Yr Wythnos Gyda Rob

28 January 2022

Annwyl gydweithwyr,

Gobeithio eich bod i gyd yn iawn, wrth i ni nesáu at y penwythnos.

Mae'r flwyddyn newydd yn parhau i roi ymdeimlad o optimistiaeth i ni o ran y pandemig ac o heddiw ymlaen mae Cymru'n dychwelyd i lefel rhybudd sero, y lefel isaf o gyfyngiadau.

Yr unig reolau sydd bellach ar waith yng Nghymru yw bod yn rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, heblaw am mewn lleoliadau lletygarwch, gofyniad i fusnesau wneud asesiadau risg, gofyniad bod yn rhaid i bobl hunanynysu pan fyddant yn profi'n bositif, ac angen pasau Covid ar gyfer digwyddiadau mawr, sinemâu a chlybiau nos.

Mae’r cyngor yng Nghymru yn wahanol i Loegr, ac mae un maes o wahaniaeth yn ymwneud â'r ffaith bod gweithio gartref yng Nghymru yn parhau i gael ei annog.  O ran y Cyngor, gall staff barhau i weithio'n hyblyg boed hynny gartref neu yn y gweithle yn seiliedig ar anghenion ein cwsmeriaid, anghenion busnes eu timau a'r hyn sydd orau ar gyfer eu lles eu hunain. Yn y pen draw, yr hyn sy'n gweithio sy’n bwysig, a byddwn yn annog pob cydweithiwr i gael sgyrsiau gyda'u rheolwyr i sicrhau bod y dull a fabwysiedir yn gweithio yn y ffordd fwyaf priodol i'ch tîm.  Mae lles yn fater na ddylem golli golwg arno. Er bod cyfyngiadau’n cael eu codi, efallai na fydd hyn yn lleddfu teimladau o straen neu bryder a achosir gan realiti byw drwy'r pandemig. Byddwn yn annog unrhyw un nad yw wedi cael cyfle eto, i wylio'r Gweminar Lles, Gwydnwch a Myfyrio sydd ar gael drwy StaffNet+. Mae'n bwysicach nag erioed ein bod i gyd yn cael amser i wneud synnwyr o'r ddwy flynedd ddiwethaf a gofalu amdanom ein hunain.

Hoffwn hefyd atgoffa'r rheolwyr i gyd i barhau i gysylltu â'u timau i sicrhau bod y trefniadau gweithio sydd ar waith yn cadw ein cydweithwyr yn ddiogel ac yn iach, yn ogystal â sicrhau bod ein preswylwyr yn parhau i dderbyn gwasanaeth rhagorol.

Pencoedtre school

Yn fy neges yr wythnos diwethaf, ysgrifennais am agoriad Ysgol Uwchradd newydd Pencoedtre. Mae wedi bod yn wych gweld llawer o sylw yn y cyfryngau yr wythnos hon yn tynnu sylw at y cyfleuster newydd gwych sydd gennym ar gyfer dysgwyr yn y Fro. Hoffwn ddiolch i'r pennaeth a'r disgyblion a fu mor groesawgar yn ystod ein diwrnod i’r cyfryngau yn gynharach yr wythnos hon ac i'n Tîm Cyfathrebu am helpu i sicrhau bod gwaith cydweithwyr ar draws y sefydliad yn cael y gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu.

Gwasanaeth arall sy'n cael canmoliaeth haeddiannol yw ein tîm Tai. Mae Mike Ingram ac Andrew Freegard wedi cael sylw yn y Welsh Housing Quarterly ynghylch dychweliad Bro Morgannwg i ddatblygu tai cyngor newydd a'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae adeiladu tai cymdeithasol newydd wrth wraidd strategaeth y Cyngor i adeiladu cymunedau cryfach ym Mro Morgannwg. Mae'n wych gweld ein gwaith yn cael ei ddangos fel esiampl i eraill ei ddilyn.

Farida Aslam

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwaith gwych sy'n cael ei wneud yn y maes hwnnw mewn darn newyddion mewnol a gyhoeddwyd ar StaffNet yr wythnos hon sy'n cynnwys cyfweliad â Farida Aslam. Farida, ynghyd â Rob Thompson, sy'n arwain ein Tîm Cyfoethogi Cymunedau. Mae eu gwaith yn cael effaith wirioneddol ar fywydau llawer o denantiaid ac maent yn awyddus i wneud cysylltiadau â thimau eraill ar draws y sefydliad a allai eu helpu i wneud hyd yn oed mwy.

Hoffwn dynnu eich sylw hefyd at eitem arall sydd wedi ymddangos ar StaffNet yr wythnos hon, sef lansio'r ymgynghoriad cyhoeddus ar ein Strategaeth ddrafft ar Gyfranogiad y Cyhoedd. Dyma elfen arall o’n gwaith i wella'r ffordd rydym yn gweithio gyda chymunedau yn y Fro. Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae i’w gwneud hi mor hawdd â phosibl i drigolion ddylanwadu ar benderfyniadau a wneir gan y Cyngor ac os oes gennych unrhyw farn ar sut y gallwn wneud hynny, mae hwn yn gyfle gwych i chi ei rhannu.

Rwy’n gorffen yr wythnos hon drwy ailadrodd y cyngor sy'n parhau mor berthnasol nawr ag y bu drwy gydol y pandemig. I'r rheini ohonom fydd yn mynychu'r gweithle yn amlach, cofiwch y cyngor a'r arweiniad ynghylch gorchuddion wyneb, hylendid dwylo, cynnal pellteroedd diogel a gwneud profion llif unffordd rheolaidd.  Gobeithio y bydd y camau syml hyn yn ein helpu ni i gadw'n ddiogel, a'n cydweithwyr a'n teuluoedd.

Fel bob amser, diolch i chi i gyd am eich gwaith caled yr wythnos hon. Beth bynnag sydd gennych ar y gweill y penwythnos hwn, mwynhewch.

Diolch yn fawr iawn.

Rob.