Staffnet+ >
Mae'r countdown i Pride ymlaen... a'n sgôr Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle STONEWALL mewn!
Mae'r countdown i Pride ymlaen... a'n sgôr Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle STONEWALL mewn!
Gyda phenwythnos Pride Cymru ar y gweill, mae'n bleser gennym gyhoeddi bod Cyngor Bro Morgannwg wedi ennill Gwobr Arian Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall.
Mae cydweithwyr a chynghreiriaid wedi rhoi llawer o waith i wella ein sgôr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd trothwyon eleni yn 72% ar gyfer Aur a 43% ar gyfer Efydd - fe sgorion ni lefel addawol o 63.5% gan arwain at Wobr Arian.
Roedd yr adborth a ddarparwyd gan Stonewall yn galonogol iawn, gyda llawer o feysydd yn dangos potensial i wella yn y cyflwyniad eleni. Yn gyffredinol, mae cynnydd cyson y Fro flwyddyn ar ôl blwyddyn yn dangos ein bod, fel Cyngor, yn croesawu amrywiaeth a chynhwysiant ac yn un sy’n gweithio’n galed i fynd i’r afael ag unrhyw faterion er budd yr holl grwpiau staff.
Rydym ar y cyd â rhwydwaith GLAM yn falch o ddatgelu'r canlyniadau hyn ac yn edrych ymlaen at weld aur yn ein dyfodol!Wrth i Pride Cymru agosáu, hoffai GLAM a rhwydwaith Diverse hefyd wahodd cydweithwyr i'r parti Uni-Tea.
Bydd hwn yn gyfle i chi gwrdd â'r rhwydweithiau a thrafod eu gwaith, darganfod mwy am yr hyn y gallwch ei wneud fel cynghreiriad a chofrestru eich diddordeb i orymdeithio yn Pride. I'r rhai a hoffai gymryd rhan, bydd gorsaf grefft hefyd lle gallwch chi ddylunio ac addurno placardiau ar gyfer yr orymdaith.
Cynhelir y digwyddiad Uni-Tea ar 10 Awst, rhwng 3-6pm yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd Dinesig.