Wedi’i ffurfio i gynrychioli buddiannau staff gydag anableddau, nid yw’r trefnydd Colin Davies, sy’n aelod o'n Tîm Dysgu a Sgiliau, a’r rheiny a ymgasglodd yn y Swyddfeydd Dinesig, wedi penderfynu ar enw i'r rhwydwaith eto.
Ond mae eu diben yn glir – rhoi mwy o lais i gydweithwyr anabl a'r rhai sydd wedi profi afiechyd meddwl.
Mae cydweithwyr ar yr UDA a minnau yn cefnogi’r fenter hon yn llawn, a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu â Colin i ymuno.
Mae ffurfio'r grŵp hwn yn dilyn sefydlu GLAM, rhwydwaith y Cyngor ar gyfer staff a chynghreiriaid LHDTC+, a Diverse, sy'n cynrychioli cydweithwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
Gall cael mewnbwn gan bobl ag anableddau a niwroamrywiaeth ehangach helpu'r sefydliad i fod yn fwy cynhwysol, a dyna’r nod rydym yn ymdrechu i’w gyflawni.
Hoffwn hefyd dynnu sylw at gyfweliad a gynhaliwyd gan Megan Parry o'n Tîm Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc ag un o'n gofalwyr maeth.
Mae'r darn yn rhoi cipolwg da iawn ar ofynion maethu a faint o foddhad mae’n gallu ei roi.
Mae angen gofalwyr maeth trwy’r amser, felly byddwn yn annog unrhyw un sy'n ystyried agor eu cartref i blentyn i ddarllen hwn.
Os oes gennych ddiddordeb o hyd ar ôl hynny, efallai byddwch am gysylltu â Megan i wybod mwy.

Wrth siarad am weithgareddau gwerth chweil, hoffwn longyfarch Holly Homer o'r Tîm Treth Gyngor, sydd wedi bod yn rhedeg i godi arian i Concern Cymru, elusen iechyd meddwl leol fach.
Dim ond yn ddiweddar y dechreuodd Holly redeg a hynny ar ôl cael ei hysbrydoli gan gydweithiwr, ac mae'n deg dweud ei bod hi bellach yn dwlu arno.
Roedd ei her yn cynnwys rhedeg 200 cilomedr ym mis Tachwedd ac fe gododd hi’r swm anhygoel o £2,870 fel rhan o hyn.
Da iawn Holly, rwy'n gwybod bod eich tîm yn falch iawn ohonoch chi, fel y mae'r gweddill ohonom.
Ddydd Mercher, bydd y Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol Tom Bowring yn cynnal sesiwn Holi ac Ateb am hanner dydd ynghylch Cynllun Cyflawni Blynyddol (CCB) Drafft y Cyngor.
Bydd yn ymuno â Lloyd Davies i siarad am ei rôl, perthnasedd y CCB, heriau dybryd a sut gall staff ddylanwadu ar y cynllun.
Bydd y sesiwn mewn dwy ran. Am y 40 munud cyntaf, bydd Tom yn trafod y pynciau uchod cyn iddo droi ei sylw at gwestiynau gan staff.
Gall y rhain gael eu cyflwyno’n ddienw cyn y sesiwn, a gwahoddir staff hefyd i edrych ar y cynllun a rhannu eu barn arno.
Mae’r CCB yn gosod camau gweithredu i gyflawni amcanion lles y Cyngor a mynd i'r afael â thair her benodol:
- Yr argyfwng costau byw
- Prosiect Sero – cynllun y Cyngor i fod yn garbon niwtral erbyn 2030
- Hybu gwydnwch sefydliadol
Mae Tom wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar, ond bu hefyd yn gadeirydd yng nghynhadledd a digwyddiad gwobrau Ystadau Cymru’r wythnos diwethaf.
Bydd darllenwyr rheolaidd yn fy nghofio’n sôn am Ganolfan Gymunedol Aberogwr yn casglu gwobr haeddiannol yn y digwyddiad.
