Yr Wythnos Gyda Rob

04 Chwefror 2022

Annwyl gydweithwyr,

Hoffwn ddechrau neges yr wythnos hon drwy dynnu sylw at ddwy fenter genedlaethol y mae'r Cyngor yn eu cefnogi sydd o bwys gwirioneddol wrth lunio'r math o gymdeithas gynhwysol yr wyf am i'n sefydliad ei chynrychioli.

LGBT+ History Month 2022 Logo

Chwefror yw Mis Hanes LHDT+. Mae'r mis yn amser i fyfyrio ar hanes, bywydau a phrofiad unrhyw un sy'n uniaethu fel LHDTC+. Eleni, mae 50 mlynedd ers yr Orymdaith Pride cyntaf ym mis Mawrth ac mae'n rhwydwaith GLAM wedi llunio rhywfaint o wybodaeth a dolenni ar StaffNet+ a all helpu pawb i gael gwell gwybodaeth am rai o'r materion allweddol sy'n effeithio ar y gymuned. Bydd diweddariad pellach gan GLAM hefyd yn dilyn yn ddiweddarach yn y mis.  Fel sy'n wir bob blwyddyn rydym yn chwifio baner yr enfys y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig gyda balchder ac rwy'n gobeithio bod hon yn sioe weladwy o gefnogaeth i gydweithwyr a'r gymuned ehangach.

Race Equality Week Logo

Wythnos Cydraddoldeb Hiliol yw hi yr wythnos nesaf Mae Wythnos Cydraddoldeb Hiliol yn fudiad blynyddol ledled y Deyrnas Gyfunol sy'n uno miloedd o sefydliadau ac unigolion i fynd i'r afael â'r rhwystrau i gydraddoldeb hiliol yn y gweithle. Mae digwyddiadau diweddar, gan gynnwys mudiad Mae Bywydau Du o Bwys (Black Lives Matter) ac effaith anghymesur COVID-19 ar gymunedau lleiafrifoedd ethnig, wedi tynnu sylw at faint sydd i'w wneud o hyd o ran rhai agweddau ar ein cymdeithas. Yr wyf yn falch o'n Cyngor cynhwysol, ond rhaid inni i gyd gydnabod bod mwy y gallwn ei ddysgu bob amser a ffyrdd newydd y gallwn gefnogi ein gilydd.  Yn y cyd-destun hwn y bydd amrywiaeth o weithgareddau a gydlynir gan ein rhwydwaith Amrywiaeth yn digwydd ac rwy'n edrych ymlaen at gymryd rhan a gweld yr ystod o weithgareddau yn ystod yr wythnos nesaf.

Fel y gwyddoch i gyd, rwy'n defnyddio'r neges hon yn rheolaidd i godi ymwybyddiaeth o'r gwaith rhagorol sy'n digwydd ar draws y Cyngor a'r wythnos hon hoffwn roi sylw arbennig i dîm y mae ei waith yn glos iawn at fy nghalon.   Drwy gydol y pandemig, rydym i gyd wedi cydnabod pwysigrwydd ein cartrefi. Maent wedi dod yn fwy na dim ond lle i fyw ond yn gynyddol yn lle i weithio a threulio mwy o'n hamser hamdden pan fo cyfyngiadau wedi cyfyngu ar le allwn fynd. Mae ein tîm Cynllunio a Rheoli Adeiladu wedi cael dwy flynedd eithriadol o brysur gan fod y sylweddoliad hwn wedi ysgogi mwy a mwy o bobl i ymestyn eu cartrefi, ac ar yr un pryd mae wedi achosi cynnydd mewn cwynion i'n tîm gorfodi cynllunio yn erbyn gweithgarwch sydd heb eu awdurdodi.

