Neges gan y Prif Weithredwr ar gyhoeddwyr cyllid Llywodraeth Cymru

 

Annwyl gydweithwyr,

Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2023/24.  Fel rhan o hyn, dyrannodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, £227m yn ychwanegol ar gyfer cynghorau ar draws Cymru. 

Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cyllid ar gyfer llywodraeth leol i'w groesawu'n fawr ac yn dangos cydnabyddiaeth gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y Senedd o'r rôl hanfodol mae cynghorau fel ein un ni'n ei chwarae wrth gefnogi cymunedau.

Mae’r cynnydd o tua 8.9% y byddwn yn ei dderbyn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn uwch nag yr oeddem wedi rhagweld. Mae ein cydweithwyr Cyllid nawr yn gweithio i ddeall beth yn union mae hyn yn ei olygu i'n cynlluniau cyllideb yma yn y Fro.  Fodd bynnag, rydym eisoes yn gwybod na fydd yn ddigon at gyfer y pwysau cyfunol o £38m sydd ar ein cyllideb fel yr adroddwyd i'r Cabinet ym mis Hydref.

Bydd dadansoddi’r cyhoeddiad cyllideb a diwygio ein modelu ar gyfer y flwyddyn nesaf yn unol â hyn yn cymryd peth amser. Y ffigwr setliad yw'r ffactor mwyaf, ond dim ond un ffactor o hyd, wrth lunio ein cyllideb.

Mae'r broses o osod cyllideb eleni eisoes wedi bod y mwyaf cydweithredol a fforensig yr ydym erioed wedi'i wneud.  Mae'n eitem wythnosol ar gyfer diweddaru a thrafod yn yr UDA, cynhaliwyd sesiynau gweithdy gydag aelodau etholedig ac uwch reolwyr, ac mae Cyfarwyddwyr wedi arwain eu sesiynau cynllunio lefel cyfarwyddiaeth eu hunain. Rwyf hefyd wedi cwrdd â phob pennaeth dros y misoedd diwethaf. 

Mae amgylchedd economaidd anwadal sydd wedi gweld prisiau ynni'n saethu i fyny ynghyd â chwyddiant a chyfraddau llog wedi cael effaith fawr ar sefyllfa ariannol y Cyngor. Mae'r siociau byrdymor hyn wedi dod ar adeg pan oedd pwysau cyfunol y galw cynyddol am ein gwasanaethau a’r un pryd gymhlethdod cynyddol yr hyn sy'n ddisgwyliedig ganddynt eisoes wedi gwneud cynllunio ar gyfer y dyfodol yn anodd iawn. Rhaid cydbwyso’r gwaith o fynd i'r afael â'r holl faterion hyn yn ein cyllideb ar gyfer 2023/24.

Os yw profiad diweddar wedi dangos unrhyw beth i ni yw bod cyfnod heriol yn dod â'r gorau allan o'r sefydliad hwn ac rwy'n gwybod na fydd hyn yn eithriad.  Er bod maint yr her yn fwy nag erioed, rydym wedi bod yma o'r blaen ac yn union fel o'r blaen, mae gen i bob ffydd y byddwn yn gallu gosod cyllideb gytbwys tra'n parhau i flaenoriaethu gwasanaethau hanfodol i'r rhai sydd â'r angen mwyaf ar adeg pan fo angen ein gwasanaethau fwy nag erioed. 

Rwy'n hynod ddiolchgar i'r cydweithwyr hynny a fydd nawr yn gweithio'n galed dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd i gwblhau ein cynigion cyllideb cychwynnol. Yna caiff y rhain eu cyflwyno i'r Cabinet i'w hystyried ar 19 Ionawr. Byddaf yn eich diweddaru i gyd gydol y cyfnod.

Fel bob amser rwy’n ddiolchgar am eich ymdrechion.  Diolch yn fawr iawn.  

Rob.