Staffnet+ >
Wellbeing, Resilience & Reflection webinar launched for all Vale of Glamorgan Council staff
Gweminar Lles, Cydnerthedd a Myfyrio yn cael ei lansio ar gyfer pob aelod o staff Cyngor Bro Morgannwg
10 Ionawr 2022
Wrth i ni nesáu at ddiwedd 2021 a nodi blwyddyn gyfan ers anterth y pandemig, mae'r Cyngor yn lansio Gweminar Lles, Cydnerthedd a Myfyrio i roi cyfle i bawb gymryd seibiant a myfyrio ar eu profiadau.
Mae'r weminar, sy’n cael ei chynnal gan Dr Coral Harper, wedi'i chynllunio i helpu i gefnogi staff drwy ddangos dulliau ymdopi a rhannu'r goreuon o'r cyfoeth o ganllawiau sydd ar gael ar-lein. Mae hefyd ar gael i bob aelod etholedig.
Mae'r weminar bwrpasol wedi'i chreu ar gyfer Cyngor Bro Morgannwg yn unig ac mae wedi'i chynllunio i'n helpu ni i gyd i ddeall effaith y pandemig ar ein bywydau a chynnig arweiniad ymarferol ar sut i ofalu amdanom ein hunain a'n ffrindiau a'n cydweithwyr wrth i ni ddechrau gaeaf heriol arall.
Mewn e-bost at yr holl staff yn lansio'r weminar dywedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr: "Mae llawer wedi'i ddweud ers mis Mawrth 2020 am yr angen i bob un ohonom gymryd yr amser i stopio a myfyrio ar sut mae'r pandemig a'r newidiadau a ddaeth i'n bywydau a'n gwaith wedi effeithio arnom.
"Bydd y 18 mis diwethaf wedi effeithio arnom ni i gyd mewn gwahanol ffyrdd. Bydd llawer o'n staff wedi gweld newidiadau aruthrol yn eu gwaith, bydd eraill wedi gorfod addasu i ffyrdd newydd o fyw y tu allan i'r gwaith. Bydd wedi effeithio ar rai pobl yn ariannol. Bydd gan eraill bryderon dilys iawn am addasu i fyd ôl-Covid.
"Beth bynnag fo'n hamgylchiadau unigol, p'un a ydym yn staff rheng flaen, yn rheolwyr neu'n aelodau, rydym i gyd wedi profi cyfnod pryderus a llawn straen."
Mae'r Weminar Lles, Cydnerthedd a Myfyrio ar gael i'r holl staff ac aelodau etholedig tan 30 Medi 2022.
Mae'r Weminar Lles, Cydnerthedd a Myfyrio yn un o'r ffyrdd y mae ein tîm Adnoddau Dynol yn gweithio i gefnogi cydweithwyr. Unwaith eto, mae'r holl adnoddau hyn ar gael i gynghorwyr. I gael rhagor o wybodaeth am ein mentrau lles amrywiol ewch i'r hyb lles ar StaffNet+.
Weminar Lles, Cydnerthedd a Myfyrio