Tocynnau Gwobrau Staff wedi gwerthu allan!

Rydym yn falch o gyhoeddi bod tocynnau ar gyfer y digwyddiad eleni bellach wedi gwerthu allan.

Gyda dim ond 5 wythnos i fynd, rydym nawr yn gorffen ein paratoadau ar gyfer y noson, a gynhelir yng Ngwesty'r Vale yn Hensol.

Mae dros 200 o docynnau nawr wedi eu gwerthu, ac mae taliadau'n cael eu casglu i sicrhau eich lle.

Os nad ydych wedi talu am eich tocyn yn barod, trefnwch i wneud hyn gyda'r swyddog perthnasol:

  • Cyfarwyddiaeth Amgylchedd a Thai/Yr Alpau - Jo Lewis
  • Dysgu a Sgiliau/Swyddfeydd Dinesig - Mark Davies
  • Gwasanaethau Cymdeithasol/Swyddfeydd y Dociau - Andy Cole
  • Prif Weithredwr ac Adnoddau Corfforaethol/Swyddfeydd Dinesig - Angela Bobbett

Yn sgil y galw mawr, byddwn ni'n agor rhestr wrth gefn i'r rhai sydd dal eisiau tocynnau.

Os nad ydych eisiau eich tocyn mwyach, neu os hoffech roi eich enw ar y rhestr wrth gefn, cysylltwch â chiefexecutive@valeofglamorgan.gov.uk. Bydd y rhain yn cael eu rhoi ar sail y cyntaf i'r felin.