Mae'r tîm Cynllunio a Rheoli Adeiladu yn gweithio'n galed i ddiogelu'r lleoedd rydym yn byw ac yn gweithio ynddynt. Maent yn cynllunio ar gyfer newid mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy sy'n diwallu anghenion ein cymunedau, tra hefyd yn diogelu cymdogaethau sy’n bodoli eisoes, yr amgylchedd a'n treftadaeth. Nid yw mantoli'r pwysau, y galwadau a'r safbwyntiau hyn i wneud y penderfyniadau cywir fyth yn rhwydd ac fel cynllunydd cymwysedig fy hun a oedd yn rheoli'r gwasanaeth yn flaenorol, gwn pa mor anodd y gall fod i weld y gwaith hwn yn wynebu ymateb llai na gwerthfawrogol weithiau. Er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn, rydym yr wythnos hon wedi lansio ymgyrch 'deall cynllunio' ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Fe'i cynlluniwyd i helpu trigolion i ddeall yn well pa ffactorau sy'n cael eu hystyried pan wneir penderfyniadau cynllunio a'r ffordd orau o gymryd rhan yn y broses.  I redeg law yn llaw â hyn, mae cyfres o gyfweliadau gyda rhai o'n cydweithwyr yn y tîm wedi'u cyhoeddi ar StaffNet. Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran a hoffwn ddiolch i Vicky Robinson, y Rheolwr Gweithredol dros Gynllunio a Rheoli Adeiladu a gysylltodd â mi yr wythnos hon gyda chais i mi ddefnyddio fy neges i nodi ei gwerthfawrogiad o waith y tîm.   Mae'n bleser gennyf Vicky a diolch i chi am gymryd yr amser i gysylltu â mi gyda'ch gwerthfawrogiad.  Diolch Vicky a'r tîm i gyd am eich gwaith.   Diolch yn fawr iawn.

Early Years Wales Award

Tîm arall y gall ei waith fynd o dan y radar weithiau yw ein tîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant.  Er bod gwaith gwych ysgolion drwy gydol y pandemig wedi'i ganmol yn briodol, mae gwaith ein cydweithwyr sy'n cefnogi'r sector gofal plant weithiau wedi mynd heb ei ddathlu.  Roeddwn wrth fy modd yn gweld yr wythnos hon fod un o'r cyfleusterau niferus y mae ein tîm yn eu cefnogi wedi ennill gwobr genedlaethol.  Mae hyn yn adlewyrchiad o waith gwych ar draws y sector i roi mannau gwych i blant iau ddatblygu a galluogi rhieni hefyd i ddychwelyd i'r gwaith.

Mae'r cynnydd mewn costau byw, yn enwedig biliau ynni, wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau yr wythnos hon.  Rwy’n siŵr y bydd yn broblem sydd ar flaen meddyliau llawer o bobl. Mae gwybodaeth ar ein gwefan am y cymorth estynedig sydd ar gael yn ddiweddar drwy'r Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf. Mae taliadau wedi cynyddu o £100 i £200.  Bydd hwn ar gael i ymgeiswyr newydd ac yn cael ei dalu'n ôl-weithredol i'r rhai sydd wedi gwneud cais eisoes. Hoffwn ddiolch i gydweithwyr yn ein tîm Cyllid sy'n prosesu hawliadau mor gyflym ar ran trigolion y Fro ac i'r tîm yn Cyswllt Un Fro sydd wedi bod yn derbyn nifer fawr o alwadau ar y mater pwysig hwn. Byddwn yn annog unrhyw un a allai fod yn poeni am eu biliau i wirio eu cymhwysedd.

Ddiwedd y llynedd rhannais rywfaint o wybodaeth yn un o'm negeseuon am y gwaith pwysig sy'n cael ei wneud gan dîm o gydweithwyr o bob rhan o'r Cyngor er mwyn helpu i ddenu recriwtiaid newydd i ofal cymdeithasol. Gwyddom oll am y pwysau a'r heriau sylweddol a wynebir gan ein timau gofal cymdeithasol gydol y pandemig.  Gwn hefyd ein bod wedi rhoi cynnig ar nifer o ddulliau newydd o ymdrin â'r angen i ddenu staff newydd ac mae'r prosiect wedi'i ategu gan waith caled hen ffasiwn da ar draws sawl maes. Roeddwn yn falch iawn o glywed yr wythnos hon fod yr arwyddion cynnar yn addawol iawn a’n bod wedi gweld cynnydd mewn ymgeiswyr addas ar gyfer y rolau hanfodol bwysig hyn. Diolch yn fawr i bawb sy'n ymwneud â'r gwaith hwn.  Mae nifer o ffyrdd y gall newydd-ddyfodiaid ymuno â'r proffesiwn, gan gynnwys ein rhaglen hyfforddi Llwybr Carlam i Ofal.  Unwaith eto, os ydych chi'n adnabod unrhyw un sy'n meddwl am yrfa mewn gofal, rhowch wybod iddynt.  Ni fu erioed amser pwysicach i gael effaith o’r fath.

I gloi, hoffwn ddymuno Blwyddyn Newydd Tsieineaidd hwyr i'r holl gydweithwyr a fu’n dathlu’r ŵyl yn gynharach yr wythnos hon ac fel bob amser rwyf am derfynu drwy ddweud diolch i chi i gyd. 

Diolch yn fawr bawb.

Rob.