Staffnet+ >
Cadwch y dyddiad ar gyfer te parti Uni-Tea!

Cadwch y dyddiad ar gyfer te parti Uni-Tea!
Dangoswch eich cefnogaeth i Pride 2022 trwy ymuno â GLAM a Diverse ar gyfer te a chacennau ar 10 Awst.
Bydd y digwyddiad 'Uni-Tea' yn gyfle i staff sydd am fod yn rhan o orymdaith Pride Cymru eleni gwrdd â'u cyd-orymdeithwyr, aelodau a rhwydweithiau.
Byddwch yn ymarfer eich sgiliau celf a chrefft drwy baratoi baneri mawr, baneri bach a baneri llaw ar gyfer y digwyddiadau Pride.
Bydd ein timau rhwydwaith GLAM a Diverse yno, yn rhannu gwybodaeth ynghylch sut rydym yn cefnogi amrywiaeth a chynhwysiant o fewn y Cyngor.
Gallwch ddysgu sut i fod yn gynghreiriad ac am bwysigrwydd y rôl honno wrth helpu unigolion a chymunedau i fyw eu bywydau gorau.
Gallwch hefyd gofrestru eich diddordeb i ymuno â ni ar gyfer Gorymdaith Pride ar 27 o Awst a chael gwybod pa ddathliadau lleol eraill sydd ar y gweill.
Caiff y noswaith ei gynnal wyneb-i-wyneb yn Siambr y Cyngor, y Swyddfeydd Dinesig.