Staffnet+ >
Ymgyrch Fy Enw i yw - rhan o Wythnos Cydraddoldeb Hiliol
Ymgyrch Fy Enw i yw - rhan o Wythnos Cydraddoldeb Hiliol
Mae Fy Enw i yw yn ymgyrch sy'n canolbwyntio ar atebion sy'n annog defnyddio sillafiadau ffonetig ar lofnodion e-bost a bathodynnau enw.
Mewn arolwg barn diweddar dywedodd 73% o'r ymatebwyr o fwy na 100 o sefydliadau fod eu henwau yn cael eu camynganu. Yn aml, os oes gan rywun enw y mae pobl eraill yn ei chael yn anodd ei ynganu, byddwn yn:
- Ynganu'r enw'n anghywir - yna mae'r unigolyn yn cael ei adnabod fel yr 'enw newydd'.
- Rhoi llysenw, p'un a yw'r unigolyn yn ei hoffi ai peidio.
- Defnyddio enw arall 'i wneud pethau'n haws', h.y. Jeff yn lle Abdullah.
- Ceisio osgoi ei alw yn ôl ei enw yn gyfan gwbl.
Gallai ymgyrch sillafu enwau’n ffonetig helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol. Mae Fy Enw i yw yn ateb syml ond effeithiol iawn i sicrhau bod pawb yn ynganu enwau pobl yn gywir.
Dyma’r hyn y gallwch chi ei wneud
- Ychwanegu ynganiad ffonetig o'ch enw at eich llofnod e-bost - dolen i gyfarwyddiadau. Dewch o hyd i'ch enw ffonetig gan ddefnyddio'r teclyn digidol #FyEnwIYw.
- Gwirio eich bod yn dweud enwau pobl eraill yn gywir ac annog cydweithwyr, gweithwyr a'ch rhwydweithiau i wneud yr un peth.
Yn rhan o'r ymgyrch, byddwn hefyd yn arddangos ac yn rhannu'r asedau ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.