Astudiaeth Achos: Cefnogi aelod anabl o’r staff anabl yng Nghyngor Bro Morgannwg.

 

Mae Amy yn aelod o’r Tîm o Amgylch y Teulu (TAT).  Rheolwr llinell Amy yw Norma Goode a'i rheolwr Tîm yw Gareth Powell.

Cafodd Amy ddiagnosis o awtistiaeth ar ddechrau 2020 a chysylltodd y tîm TAT â'r Tîm Awtistiaeth i gael cyngor cyffredinol ar weithio gyda'r cyflwr hwn.   Yn fwy diweddar mae Amy wedi cael diagnosis o ffibromyalgia.

Flwyddyn a hanner wedyn, gyda phenderfyniad a chefnogaeth ei Thîm, mae Amy yn ffynnu yn ei rôl.

Gwnaeth y Tîm gais i’r Adran Gwaith a Phensiynau am gyllid, ac mae’r adran honno wedi cefnogi Amy gyda £26,000 o gyllid trwy'r Cynllun Mynediad i Waith.  Mae hyn wedi darparu offer technegol arbenigol a gweithiwr cymorth 1:1 gan ASDES (Cymorth Cyflogaeth Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig http://www.asdes.org.uk).  Mae'r gweithiwr cymorth gydag Amy ar gyfartaledd unwaith yr wythnos yn ôl yr angen.

Mae Amy wedi derbyn hyfforddiant - hefyd wedi ei ariannu drwy'r Cynllun Mynediad i Waith.  Mae hon yn sesiwn 2 awr bob pythefnos ac mae'n cynnwys hyfforddiant ar y cyd gyda gweithiwr cymorth a goruchwyliwr Amy. 

Enghraifft o'r addasiadau rhesymol sydd wedi'u rhoi ar waith yw cyflwyno meddalwedd mapio meddwl sy'n cynorthwyo Amy wrth ymweld â theulu i strwythuro ei hasesiad o'u sefyllfa.

Yn ddiweddar, mae Amy wedi cymryd rhan mewn diwrnod tîm lle rhannodd gyda'r tîm ehangach beth mae'r diagnosis wedi ei olygu iddi a sut mae hi wedi addasu ei hymarfer.  Roedd y tîm yn teimlo bod hyn wedi bod yn bwerus a gwerthfawr iawn.  Mae'r asiantaeth gymorth ASDES wedi gofyn a fyddai'n ystyried secondiad gyda nhw i rannu ei phrofiad gyda chwmnïau eraill.

Mae Amy wedi bod yn ymwneud â gwaith ym Mhrifysgol Caerdydd yn cyfweld ag ymgeiswyr PhD posib ar gyfer darn o ymchwil ar awtistiaeth.

Mae'r cyllid Mynediad i Waith yn gyfyngedig o ran amser, ond gall y Tîm wneud cais bob blwyddyn am gyllid cymorth yn dibynnu ar anghenion Amy.

Fyddai'r Tîm ddim yn dweud bod hon wedi bod yn broses hawdd ond mae wedi bod yn brofiad gwerthfawr ac mae Amy yn enghraifft dda o sut y gall timau fanteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael a chyflogi ac integreiddio aelod o staff anabl yn llwyddiannus.

Disability Network