwau dewisol yn hysbys nac yn glir. Mae defnyddio 'nhw/eu' yn ffordd hawdd, anymwthiol a naturiol o fod yn barchus ac yn gynhwysol
I gael rhagor o wybodaeth am ragenwau, ewch i Pronouns Matter.
I gael rhagor o gefnogaeth a gwybodaeth am Ddiwrnod Pobl Anneuaidd, gallwch ewch i wefannau Stonewall a Papyrus.
Gellir dod o hyd i gymorth a chyngor i bobl anneuaidd hefyd yn Sefydliad LHDT - Hafan a Hafan | Gendered Intelligence a Hafan - Mermaids (mermaidsuk.org.uk)
Mae'r Cyngor yn gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod yn cynnig lle diogel a dymunol i bobl LHTDCRh+ weithio ac i sicrhau bod Bro Morgannwg yn amgylchedd cadarnhaol a meithringar. Os hoffech gymryd rhan yn hyn, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau am sut i wneud pethau'n well, cysylltwch â GLAM, ein Rhwydwaith Staff LHDT+.
Mae rhai cyrsiau defnyddiol a diddorol hefyd ar gael i'r holl staff ar iDev.
Os ydych yn pryderu am wahaniaethu neu aflonyddu, neu os ydych am gael rhagor o wybodaeth am sut i adrodd am hyn, gweler polisi cwynion Cyngor Bro Morgannwg.