Yr Wythnos Gyda Rob
18 Chwefror 2022
Annwyl gydweithwyr,
Gobeithio eich bod i gyd yn ddiogel ac yn iach ac nad yw Storm Eunice wedi achosi unrhyw ddifrod parhaol neu sylweddol yn eich ardal.
Rwy'n dechrau'r wythnos hon gyda Storm Eunice - mae'r 48 awr ddiwethaf wedi dangos pa mor gyflym y gall Tîm y Fro fynd ati i gadw ein trigolion a'n cymunedau'n ddiogel. Datblygodd pethau'n gyflym iawn ddoe ond diolch i waith gwych ein Cynllun Argyfwng a'n cydweithwyr ar draws y sefydliad, roeddem yn gallu symud yn gyflym i roi cynlluniau wrth gefn ar waith.
Cyn gynted ag y cynyddwyd y lefel rhybudd fore ddoe, gwnaed penderfyniadau ar unwaith o ran y gwasanaethau allweddol, megis ysgolion a swyddogaethau eraill y Cyngor, galwyd cyfarfod tactegol am 12:00 ac o fewn awr cytunwyd ar gynlluniau ar gyfer pob newid gwasanaeth arall. Diogelwch pawb yw ein prif flaenoriaeth bob amser ac er bod penderfyniadau i gynghori ysgolion i gau, i atal casgliadau gwastraff, a chanslo sesiynau canolfan ddydd yn cael eu cymryd yn ofalus iawn, cyn gynted ag y nodwyd y risg bosibl i staff, disgyblion a phreswylwyr nid oedd angen trafodaeth bellach.
Erbyn i'r datganiad gan y Prif Weinidog gael ei ryddhau yn cynghori pobl i deithio dim ond os oedd yn gwbl angenrheidiol roedd gennym gynlluniau ar waith i sicrhau y byddai gwasanaethau i'n pobl fwyaf agored i niwed yn cael eu staffio beth bynnag fo lefel y tarfu ar drafnidiaeth. Wedyn, cafodd y set lawn o newidiadau i wasanaethau eu cyfathrebu i'n preswylwyr a'n cydweithwyr erbyn canol y prynhawn.
Roedd llawer gormod o gydweithwyr a thimau yn rhan o'r ymdrech gynllunio ddoe i mi allu eu henwi i gyd. Yn hytrach, hoffwn ddiolch i bob un o'n cydweithwyr. Rwy’n gwybod y bydd pobl ar draws y sefydliad sy'n mynd yr ail filltir i gydbwyso eu bywyd teuluol â'u gwaith heddiw er mwyn sicrhau nad yw'r gwasanaeth gwych a ddarparwn ar gyfer y Fro yn llithro. Rwy’n gwybod gydag ond ychydig oriau o rybudd, bod eu trefniadau gweithio o bell yn ôl ar waith gan ein hysgolion. Rwy’n gwybod y bydd ein timau Gwasanaethau Cymdogaeth a'n cydweithwyr Rheoli Adeiladau allan heddiw yn cadw'r ffyrdd yn glir a mannau cyhoeddus yn ddiogel. Ac rwy’n gwybod bydd y rhai sydd wir angen ein cefnogaeth yn hyderus y byddwn yno pan fyddant yn galw arnom. Diolch bawb.
Cyn i'r storm feddiannu’r agenda newyddion, efallai bod rhai ohonoch wedi gweld y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y bydd pob un sy'n gadael gofal yng Nghymru yn cael cynnig incwm misol rheolaidd am ddwy flynedd i'w helpu i bontio i fyw'n annibynnol o dan gynllun peilot incwm sylfaenol Llywodraeth Cymru. Mae ein Cyngor yn rhiant corfforaethol i fwy na 200 o blant a phobl ifanc. Rwy’n hynod falch o waith ein cydweithwyr i'w cefnogi. Mae’r Cyngor wedi derbyn cydnabyddiaeth yn ddiweddar am ei arfer da fel un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu siarter arloesol sy'n ymgorffori hawliau rhieni sydd â phrofiad o ofal. Mae'n wych gwybod y bydd hyd yn oed mwy o gefnogaeth i roi'r cyfleoedd gorau posibl i'r rhai sy'n gadael gofal.
Maes arall lle mae ein cydweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn gweithio'n galed i gefnogi trigolion yw ein tîm Adnoddau a Chynllunio. Clywais yr wythnos hon gan Gaynor Jones a oedd am dynnu sylw at faint y gwaith a wnaed i alluogi taliadau i ddarparwyr gofal a gofalwyr o ganlyniad i fentrau cymorth ariannol amrywiol Llywodraeth Cymru. Hyd yma, mae'r tîm wedi gwneud 7,715 o daliadau i ofalwyr sy'n dod i gyfanswm o £5.21m, a 15,600 o daliadau i ddarparwyr allan o wahanol Gronfeydd Caledi, sef cyfanswm o £9.53m. Cyflawnwyd hyn i gyd gan dîm bach o staff ymroddedig sydd wedi derbyn, prosesu a thalu'r symiau o fewn yr amserlenni byr a roddwyd. Derbyniwyd sawl canmoliaeth gan ddarparwyr ynghylch pa mor broffesiynol fu'r tîm a phrydlondeb y taliadau, sydd wedi helpu darparwyr drwy gyfnodau anodd. Arweiniwyd y gwaith gwerthfawr hwn gan Naomi Meredith sydd wedi ymgymryd â'r cynlluniau ychwanegol hyn heb unrhyw bryder na rhwystredigaeth, er gwaethaf y gwaith enfawr ar ben ei swydd feunyddiol. Gan weithio ochr yn ochr â Mark Evans a Naomi Thomas sydd hefyd yn haeddu canmoliaeth fawr, mae'r gwaith yn mynd rhagddo tan o leiaf fis Mehefin 2022 felly mae'n wych gwybod y bydd y rhai sydd ei angen yn parhau i gael budd. Diolch i bawb sydd wedi chwarae rhan yn hyn. Diolch i chi gyd.
Yn olaf, gyda'r negeseuon wythnosol hyn yn cynnig cynifer o enghreifftiau o waith da’n cydweithwyr, mae'n bleser gennyf gyhoeddi y byddwn yn gallu dod at ein gilydd unwaith eto i ddathlu popeth sy'n wych am Gyngor Bro Morgannwg yn 2022. Bydd ein noson Gwobrau Gweithwyr yn dychwelyd ym mis Medi eleni. Cynhaliwyd y cyfarfod cynllunio cyntaf ar gyfer y gwobrau yr wythnos hon a bydd gennyf fwy o wybodaeth i'w chynnig wrth i'r paratoadau fynd rhagddynt. ‘Alla i ddim aros i rannu noson arall o ddathlu gyda chi i gyd a bydd yn hen bryd ar ôl heriau'r ddwy flynedd ddiwethaf.
Diolch fel bob amser am eich ymdrechion yr wythnos hon a byddwch yn ofalus a chadwch yn ddiogel y penwythnos hwn, o ystyried y tywydd garw.
Diolch yn fawr iawn.
Rob.