Fel bob amser, gwnaeth Tom waith gwych, ac rwy’n gwybod y cafodd hyn ei werthfawrogi'n fawr gan y trefnwyr eraill a gymerodd yr amser i ysgrifennu er mwyn mynegi eu diolchgarwch am ei gadeiryddiaeth ardderchog yn y gynhadledd.
Diwrnod Hawliau'r Gymraeg oedd dydd Mercher sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddelio â gwasanaethau cyhoeddus.
Mae'n nodi’r dyddiad y cafodd Mesur y Gymraeg ei basio gan y Senedd, gan gadarnhau bod rhaid peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Cynhyrchwyd fideo i amlinellu buddion dysgu Cymraeg ac rwy'n ddiolchgar i'r holl staff a gymerodd amser i ymddangos ynddo, rhoi asesiad o'u dysgu a hyrwyddo pwysigrwydd yr iaith.
Hoffwn ddiolch hefyd i Sarian Thomas-Jones, un o'n Cydlynwyr Iaith Gwaith, a gafodd y syniad o ddatblygu fideo i nodi Diwrnod Hawliau'r Gymraeg. Diolch yn fawr iawn, Sarian
Fel cyflogai, mae gennych hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle ac mae'r Cyngor yn annog staff yn gryf i siarad a dysgu'r iaith.
Nid yn unig y mae gwneud hynny o fudd i chi', ond hefyd i’r sefydliad, y cwsmeriaid, a'r gymuned.
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu Cymraeg, neu loywi eu sgiliau, fynd i Iaith Gwaith: Yr Hwb ar Staffnet.
Mae hynny'n cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd ar ddod yn ogystal â chyrsiau sydd ar gael i ddysgu Cymraeg am ddim.
Bydd y rhai ohonoch sy'n feicwyr brwd ,neu'n awyddus i gymryd rhan mewn beicio fel math cynaliadwy o deithio, yn falch o wybod bod ein Cynllun Beicio i'r Gwaith yn lansio eto ddydd Llun ac yn para tan ddiwedd mis Ionawr.
Mae'n cynnig cyfle i staff brynu beic trwy ddidyniadau misol o'u cyflogau a chael budd-daliadau treth ac Yswiriant Gwladol.
Mae amrywiaeth o feiciau ac ategolion ar gael trwy Cycle Solutions, a fydd yn cynnal siopau dros dro yn y Swyddfeydd Dinesig a Depo’r Alpau yr wythnos nesaf i gyflogeion weld y dewis o gynhyrchion sydd ar gael.
Mae gwybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer y cynllun ar gael ar Staffnet+.
Rhagwelir y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ddydd Mercher, ac ar ôl hynny rwy’n gobeithio bod mewn sefyllfa i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i staff am yr hyn y bydd yn ei olygu i'r Cyngor wrth i'n gwaith cynllunio ein hunain ar gyfer y gyllideb barhau.
Rwy'n gwybod bod hyn yn bwnc blaenllaw yn sesiwn Holi ac Ateb y Caffi Dysgu’n ddiweddar, a chyn gynted ag y bydd gennym fwy o wybodaeth, bydd yn cael ei rhannu â chydweithwyr.
Yn olaf, hoffwn longyfarch i Dîm Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor, a gafodd eu rhoi ar y rhestr GIG MediWales yng nghategori Arloesedd Gofal Cymdeithasol trwy Gydweithio.
Cawsant eu cydnabod am waith i ddiweddaru'r system teleofal a ddefnyddir gan nifer mawr o breswylwyr oedrannus ac agored i niwed ar ôl i'r hen blatfform analog ddod i ben.
Mae teleofal yn galluogi pobl i alw am help os bydd argyfwng a chyflwynwyd y prosiect ar y cyd â TEC Cymru, Enovation (cyflenwr ARC), Swyddfa Ddigidol Llywodraeth Leol yr Alban a FarrPoint (partner ymgynghori).
Da iawn bawb a fu’n rhan o hynny.
Diolch unwaith eto am eich ymdrechion yr wythnos hon – maen nhw'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr.
Diolch yn fawr iawn,
Rob.