Llyfrgelloedd yn ffarwelio â Julie Dutton


Julie Dutton with Soo from Singapore

Ddydd Gwener 23 Rhagfyr, bydd llyfrgelloedd yn ffarwelio ag aelod o staff sydd wedi’u gwasanaethu hiraf.

Dechreuodd Julie Dutton ei gyrfa 48 mlynedd o hyd yn gweithio yn Llyfrgell y Barri ym mis Gorffennaf 1974 cyn symud ymlaen i weithio ar y llyfrgell deithiol.

Yn 1980, ymddiswyddodd hi o'i swydd cyn genedigaeth ei merch Becky. Ni wnaeth hi gadw draw am hir fodd bynnag oherwydd blwyddyn yn ddiweddarach, roedd hi'n ôl, y tro hwn yn gweithio'n rhan amser fel Uwch Gynorthwy-ydd Llyfrgell yn Llyfrgell y Rhws.

Gweithiodd Julie gyfanswm o 14 mlynedd yn y Rhws yn rhedeg ei llyfrgell gangen ei hun ac yn ymwneud yn fawr â’r gymuned. Mae'n ymddangos bod pawb yn adnabod ac yn parchu Julie, yn enwedig y plant a'r athrawon o ysgol y pentref a ymwelodd â’r llyfrgell yn wythnosol i gyfnewid eu llyfrau a mynychu’r dosbarthiadau cyflwyniad i’r llyfrgell gan Julie. 

Julie

Roedd cynllunio a chynnal gweithgareddau i blant, a dewis llyfrau plant yn agos at galon Julie ac roedd hyn yn gryfder drwy gydol ei gyrfa.

Aeth ymlaen i dreulio cwpl o flynyddoedd yn llyfrgell y Barri ar ddechrau'r 1990au yn rhedeg yr adran Plant a chyfnod pellach rai blynyddoedd yn ddiweddarach yn arwain Gwasanaeth Llyfrgell y Barri a’r Fro ehangach fel Llyfrgellydd Plant dros dro.

Yn 1997, symudodd Julie i weithio’n llawn amser yn Llyfrgell Penarth a hi oedd asgwrn cefn tîm hynod ymroddedig a phrofiadol o staff.

Mae gwaith plant yn parhau’n agwedd bwysig ar ei gwaith llyfrgell ac yn ystod y pandemig, Julie oedd un o'r rhai cyntaf i gysylltu â phlant ar-lein gyda'i sesiynau stori ar-lein rheolaidd. 

Staff On Library Stairs

Ond roedd mynd ar-lein yn gam bach i Julie, wedi'r cyfan, roedd hi wedi gweld llyfrgelloedd yn trawsnewid yn ystod ei hamser, ac wynebodd hi bob her a gallai ddweud straeon wrthych chi amdanyn nhw i gyd.

O gyflwyno'r system gyfrifiadurol gyntaf i staff i gyflwyno wi-fi, mae Julie wedi bod yma i gefnogi defnyddwyr ac i hyrwyddo ein gwasanaethau.

Dywedodd Christopher Edwards, Rheolwr y Gwasanaethau Llyfrgell: "Mae Julie wedi bod yn rhan annatod o lwyddiant y gwasanaeth llyfrgell yn y Fro ac rydyn ni'n mynd i'w cholli hi’n fawr.

"Mae hi wedi helpu i wneud ein llyfrgelloedd yr hyn ydyn nhw heddiw ac wedi helpu, cefnogi ac ysbrydoli degau o filoedd o ddefnyddwyr llyfrgell o bob oed.

"Rydyn ni’n ei saliwtio hi ac yn dymuno ymddeoliad llawn hwyl iddi."

Pob hwyl, Julie!