Staffnet+ >
Neges oddi wrth y Rheolwr Gyfarwyddwr 21 Ionawr
Neges oddi wrth y Rheolwr Gyfarwyddwr
21 Ionawr, 2022
Annwyl Gydweithwyr,
Gobeithio bod popeth yn iawn ar ddiwedd wythnos brysur arall.
Ar lefel genedlaethol, mae'r newyddion yn gynyddol obeithiol gan ei bod yn ymddangos bod effaith yr amrywiolyn Omicron yn cilio.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i leddfu'r cyfyngiadau wrth i ni symud tuag at Lefel Rhybudd Sero ac o heddiw ymlaen nid oes cyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobl sy'n gallu cwrdd yn yr awyr agored.
Bydd clybiau nos hefyd yn ailagor o ddydd Gwener nesaf, gyda’r angen i ddangos pasys Covid er mwyn mynd i mewn iddynt. Bydd hefyd angen pasys ar gyfer theatrau, neuaddau cyngerdd a digwyddiadau mawr eraill.
Ym maes lletygarwch, ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar gwrdd â phobl o 28 Ionawr ac ni fydd unrhyw ofyniad am wasanaeth bwrdd nac i gadw pellter corfforol o ddau fetr. Ni fydd angen gweithio gartref yn ôl y gyfraith ond bydd gweithio gartref yn y canllawiau o hyd.
O ran y Cyngor, gall staff barhau i weithio'n hyblyg boed hynny gartref neu yn y gweithle yn seiliedig ar anghenion busnes eu timau a'r hyn sydd orau ar gyfer eu lles eu hunain. Fel arfer, rhaid i ofynion ein trigolion, ein grwpiau cleientiaid a’n cwsmeriaid ddod yn gyntaf. Byddwn yn annog pob cyd-weithiwr a rheolwr i barhau i gydgysylltu i sicrhau bod y dull a ddefnyddir o fewn timau yn sicrhau ein bod yn cadw ein cydweithwyr yn ddiogel a bod ein trigolion yn parhau i dderbyn gwasanaeth rhagorol.
Os hoffai unrhyw un drafod ei amgylchiadau personol ei hun, dylai siarad â’i reolwr.
Yn amlwg, mae'r rhain yn arwyddion calonogol iawn ac, er nad ydym allan o drafferthion o bell ffordd, dylai'r sefyllfa bresennol roi rheswm i ni fod yn optimistaidd wrth i ni edrych ymlaen at weddill y flwyddyn.
Mae digon i deimlo’n bositif amdano hefyd pan ystyriwn rywfaint o'r gwaith gwych sy'n digwydd yn y Fro.
Agorodd Ysgol Uwchradd Pencoedtre ar ei newydd wedd yn ddiweddar, gyda disgyblion bellach yn cael eu haddysgu mewn adeilad tri llawr hynod fodern yn dilyn buddsoddiad £35 miliwn ar y safle.
Pencoedtre yw'r ysgol ddiweddaraf i gael gwaith gwella cynhwysfawr yn rhan o'n rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif uchelgeisiol a phellgyrhaeddol. Mae gwaith ailddatblygu tebyg wedi’i wneud yn ddiweddar i adeiladu ysgol uwchradd newydd sbon yn Whitmore ac i ailfodelu Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg. Mae amrywiaeth o brosiectau eraill i uwchraddio cyfleusterau addysg hefyd yn cael eu cynnal ledled y Sir.
Mae’r prosiect diweddaraf hwn wedi cynnwys creu neuadd fwyta, cwrt, ardal chweched dosbarth, mannau perfformio a chyfleusterau chwaraeon ardderchog gan gynnwys cae hoci pob tywydd, caeau pêl-droed a rygbi glaswellt, cyrtiau gemau a neuadd chwaraeon dan do.
Mae cwblhau gwaith mor helaeth o ansawdd uchel yn dyst i’r cydweithwyr yn nhîm Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor, sydd eisoes wedi ennill sawl gwobr am ei berfformiad rhagorol.
