Dyma Muriel
Yn 63 mlwydd oed, mae gofalwr sengl, Muriel wedi bod yn maethu ers 7 mlynedd. Dyma ei stori hi.
"Ers o'n i'n 16 oed, ro'n i’n gwybod bod maethu yn rhywbeth hoffwn i ei wneud.
"Gan fy mod i'n dod o gefndir tebyg i lawer o blant mewn gofal maeth, roeddwn i eisiau gwneud gwahaniaeth a sicrhau nad yw plant yn mynd trwy'r hyn es i drwyddo."
Mae'n bwysig ymgymryd â maethu pan fo'n amser iawn i chi a thrafod y posibilrwydd gyda'ch teulu i sicrhau eu bod hefyd yn hapus.
Wedi i dri mab hŷn Muriel symud allan ac ar ôl iddi ymddeol o'r gwasanaeth iechyd yn 55 oed, penderfynodd mai dyna'r amser iawn iddi hi a'i theulu.
"Byddwn ar goll heb faethu - mae'n rhoi cymaint o bleser i fi.
"Rwy'n mwynhau mynd â'r plant allan i lefydd nad ydyn nhw erioed wedi bod neu heb gael cyfle i brofi.
"Y pethau syml, fel gweld eu hwynebau'n goleuo pan fyddwch chi'n prynu rhywbeth iddyn nhw, yn aml rhywbeth bach, fel pâr newydd o byjamas.
"Mae'n cadw fi'n brysur ac yn rhoi cyfleoedd i fi gwrdd â phobl newydd."
Pan fyddwch chi'n dod yn ofalwr maeth, byddwch chi'n dod yn rhan o gymuned. Mae gan Maethu Cymru Bro Morgannwg sawl grŵp cymorth lle gall gofalwyr maeth cyfagos gyfarfod a ffurfio system gymorth i'w gilydd, boed hynny'n trafod pryderon neu'n rhoi cyngor.
"Er bod y daith mor anodd yn y dechrau, mae'n brofiad anhygoel ac yn rhoi cymaint yn ôl i chi.
"Rydych chi’n cwrdd â chymaint o wahanol weithwyr proffesiynol a gofalwyr maeth.
"Os bydd angen help arnoch chi, gallwch ffonio’r gweithiwr cymdeithasol sy’n eich cefnogi neu hyd yn oed estyn allan i'r rheolwyr neu weithwyr nad ydynt yn gymdeithasol yn y tîm fel Alex - mae hi'n anhygoel a bob amser yn barod i fy helpu."
Mae gan Maethu Cymru dîm agos-atoch sydd bob amser ar gael i'ch cefnogi. Fel awdurdod lleol, rydym gyda chi ar bob cam o'ch taith faethu.
Os yw stori Muriel wedi’ch ysbrydoli i gael gwybod mwy, ewch i wefan Maethu Cymru Bro Morgannwg i gael sgwrs anffurfiol am faethu.