Staffnet+ >
Diwrnod Rhyngwladol i Bobl ag Anableddau - 3 Rhagfyr 2022
Diwrnod Rhyngwladol i Bobl ag Anableddau - 3 Rhagfyr 2022

Rydym yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl sydd ag Anableddau bob blwyddyn ar 3 Rhagfyr. Mae wedi’i gynnal ers 30 mlynedd – ers 1992.
Nod y diwrnod, a ddechreuwyd gan y Cenhedloedd Unedig, yw creu cefnogaeth i gynnwys pobl ag anableddau a chodi ymwybyddiaeth am faterion anabledd. Mae hefyd yn hyrwyddo hawliau a lles pobl ag anableddau ar bob lefel o gymdeithas.
Mae cynhwysiant anabledd yn ymwneud â gwerthfawrogi gwahaniaethau a chryfderau pobl a chael gwared ar yr anawsterau a allai eu dal yn ôl.
Nid yw pob anabledd yn weladwy.
Yn 2022, y thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol i Bobl ag Anableddau yw 'Nid yw pob anabledd yn weladwy'. Mae rhai anableddau, fel anhwylderau iechyd meddwl, poen cronig, blinder cronig a niwroamrywiaeth yn anweledig - ond nid yw hynny'n golygu eu bod yn cael llai o effaith ar ansawdd bywyd rhywun.
Mae’r Diwrnod Rhyngwladol i Bobl ag Anableddau yn rhoi cyfle i feddwl am wneud y gweithle yn fwy hygyrch a pha addasiadau rhesymol y gallwn eu gwneud i sicrhau bod cydweithwyr ag anableddau yn gallu cyfrannu a pherfformio'n llawn fel rhan o'n tîm ehangach.
Gweithio tuag at ddod yn Gyngor cynhwysol
Rydym wedi ymrwymo i newid sut rydym yn meddwl ac yn ymddwyn mewn perthynas ag anableddau ac iechyd meddwl yn y gweithle ac i sicrhau bod cyflogeion sy’n wynebu’r problemau hyn yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth. Rydym eisoes wedi llofnodi adduned cyflogwr Amser i Newid. Rydym yn sefydliad Hyderus o ran Anabledd.
Rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo diwylliant cynhwysol i bob aelod staff.
Beth gallwch chi ei wneud?
Ymunwch â ni a'r Cenhedloedd Unedig wrth nodi’r Diwrnod Rhyngwladol i Bobl ag Anableddau er mwyn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau hawliau pobl ag anableddau. Bydd hyn yn helpu pawb i gymryd rhan mewn cymdeithas yn llawn ac yn effeithiol, heb wynebu unrhyw rwystrau mewn bywyd.
Helpwch ni i sefydlu rhwydwaith staff anabl
Yn ystod Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant, fe wnaeth y Cyngor addewid i ymrwymo i gynhwysiant. Gallwch ddarllen yr erthygl honno a darnau eraill ynglŷn â’r Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant yma. Gwahoddwyd pobl i fynegi eu diddordeb mewn ymuno â rhwydwaith staff anabl hefyd.
Rydym eisoes yn gweithio gyda dau rwydwaith staff – Diverse ar gyfer aelodau staff o gefndir du a lleiafrifoedd ethnig a GLAM ar gyfer staff LHDTC+. Mae'r rhwydweithiau'n rhoi llais i bobl i wneud yn siŵr ein bod ni'n ystyried y materion sy'n effeithio arnyn nhw yn y gweithle. Byddai'n ddefnyddiol clywed gan gydweithwyr ag anableddau er mwyn i ni allu ystyried eu hanghenion ym mholisïau ac arferion y gweithle.
Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Colin Davies.
Os ydych yn pryderu am wahaniaethu neu aflonyddu, neu os ydych am gael rhagor o wybodaeth am sut i adrodd am hyn, gweler polisi cwynion Cyngor Bro Morgannwg.
