Staffnet+ >
Cyngor Bro Morgannwg Gwneud Addewid i rieni sydd a phrofiad o ofal.
Cyngor Bro Morgannwg Gwneud Addewid i rieni sydd a phrofiad o ofal.
Cyngor Bro Morgannwg yw un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu siarter arloesol sy'n ymgorffori hawliau rhieni sydd â phrofiad o ofal.
15 Chwefror 2022
Cafodd y siarter, 'Cefnogi Rhieni Mewn Gofal ac wrth ei Adael' ei llunio gan rieni â phrofiad o ofal gan weithio gyda gweithwyr proffesiynol o elusennau ac awdurdodau lleol.
Mae'n addo safonau cymorth newydd i'r rhai sy'n dechrau teulu ac mae’n ymrwymo Bro Morgannwg i fynd i'r afael â gwahaniaethu a stigma.
Un o'r ymrwymiadau mwyaf arwyddocaol yn y siarter yw cadarnhau na fydd unrhyw atgyfeiriadau awtomatig am asesiadau gofal cyn geni. Yn hytrach cymerir dull mwy cymesur sy'n seiliedig ar risg.
Dywedodd y Cynghorydd Ben Gray, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd a Chadeirydd ein Panel Rhianta Corfforaethol:
"Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at lunio’r siarter hon – mae wedi dod â lleisiau rhieni sydd â phrofiad o ofal i'r amlwg. Mae eu cyfraniadau dewr a chraff yn creu achos cymhellol dros gefnogi hawliau rhieni â phrofiad o ofal a sicrhau lefelau priodol o gymorth".
Meddai Crystal, ein Pencampwr dros Bobl sy’n Gadael Gofal:
"Bydd y newid hwn yn helpu cymaint o bobl ifanc i feddwl am eu dyfodol a'r hyn maen nhw wir ei eisiau. Rwy'n gwybod bod llawer o bobl ifanc, gan gynnwys fi fy hun, yn poeni am ddechrau ein teuluoedd ein hunain, gan nad ydym am i'r un peth a ddigwyddodd i ni ddigwydd i'n plant. Mae cael cefnogaeth a gwybod bod pobl allan yna y gallwn siarad â nhw yn anhygoel."
Mae'r siarter eang hefyd yn ymrwymo Bro Morgannwg i helpu mamau beichiog a thadau sydd â phrofiad o ofal i ddatblygu sgiliau rhianta, cael cymorth ariannol, eiriolaeth a chymorth iechyd meddwl.
Ariannwyd 'Cefnogi Rhieni Mewn Gofal ac Wrth ei Adael' gan Gyfrif Cyflymu Effaith Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Prifysgol Caerdydd a chafodd ei ddatblygu gan Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant mewn partneriaeth â VFCC, NYAS Cymru a TGP Cymru.
Ariannwyd yr ymchwil sy'n sail i'r siarter gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.