Caiff yr ymdrechion gwych hynny fwy o sylw yr wythnos nesaf pan fydd y cyfryngau'n ymweld â Phencoedtre i dynnu sylw at y datblygiad trawiadol.
Gan aros gyda Dysgu a Sgiliau, roedd yn wych gweld Ysgol Gynradd Ynys y Barri yn gwneud defnydd da o'r arian a gafodd gan y Big Fresh Catering Company.
Mae'r ysgol wedi adeiladu man bwyta awyr agored i’r disgyblion a’r staff ei fwynhau wrth fwyta eu cinio neu wrth gael coffi.
Roedd yn bosibl oherwydd llwyddiant Big Fresh, gydag ysgolion yn gallu gwneud cais am Grant Dinasyddiaeth Dda ar ben y taliad o £5,000 a wnaed yn rhan o gynllun rhannu elw'r cwmni.
Gwariodd Ysgol Gynradd Ynys y Barri yr arian ar y man bwyta, sy'n galluogi’r plant i fwynhau golygfeydd o'r maes chwarae yn ystod amser egwyl.
Mae'r prosiect hwn yn dangos ymhellach y gwahaniaeth gwirioneddol y mae Big Fresh yn ei wneud i ysgolion y Fro a'u disgyblion.
Sefydlu cwmni masnachu i ddarparu ein gwasanaeth arlwyo, sy'n galluogi arian i gael ei ail-fuddsoddi yn y gwasanaeth ac yn ein hysgolion, yw'r math o arloesi sydd ei angen arnom wrth i ni symud ymlaen gyda'n hagenda ail-lunio trawsnewid.
Mae Carole Tyley a'i thîm yn haeddu clod aruthrol am yr hyn y mae Big Fresh wedi'i gyflawni hyd yn hyn, gyda mwy o gynlluniau cyffrous ar y ffordd.
Wrth siarad am longyfarchiadau, roeddwn am ddweud da iawn i Louise Jones am ennill Medal yr Ymerodraeth Brydeinig yn ddiweddar.
Aeth Louise, sy’n weithiwr cymdeithasol yn y Fro gyda'r Tîm Gwasanaethau Oedolion ers 10 mlynedd, i drafferth fawr i helpu'r trigolion niferus oedd yn dioddef unigrwydd ac arwahanrwydd ar ddechrau'r pandemig.
Gwnaeth hi gysuro a chefnogi pobl ar adeg heriol iawn ac mae'r gydnabyddiaeth hon yn haeddiannol iawn.
Hoffwn hefyd sôn am Bronnie Griffiths o'r Tîm Byw'n Iach, sydd wedi cwblhau Gradd Meistr mewn Arweinyddiaeth mewn Chwaraeon.
Mae Bronnie wedi treulio'r ddwy flynedd ddiwethaf yn astudio ym Mhrifysgol De Cymru ochr yn ochr â'i swydd. Mae angen ymrwymiad ac ymroddiad gwirioneddol i astudio ar gyfer Gradd Meistr tra'n gweithio'n llawn amser. Da iawn Bronnie.
Yn olaf, roeddwn am dynnu sylw at yr ystod o gyrsiau Cymraeg newydd a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru sy’n dechrau ddiwedd y mis.
Mae Lefelau Mynediad a Sylfaen ar gael am hanner pris drwy ddefnyddio cod hyrwyddo ac mae cwrs blasu am ddim ar gael cyn y cwrs.
Mae'r Gymraeg yn rhan bwysig o weledigaeth y Cyngor ar gyfer y dyfodol a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gofrestru.
Mae arian ychwanegol ar gael i staff y Cyngor, gweithwyr ysgolion y Fro a'r rhai sydd ar gredyd cynhwysol.
Cewch mwy o wybodaeth yn yr erthygl hon.
I gloi, diolch i chi i gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon. Wrth i 2022 fynd yn ei flaen, rwy'n mawr obeithio y bydd yr holl arwyddion cynnar o’r gostyngiad yn y cyfraddau covid yn parhau ac y bydd rhai o'r pwysau a'r heriau hefyd yn lleihau.
Gobeithio y cewch benwythnos braf ac ymlaciol.
Diolch yn fawr,
Rob