Staffnet+ >
Youth Homelessness Prevention Coordinator Sarah Collier wins big at awards ceremony
Gwobr fawr mewn seremoni wobrwyo i Sarah Collier, Cydlynydd Atal Digartrefedd Ieuenctid
8 Chwefror 2022
I nodi diwedd yr Wythnos Diogelu Genedlaethol, cynhaliodd Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro seremoni Gwobrau Cydnabod Diogelu flynyddol lle enillodd y Cyngor nifer o wobrau.
Daeth Sarah Collier, Cydlynydd Atal Digartrefedd Ieuenctid y Gwasanaeth Ieuenctid, i’r brig yn yr adran Diogelu Cymunedol Ehangach.
Mae Sarah yn arwain tîm sy'n helpu teuluoedd i gael gafael ar fwyd, prydau ysgol am ddim ac eitemau hanfodol eraill.
Mae hi a'i chydweithwyr hefyd yn cynnig cyngor a chymorth gyda rheoli cyllidebau, a sicrhau y gellir ymestyn bwyd i fwydo'r teulu cyfan.
"Mae'r rôl bresennol yn weddol newydd ledled y wlad. Yn ystod Covid, daeth y rôl a sefyllfa'r tîm yn hanfodol i rai o deuluoedd Bro Morgannwg o ran ymdopi yn ystod y pandemig," meddai.
"Roedd o’r bobl ifanc y buon ni’n gweithio gyda nhw heb ddillad gwely, tyweli a phethau ymolchi, felly fe wnaethon ni greu pecynnau oedd yn cael eu dosbarthu'n uniongyrchol i bob person yn y cartref. Roedden ni am sicrhau bod pobl ifanc yn teimlo'n ddiogel ac yn cael ambell gysur y mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n eu hystyried yn eitemau bob dydd."
Roedd Sarah a'i thîm hefyd am helpu i hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol a lles ymhlith y teuluoedd roedden nhw’n gweithio gyda nhw. Aeth y tîm ati i greu gemau hygyrch, ac hyrwyddo amser teuluol cadarnhaol gyda gweithgareddau fel coginio, chwaraeon a gemau bwrdd, gyda’r nod o gyfoethogi’r amser oedd yn cael ei dreulio gartref gyda'r teulu.
"Rwy’n adnabod un teulu’n benodol drwy fy ngwaith yn y Fro dros y 10 mlynedd diwethaf," ychwanegodd Sarah. "Yn drist iawn, bu farw'r fam ym mis Mai 2021, gan adael pedwar o blant rhwng tair ac 17 oed ac un ŵyr ifanc.
"Roeddwn i'n cefnogi'r plant yn unigol i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu hystyried drwy gydol y misoedd wedi hynny. Doedd hyn ddim yn rhywbeth yr oedd yr un o'r plant wedi ei ddisgwyl. Roeddwn i'n gallu helpu'r teulu oherwydd y berthynas oedd gen i gyda'u mam a phob un o'r plant. Roedd y ffaith eu bod nhw’n ymddiried ynof i yn golygu fy mod i wedi gallu cynnig cyngor ac arweiniad, a siarad â'r plant hŷn bob dydd.
"Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn arbennig o anodd i’r tri hynaf. Mae pob un wedi dioddef yn ei ffordd ei hun, ac mae wedi bod yn anodd iddyn nhw ymdopi’n emosiynol gyda llawer o ddigwyddiadau. Mae hyn wedi golygu gwaith mwy dwys fel dealltwriaeth emosiynol ac iechyd meddwl, addysg ynghylch camfanteisio rhywiol a throseddol a pharch a ffiniau.
"Drwy gydol y cyfnod hwn rwyf wedi ceisio bod yn eiriolwr dros y plant, gwneud yn siŵr bod dymuniadau eu mam yn cael eu hystyried a bod yno bob amser i'r plant siarad am eu mam pan fyddan nhw eisiau, fel proses organig yn hytrach na gyda gweithiwr proffesiynol nad ydyn nhw’n ei nabod."
Mae Gwobrau Diogelu Caerdydd a'r Fro yn cydnabod grwpiau ac unigolion sydd wedi cael effaith sylweddol yn y maes.
Mae gwobr Sarah yn dyst i’w gwaith caled ac ymdrech hi a'i thîm i helpu'r teuluoedd hyn drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf.