Staffnet+ >
Cydweithwyr yn y cyngor yn derbyn cymeradwyaeth arbennig mewn seremoni wobrwyo leol
Cydweithwyr yn y cyngor yn derbyn cymeradwyaeth arbennig mewn seremoni wobrwyo leol
Bu aelodau o dîm y Gwasanaethau Dydd Anabledd Dysgu yn dathlu yn ddiweddar ar ôl derbyn cymeradwyaeth arbennig yn seremoni wobrwyo Ffederasiwn Rhieni Caerdydd a’r Fro.
Cynhaliwyd y seremoni ar 6 Rhagfyr yng Nghlwb Hwylio Caerdydd ac mae'n cael ei rhedeg gan y Grŵp Deall Anabledd, sy'n cynnwys rhieni pobl ag anabledd dysgu o Ffederasiwn Rhieni Caerdydd a'r Fro a chynrychiolwyr o sefydliadau eraill yn y ddwy sir.
Enwebwyd y tîm am wobr yn y categori ‘Proffesiynol’.
Rhoddwyd cydnabyddiaeth i waith caled y tîm i 'gydnabod ymdrechion i helpu i wneud y byd yn lle gwell i bobl ag anabledd dysgu.'
Enwebwyd y tîm gan Sarah Sidman-Jones a ddywedodd: "Enwebais y tîm oherwydd pan gaeodd adeiladau'n canolfannau dydd dros dro ar ddechrau'r pandemig, daethom o hyd i ffyrdd newydd o weithio i gynnig cymorth hanfodol i rai o ddinasyddion mwyaf bregus y Fro sydd ag anghenion iechyd a chymorth cymhleth.
"Gwnaeth Gweithwyr Cymorth y Gwasanaeth Dydd gynnig gwasanaeth allgymorth i unigolion yn eu cartrefi eu hunain, gan eu cefnogi mewn amrywiaeth o dasgau, fel gofal personol a chymorth amser bwyd. Gwnaeth yr amser hwn alluogi aelodau o'r teulu i gael rhywfaint o seibiant o'u rôl fel gofalwyr llawn amser yn ystod y cyfnod clo.
"Gwnaethom anfon gweithgareddau ac adnoddau at unigolion er mwyn atal diflastod yn ystod eu cyfnod i ffwrdd o'r ganolfan ddydd.Buom hefyd yn gweithio'n agos gyda sefydliadau trydydd sector, fel Innovate Trust, gan ddefnyddio technoleg ddigidol i ennyn diddordeb pobl mewn gweithgarwch ar-lein, felly cadwodd pobl mewn cysylltiad â'u cyfoedion, gan atal ynysu cymdeithasol.
"Aeth pob un o'r tîm gwerthfawr yr ail filltir i ddarparu gwasanaeth hollbwysig yn ystod y cyfnod mwyaf heriol."