Staffnet+ >
Fel rhan o'n hymgyrch Deall Cynllunio, rydym wedi siarad gydâ'r Cynlluniwr Myfyrwyr, Katie Forbes.
Fel rhan o'n hymgyrch Deall Cynllunio, rydym wedi siarad gydâ'r Cynlluniwr Myfyrwyr, Katie Forbes.
3 Chwefror 2022
Yn rhan o'n hymgyrch Deall Cynllunio, yn ddiweddar fe wnaethom ddal i fyny gyda'r Myfyriwr Cynllunio, Katie Forbes.
Mae Katie yn dod o Swydd Bedford yn wreiddiol. Cafodd ei magu yn Swydd Gaerloyw ac mae bellach yn astudio Cynllunio a Datblygu Trefol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ymunodd Katie â'r Tîm Polisi ym mis Awst 2020 ar leoliad yn rhan o'i gradd.
"Roedd gwneud lleoliad yn y Fro yn ymddangos yn gyfle gwych i gael cipolwg ar sut beth yw cynllunio’n ymarferol, yn enwedig o safbwynt y sector cyhoeddus.
"Fy hoff bwnc yn yr ysgol oedd Daearyddiaeth, ond roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau astudio rhywbeth ychydig yn fwy galwedigaethol yn y brifysgol.
"Roeddwn hefyd am ddilyn gyrfa mewn rhywbeth a oedd yn mynd i'r afael â materion daearyddol, yn ddynol ac yn ffisegol. Roeddwn yn awyddus i fod yn rhan o sector a oedd yn amrywiol ond hefyd yn eithaf ymarferol ac a oedd yn gorgyffwrdd â diwydiannau eraill."
Mae diwrnod arferol i Katie yn cynnwys ysgrifennu arsylwadau polisi, paratoi dogfennau ymgynghori, ymateb i ymholiadau cynllunio a monitro sylwadau ac adborth o waith ymgynghori.
Dywed Katie mai ei hoff ran o'r rôl yw cael gweithio ar lawer o brosiectau amrywiol a boddhaus:
"Rwy'n gweithio ar brosiectau sydd ar raddfa fawr ac sy'n cael effeithiau hirdymor. Rwy'n gweithio ar yr Arfarniad Aneddiadau Cynaliadwy ar hyn o bryd. Bydd hyn yn helpu i lywio nifer o ddogfennau polisi eraill a'r strategaeth dwf ar gyfer Bro Morgannwg yn y dyfodol."
"Mae polisi cynllunio wedi'i wreiddio'n sylfaenol mewn gwella'r amgylchedd adeiledig a naturiol. Mae'n ein helpu i greu fframwaith fel y gellir datblygu yn y ffordd orau bosibl. Mae'n wych meddwl y gall polisïau rydyn ni'n eu creu gael buddion mor bellgyrhaeddol."
Yn rhan o'i hastudiaethau yn y brifysgol, mae Katie yn gobeithio dysgu mwy am ddatblygu cynaliadwy, yn benodol y camau sy'n gysylltiedig ag ailddyfeisio ac adfywio safleoedd tir llwyd.
"Gall cynllunio effeithiol sicrhau cyfradd ddatblygu gytbwys sy'n ystyried ystod eang o ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol. Hefyd, rwy’n credu y gall cynllunio gyfrannu'n gadarnhaol at gydlyniant cymunedol os caiff ei weithredu'n effeithiol.
"Ond er mwyn i'r broses ei hun fod yn effeithiol, rwy'n credu bod angen elfen benodol o dryloywder ac mae angen iddi gynnwys pob aelod o gymdeithas.
"Rwy'n credu mai un o'r camsyniadau mwyaf yw nad yw polisïau a rheoliadau cynllunio yn ystyried yr angen i ddiogelu'r amgylchedd naturiol a’u bod yn anwybyddu'r angen i liniaru niwed amgylcheddol.
"Mae'r ffactorau hyn wrth gwrs yn cael eu hystyried ond mae angen eu cydbwyso yn erbyn ystod enfawr o faterion a ffactorau eraill. Hefyd, rwy'n credu bod pobl yn tanbrisio faint o gamau sy'n gysylltiedig â'r broses gynllunio a faint o amser y gall gymryd."
Ers dechrau ei rôl, mae Katie yn dweud bod ganddi werthfawrogiad newydd o'r amserlenni sy'n gysylltiedig â datblygu prosiectau cynllunio a'r cyfrifoldebau sy'n dod gyda'r rôl.
Yn ei hamser hamdden, mae Katie yn mwynhau mynd i weld cerddoriaeth fyw, mynd allan am fwyd gyda ffrindiau a threulio amser gyda'i dau gi.