Yr Wythnos Gyda Rob - 16 Rhagfyr

 

Annwyl gydweithwyr,

Mae'r negeseuon wythnosol hyn yn aml yn manylu ar y ffyrdd niferus y mae ein gwaith yn helpu i wella bywydau pobl yn y Fro. Yr wythnos hon, hyd yn oed yn fwy felly na'r arfer, rwyf wedi cael fy synnu gan rai o'r newyddion sydd wedi'i rannu â mi.

Y cyntaf oedd llythyr o ddiolch a anfonwyd i Lance Carver, yn canmol gwaith y tîm yn Nhŷ Dewi Sant. Mae ein staff gofal yn gwneud gwaith rhyfeddol ac mae'r llythyr yn sôn am sut wnaeth tîm Tŷ Dewi gefnogi un o'u preswylwyr a'u teulu drwy gyfnod anodd. Maen nhw'n cael eu disgrifio fel "tyner, caredig, ystyriol, parchus a dibynadwy" ac mae'r aelod o'r teulu a ysgrifennodd yn mynd mor bell â dweud "Alla i ddim wir rhoi mewn geiriau'r gofal a'r gefnogaeth eithriadol a gafodd nid yn unig fy nhad ond fy hun hefyd, ar adeg anoddaf fy mywyd."

Yng nghyd-destun popeth y mae ein sefydliad yn ei wynebu mae'n ysbrydoliaeth gweld tîm cyfan yn camu i'r adwy a gweithredu gyda'r fath garedigrwydd. Diolch yn fawr i bob aelod o staff yn Nhŷ Dewi. Rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi eich gwaith. 

Yna ddoe cyflwynodd yr Arweinydd fenyw o'r enw Pamela i mi. Mae Pamela yn mynd ar y bws o Sili i'r Barri bob bore i ymweld â Llyfrgell y Barri. Yr unig eithriad yw ar ddydd Sul pan mae hi'n ymweld ag Ynys y Barri. Wrth sgwrsio'r wythnos hon rhannodd Pamela pa mor groesawgar yw staff y llyfrgell a pha mor falch yw hi o allu cael paned o de fel rhan o'n hymgyrch Croeso Cynnes. Soniodd hefyd am sut roedd ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid yn help mawr yn ddiweddar wrth fynd i'r afael â mater gyda'i phàs bws. Mae stori Pamela yn enghraifft berffaith o sut y gall ein holl ryngweithio â thrigolion siapio eu dydd, a'u profiad o fyw yn y Fro. Mae hefyd yn dangos sut nad yw trigolion yn gweld gwasanaethau ac adrannau, ond yn hytrach ein Cyngor ni, a sut mae ein holl ymdrechion yn cyfuno i roi'r cymorth sydd ei angen arnynt. 

Julie

Un person fydd yn siŵr o fod wedi helpu Pamela ar un adeg neu'i gilydd yw Julie Dutton. Bydd Julie yn gadael ein Gwasanaeth Llyfrgell yr wythnos nesaf ar ôl 48 mlynedd o wasanaeth. Ar ôl gweithio ar draws llyfrgelloedd Y Barri, Y Rhws a Phenarth yn ei gyrfa mae Julie wedi gweld ein llyfrgelloedd yn trawsnewid droeon a chyda phob newid mae ei hegni a'i hymrwymiad wedi helpu i ddod â defnyddwyr newydd i'r gwasanaeth a sicrhau eu bod yn dychwelyd. Rwy'n gwybod y bydd cydweithwyr a chwsmeriaid yn ei cholli'n fawr. Julie, ar ran pawb yng Nghyngor Bro Morgannwg, diolch am eich holl flynyddoedd o wasanaeth. 

Tenant Participation

Yr wythnos hon mae'r Tîm Tai wedi bod yn dathlu llwyddiant eu gwaith i ymgysylltu â thenantiaid. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae tenantiaid Cartrefi’r Fro wedi bod yn rhan o gynhyrchu Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid a Lesddeiliaid newydd y Cyngor, yn cyd-gynhyrchu taflenni gwasanaeth, ac ymgymryd ag ymarferion siopa dirgel ac adolygiadau gwasanaeth fel rhan o'r gwaith gwella parhaus sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan Wasanaethau Tai ac Adeiladu.

