Staffnet+ >
Triniaethau gwrthfeirysol a gwrthgorff COVID-19
Triniaethau gwrthfeirysol a gwrthgorff COVID-19
Mae rhai pobl bellach yn gymwys i dderbyn triniaethau gwrthfeirysol a gwrthgorff ar gyfer cleifion y GIG sydd mewn mwy o berygl o COVID-19 difrifol.
Mae dwy ffordd y gallwch dderbyn triniaethau gwrthfeirysol:
- Fel rhan o'ch gofal safonol os ydych chi yn y risg uchaf o COVID-19 difrifol ac yn hynod fregus
- Trwy astudiaeth wrthfeirysol ledled y DU o'r enw PANORAMIC sydd ar gael i gleifion cadarnhaol COVID-19 dros 50 neu 18-49 sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol
Bydd cyffuriau gwrthfeirysol yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â'r brechlyn, sef ein teclyn mwyaf effeithiol o hyd.
I ddarganfod a ydych chi'n gymwys i gael triniaethau COVID-19 neu gymryd rhan mewn astudiaeth wrthfeirysol ledled y DU, ewch i https://llyw.cymru/triniaethau-covid-19