Rob Message header summer update

Annwyl gydweithwyr,  


Gobeithio eich bod chi i gyd yn cadw’n iawn.  Mae'r wythnos yn dod i ben gyda rhywfaint o newyddion i'w groesawu gyda Phrif Weinidog Cymru’n cyhoeddi heddiw fod mwy o dystiolaeth bod Omicron yn wannach yn yr awyr agored ac y bydd yn dechrau llacio'r cyfyngiadau o'r wythnos nesaf o ganlyniad.

Mae hyn yn amlwg yn newyddion da ac mae'r gostyngiad sylweddol yn nifer yr achosion, er lefelau uchel iawn yr wythnos ddiwethaf, yn awgrymu y gallai'r don Covid ddiweddaraf fod wedi cyrraedd uchafbwynt.  Er gwaethaf hyn, mae llawer o'n gwasanaethau yn dal i fod dan bwysau aruthrol oherwydd materion staffio ac felly er ein bod i gyd yn croesawu'r newyddion, rwyf am ailadrodd yr hyn a ddwedais yr wythnos ddiwethaf a dweud diolch yn fawr iawn i bawb sy’n mynd y tu hwnt i’r disgwyl i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau hanfodol i'r rheiny sydd eu hangen fwyaf.

Disrupt the transmission CyMae hynny'n ddiolch sy'n ymestyn i'r rheiny sydd wedi bod yn gweithio'n gyflym yr wythnos hon i alluogi’r cyhoedd i gasglu pecynnau profion llif unffordd o leoliadau ledled y Fro. Dyma ddatblygiad hollbwysig arall yn yr ymateb rhanbarthol. Mae ein llyfrgelloedd a'n timau Cyswllt Un Fro wedi bod yn gyflym wrth addasu unwaith eto i weithio mewn ffordd newydd a darparu gwasanaeth pwysig arall i'n trigolion.  Efallai bod rhai ohonoch eisoes wedi gweld y canllawiau newydd i staff sydd angen profion llif unffordd a gyhoeddwyd ddoe. Os na, darllenwch nhw. 

Mae'n teimlo fy mod wedi bod yn ysgrifennu am Covid-19 a'i effaith ers amser maith. Mae'r pandemig wedi para 22 mis hyd yma ac mae'n ymddangos ei fod yn debygol o barhau am lawer hirach.  Dyma pam, wrth i ni gyrraedd dwy flynedd ers dechrau’r pandemig, fod y Cyngor yn lansio Gweminar Lles, Gwydnwch a Myfyrio i roi cyfle i bawb gymryd seibiant a myfyrio ar eu profiadau.  Bydd y weminar, a gaiff ei chynnal gan Dr Coral Harper, yn helpu i gefnogi staff drwy ddangos dulliau ymdopi a rhannu'r goreuon o'r cyfoeth o ganllawiau sydd ar gael ar-lein. 

Mae'r Weminar Lles, Gwydnwch a Myfyrio ar gael i'r holl staff tan 31 Mai 2022. Gallwch ei gwylio ar unrhyw adeg sy'n gyfleus i chi drwy StaffNet+. Mae'r weminar yn un o'r mentrau a ddatblygwyd gan ein Hyrwyddwyr Lles a hoffwn ddiolch iddynt am eu holl ymdrechion i gefnogi cydweithwyr ym mhob rhan o’r Cyngor. 

Vale Public Service Board

Mae ymgysylltu â'r Hyrwyddwyr yn un o sawl ffordd y gallwch helpu i lunio gwaith a chyfeiriad y Cyngor.  Ffordd arall yw drwy ein gwaith ymgysylltu â'r cyhoedd, sydd bob amser yn rhywbeth y gall staff gymryd rhan ynddo.  Hoffwn ddiolch i'r rheiny ohonoch a ymatebodd i’r ymgynghoriadau ar Gynllun Cyflawni Blynyddol a Chyllideb 2022/23 sydd wedi dod i ben yr wythnos hon ac ar yr un pryd hoffwn dynnu eich sylw at yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Asesiad Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y Fro a lansiwyd yn ddiweddar. 

Dyma'r ail Asesiad Lles i’w gynnal gan BGC y Fro. Mae'r asesiad, Golwg ar Fro Morgannwg wedi defnyddio ystod o ddata, ymchwil a thystiolaeth genedlaethol a lleol ochr yn ochr â chanfyddiadau'r rhaglen ymgysylltu 'Let’s Talk' i ystyried cyflwr lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ledled Bro Morgannwg. Mae'n ddarn enfawr o waith, dan arweiniad ein tîm Polisi a Thrawsnewid Busnes, sy'n cynnig cipolwg diddorol ar fywyd yn y Fro. Bellach mae angen i'r tîm wybod a yw ei ymchwil yn cyd-fynd â phrofiadau pobl o fywyd yn y Fro felly neilltuwch amser i edrych arno a dweud eich dweud

Yn olaf, hoffwn rannu rhywfaint o waith gwych sydd eisoes wedi cael llawer o sylw yr wythnos hon. Efallai eich bod wedi gweld llwyddiant ein timau Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir a Gwasanaethau Cyfreithiol wrth erlyn pâr o fridwyr cŵn anghyfreithlon sydd wedi cyrraedd penawdau’r wasg genedlaethol. Darn gwych o waith sydd wedi sicrhau bod pobl sy'n ymwneud â gwaith bridio anifeiliaid creulon ac anrheoledig wedi’u dwyn i gyfrif. Gwaith da bawb. 

Fel bob amser, diolch i chi i gyd am eich gwaith caled yr wythnos hon. 

Diolch yn fawr iawn.

Rob.