Ethos y tîm yw cynnwys tenantiaid a phrydleswyr wrth gynllunio a darparu gwasanaethau, buddsoddi mewn eu cefnogi, gan arddangos sut y gallant ddylanwadu ar well darpariaeth o wasanaethau a sicrhau bod mewnbwn yn cael ei werthfawrogi. Bellach mae gan y tîm tai dros 25 o denantiaid sy'n cwrdd ag aelodau staff yn rheolaidd i helpu i ddatblygu diwylliant gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar denantiaid a phrydleswyr. Llongyfarchiadau i bawb sy'n ymwneud â'r gwaith gwych hwn. Mae llawer y gallwn i gyd ei ddysgu o hyn o ran sut rydym yn ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau yn ein gwaith. 

Elves 1

Mae'n debyg iawn y bydd unrhyw un sy'n gweithio yn y Swyddfeydd Dinesig yr wythnos hon wedi gweld cydweithwyr yn rhedeg i fyny ac i lawr coridorau gyda bocsys a bagiau wedi'u pentyrru yn eu breichiau. Y cydweithwyr hyn yw ein corachod Siôn Corn ein hunain. 

Diolch i haelioni anhygoel ein staff a nifer o fusnesau mewn ymateb i'n hymgyrch Achos Siôn Corn byddwn yn gallu darparu mwy na 1000 o anrhegion i blant a phobl ifanc y Nadolig hwn. Mae'r anrhegion wedi bod yn pentyrru yn ystod yr wythnosau diwethaf ac mae ein corachod – Mike, Danielle, Kelly, Gwydion, Emily, Jessica, a Harriet - bellach yn gweithio'n galed yn dyrannu'r rhain i blant unigol a'u pecynnu yn barod i'w dosbarthu'r wythnos nesaf. 

Fe welais Leanne yn y coridor o leiaf chwe gwaith ddoe ac fe ddywedodd hi wrtha i fod y tîm wedi cael eu syfrdanu gan garedigrwydd pobl gyda'u rhoddion. Fe wnaeth Leanne ei ddisgrifio fel teimlad 'gwirioneddol ostyngedig' ac rwy’n cytuno’n llwyr. 

Elves 2

Mae’r corachod dim ond yn rhan fach o’n cydweithwyr o bob rhan o'r Cyngor sydd wedi mynd y tu hwnt i gefnogi'r cynllun. Bydd mwy o ddiweddariadau ar Achos Siôn Corn yr wythnos nesaf ond eisoes mae'n amlwg y byddwn gyda'n gilydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i Nadolig llawer o deuluoedd eleni.

Wrth i ddiwedd y flwyddyn agosáu mae'n amhosib peidio â meddwl ymlaen at yr hyn fydd 2023 yn ei gyflwyno i’r Cyngor. Yn gynharach yr wythnos hon fe wnaeth Tom Bowring gymryd rhan mewn sesiwn Hawl i Holi ar y Cynllun Cyflawni Blynyddol. Trafododd Tom y CCB, ei berthnasedd, ei heriau allweddol a sut y gall staff ddylanwadu ar y cynllun. I'r rhai ohonoch a gollodd y sesiwn mae bellach ar gael i'w gwylio ar StaffNet+.

Yn olaf, gobeithio y byddwch wedi gweld bod y Cyngor wedi ennill Statws Arloesi Efydd Race Equality Matters yr wythnos hon i gydnabod ein gwaith i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol o fewn y sefydliad. Yn 2023, byddwn yn lansio'r prosiect 'Straeon Cenhedlaeth Windrush ym Mro Morgannwg' ac am glywed lleisiau'r rheiny a deithiodd i'r DU o'r Gymanwlad ac ymsefydlu yng Nghymru. Os ydych chi'n gwybod am unrhyw un sydd â stori am ymfudo, anogwch nhw i gyflwyno eu mynegiant o ddiddordeb erbyn Dydd Gwener 23 Rhagfyr 2022.

Fel bob amser rwy’n ddiolchgar am eich ymdrechion yr wythnos hon.  Diolch yn fawr bawb.

Rob.