Oes gyda chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o Rwydwaith Anabledd y Staff?

 

Sunflower

Mae un o bob pump ohonon ni'n anabl ond dyw e ddim wastad yn amlwg. 

Boed ein hanabledd yn weladwy ai peidio, boed yn anabledd corfforol, yn afiechyd meddwl neu oherwydd ein bod yn niwroamrywiol, efallai y bydd gennym syniadau ar sut y gellid gwella'r gweithle fel bod pawb yn teimlo'n gwbl gynwysedig ac yn gallu cyflawni eu potensial.

Rydym yn chwilio am bobl sydd â phrofiad byw o anabledd, salwch meddwl a niwroamrywiaeth i'n helpu i sefydlu rhwydwaith staff newydd i roi llais i ni a helpu i wneud y Cyngor yn lle mwy cynhwysol i weithio.

Eisoes mae dau rwydwaith staff yn cael eu cefnogi gan y Cyngor. 

Sefydlwyd ein rhwydwaith ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws ac anneuaidd a chynghreiriaid sawl blwyddyn yn ôl a'i ail-lansio fel GLAM yn 2019. 

Yn fwy diweddar yn 2020, sefydlwyd ein rhwydwaith, o’r enw Diverse, ar gyfer staff a chynghreiriaid Du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig. 

Mae'r ddau rwydwaith hyn wedi rhoi llais i staff ymhlith yr Uwch Dîm Arwain, ynghyd â chyfle i gynnig sylwadau ar bolisi ac ymarfer, codi ymwybyddiaeth, cefnogi cydweithwyr a chael eu cefnogi gan gynghreiriaid. 

Rydyn ni eisiau'r un llais ar gyfer cydweithwyr anabl.

Rydym am i staff sy'n ystyried eu hunain yn bobl ag anabledd i rannu eu profiad, cynnig mewnwelediad ynghylch sut y gellid gwella'r gweithle iddynt, a chreu gofod diogel i gydweithwyr sydd mewn sefyllfa debyg i gael cefnogaeth pan fydd ei angen arnynt.

Dywed Colin Davies: "Mae fy ngwaith yn golygu helpu pobl ag anableddau i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith, ac ystyried sut gallwn ni eu cefnogi yn y gweithle. 

"Yn sgil hyn, dyma fi’n dechrau meddwl am yr heriau a allai fodoli  yn y gweithle i gydweithwyr sydd ag anableddau ac sydd eisoes yn gweithio yma. 

"Byddai rhwydwaith yn dod â phobl at ei gilydd i drafod hyn ac yn helpu'r Cyngor i ddeall beth y gallai ei wneud i fod yn fwy cynhwysol i bobl ag anableddau."

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o rwydwaith anabledd, neu ei gefnogi, cysylltwch â Colin Davies: codavies@valeofglamorgan.gov.uk

Fe'ch gwahoddir hefyd i gyfarfod anffurfiol am 1pm ddydd Iau 8 Rhagfyr yn Ystafell Bwyllgor 2 yn y Swyddfeydd Dinesig.  Bydd modd i chi gwrdd â Colin Davies a phobl eraill sydd â diddordeb mewn ffurfio rhwydwaith anabledd. 

Os oes gennych unrhyw anghenion o ran mynediad, rhowch wybod i mi.  Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.  

Disability Network