Rob Message header summer update

Annwyl gydweithwyr,

Blwyddyn Newydd Dda, a chroeso nôl i chi i gyd. P’un a’ch bod wedi cael gwyliau pythefnos neu ddau ddiwrnod rwy'n gobeithio y cafodd pob un ohonoch seibiant a chyfle i orffwys dros y Nadolig.

Mae dechrau'r flwyddyn newydd bob amser yn dod â llawer i edrych ymlaen ato. Ar gyfer ein Cyngor mae’n debygol y daw 2022 â llawer mwy o heriau ond rwy'n gwybod y bydd y rhain, fel bob amser, yn rhoi cyfle i ni i gyd brofi ein sgiliau drwy weithio mewn ffyrdd newydd. Mae hefyd yn flwyddyn a fydd yn gweld darnau hirhoedlog o waith yn dwyn ffrwyth. 

Project Zero LogoByddwn yn parhau i adeiladu ysgolion newydd sy'n darparu amgylcheddau dysgu a gweithio rhagorol i'n disgyblion. Bydd y gwaith o gyflwyno'r newidiadau ailgylchu rydym wedi bod yn gweithio arnynt yn cael ei gwblhau ym Mhenarth a'r cyffiniau. Rwy'n falch y byddwn yn parhau i adeiladu cartrefi cyngor newydd i breswylwyr. Byddwn yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o gefnogi plant a phobl hŷn sydd angen ein gwasanaethau cymdeithasol. Byddwn hefyd yn datblygu ein gwaith Ail-lunio, gan gyflawni ein hymrwymiadau Prosiect Sero ac, fel bob amser, bydd ein gwasanaethau corfforaethol yno i gefnogi ein ffyrdd newydd o weithio.

Fel y gwyddoch, wrth gwrs, mae ein sefydliad, fel llawer o'r sector cyhoeddus, dan straen sylweddol ar hyn o bryd. Yr wythnos hon, cyfarfu'r Tîm Arweinyddiaeth Strategol fel y Grŵp Gorchymyn Aur, yn unol â'n protocolau cynllunio at argyfyngau, i drafod y sefyllfa bresennol. Ddydd Mercher cwrddais ag uwch arweinwyr y sector cyhoeddus o bob rhan o Dde Cymru. Yr arwyddion presennol yw y bydd cyfraddau Covid yn cyrraedd uchafbwynt yn ystod yr wythnosau nesaf. Er mwyn helpu i reoli ac ymateb i'r heriau, gyda phrinder staff yn her amlwg, rydym yn gweithio'n agos gyda chynghorau cyfagos, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Heddlu De Cymru. Rwyf yn falch o ddweud bod y partneriaethau hyn yn gryfach nag erioed ac mae ffocws o'r newydd ar sicrhau ein bod i gyd yno i gefnogi'r rhai sydd angen y gefnogaeth honno fwyaf.

Daeth canllawiau cenedlaethol newydd ar brofi a hunanynysu i rym ddoe (Dydd Iau 06 Ionawr). Os cewch ganlyniad prawf llif unffordd cyflym positif, ni fydd angen i'r rhan fwyaf o bobl gael prawf PCR  bellach i gadarnhau'r canlyniad. Yn hytrach, rhaid i chi hunanynysu. Mae cwestiynau cyffredin a’u hatebion yn cael eu diweddaru a’u paratoi a byddant yn cael eu rhannu gyda chydweithwyr yn gynnar yr wythnos nesaf pan fyddant ar gael.  

Disrupt the transmission

Os yw eich rôl yn gofyn i chi ddod i un o'n hadeiladau neu weithio'n agos gyda chydweithwyr neu aelodau o'r cyhoedd mewn unrhyw leoliad arall, gallwch archebu pecynnau prawf Llif Unffordd (LFD) yn uniongyrchol gan y Tîm Cyfarpar Diogelu Personol. 

Mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau heddiw fod Cymru'n parhau i fod ar Lefel Rhybudd 2. Fel y bu ein cyfarwyddyd ers yr Hydref, dylai pawb weithio gartref lle bynnag y bo modd. Dyma un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau cymysgu ac arafu lledaeniad y feirws. Mae'n bolisi sydd wedi'i gynllunio i'ch cadw chi, eich anwyliaid a'ch cydweithwyr yn ddiogel. Dylech hefyd fod yn dilyn y drefn dwylo, wyneb, pellter sy’n gyfarwydd iawn i ni i gyd erbyn hyn.   

Mater arall ym maes iechyd cyhoeddus sydd wedi denu llawer o sylw yn y cyfryngau yr wythnos hon yw sgrinio serfigol, a newidiadau i gyfnodau sgrinio yng Nghymru. Mae hyn wedi ei drafod yn eang ac efallai ei fod wedi achosi pryder. Roeddwn i eisiau defnyddio'r neges hon i rhannu dolen at esboniad clir o'r newidiadau sydd wedi'i gyhoeddi yn sgil y trafod a gobeithio y bydd yn rhoi rhywfaint o sicrwydd. Mae Cwestiynau Cyffredin hefyd wedi'u cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Diolch fel bob amser am eich gwaith yr wythnos hon, ac am y pethau gwych rwy'n gwybod y byddwn yn eu cyflawni yn 2022. Diolch yn fawr iawn.  

Rob.