Diwydiant gwallt a harddwch Bro Morgannwg i helpu i fynd i'r afael â cham-drin domestig

Gofynnwyd i siopau trin gwallt, barbwyr a gweithwyr harddwch ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg am eu cefnogaeth i helpu i fynd i'r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol.

 

Gall canlyniadau cam-drin domestig a thrais rhywiol fod yn bellgyrhaeddol a chael effaith ddifrifol ar bob agwedd ar fywydau dioddefwyr felly nod y fenter hon yw sicrhau bod pawb sy'n profi camdriniaeth – menywod, dynion a phlant yn cael eu cefnogi.

 

 

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Ben Gray, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Rydym yn gwybod bod trinwyr gwallt, barbwyr ac ymarferwyr eraill y diwydiant harddwch yn clywed yn rheolaidd am fywyd cartref eu cleient.

 

"Rydym yn gobeithio y bydd dosbarthu'r adnoddau hyn yn helpu pobl yn y rolau hyn i nodi dioddefwyr camdriniaeth a thrais yn erbyn menywod a'u grymuso i gyfeirio dioddefwyr tuag at gymorth a chefnogaeth.

 

"Gall yr ymateb cychwynnol y mae dioddefwr yn ei gael ar ôl rhannu eu profiadau effeithio ar eu hagwedd ar geisio cymorth."