Yr Wythnos Gyda Rob

26 Awst 2022

Annwyl gydweithwyr,

Pencoedtre school GCSE results day (Cym)Yr wythnos diwethaf, rhannais longyfarchiadau ar ran y Cyngor i bawb a oedd newydd dderbyn eu canlyniadau Safon Uwch ac UG. Yr wythnos hon hoffwn ymestyn yr un peth i bob un o'r bobl ifanc hynny wnaeth dderbyn eu canlyniadau TGAU ddoe.

Mae diwrnod canlyniadau TGAU yn foment fawr ym mywydau llawer o bobl ifanc. Rwy'n gobeithio bod pob un o'r rhai a agorodd eu canlyniadau ddoe yn edrych ymlaen heddiw at beth bynnag a ddaw yn eu dyfodol, boed hynny'n astudio ymhellach, yn mynd i mewn i fyd gwaith, neu rywbeth gwahanol. Unwaith eto, hoffwn ymestyn diolch ar ran y Cyngor a disgyblion ysgol ar draws y Fro i'r cydweithwyr y mae eu gwaith caled yn gwneud hyn i gyd yn bosibl. Diolch bawb.

YOS logorŵp o gydweithwyr nad yw eu gwaith gyda phobl ifanc yn derbyn llawer o sylw ond mae'n cael effaith enfawr yw ein Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid (GTI). Yr wythnos hon, rwy'n falch o allu rhannu bod GTI Bro Morgannwg wedi derbyn sgôr gyffredinol o 'Dda' yn dilyn archwiliad gan Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi.

Cafodd y tîm ganmoliaeth am ei "sefydlogrwydd, angerdd a phrofiad" mewn adroddiad cadarnhaol iawn gan Brif Arolygydd y gwasanaeth Prawf - Justin Russell. Wrth grynhoi eu gwaith dywedodd, "mae gan blant fynediad at yr hyn sydd ei angen arnynt i lwyddo a symud oddi wrth droseddu pellach - mae hyn yn newyddion da i bawb dan sylw, yn enwedig y cymunedau lleol yn y Fro a ledled y de-ddwyrain." Mae taro'r cydbwysedd rhwng helpu plant a diogelu'r cyhoedd yn gallu bod yn anodd iawn ac mae'r gydnabyddiaeth hon i dîm GTI yn haeddiannol iawn. Diolch enfawr i'r rhai sy’n ymwneud â hyn.

Staff Survey 2022Hoffwn ddiolch hefyd i bawb a gwblhaodd yr arolwg staff eleni. Rhannodd dros 1300 o gydweithwyr eu barn yn yr ymarfer eleni, mwy nag mewn unrhyw arolwg blaenorol. Rwy'n arbennig o falch o'r gwaith a wnaed i sicrhau bod mwy o gydweithwyr sy'n gweithio mewn rolau rheng flaen yn cymryd rhan nag erioed o'r blaen. Er y bydd y gwaith i ddadansoddi'r canlyniadau yn cymryd peth amser, mae cael ymgysylltu â'r nifer yma o bobl wrth siapio dyfodol y sefydliad yn cynrychioli cam arall ymlaen i dîm y Fro.

Hoffwn ddiolch i holl dim y prosiect a wnaeth Arolwg Staff 2022 yn gymaint o lwyddiant. Roedd y prosiect yn un gwirioneddol gydweithredol, gyda chydweithwyr ar draws nifer o adrannau yn gweithio gyda'i gilydd i ddod â'u sgiliau a'u profiad i'r gwaith hwn. Yn arbennig hoffwn ganmol Leanne Delaney ein Rheolwr Systemau a Data Adnoddau Dynol a arweiniodd y prosiect. Ymunodd Leanne â'r Fro yn gynharach eleni a chlywais ei bod wedi dod ag egni a brwdfrydedd a sbardunodd y prosiect a'i alluogi i fod yn gymaint o lwyddiant. Diolch yn fawr Leanne a diolch i bawb a gymerodd ran, gan gynnwys yr holl gydweithwyr a gymerodd yr amser i ymateb.

Vog Pride logoAr y penwythnos hwn ceir dathliadau blynyddol Pride Cymru yng Nghaerdydd. Bydd dwsinau o'n cydweithwyr ac aelodau etholedig yn gorymdeithio o dan faner GLAM i ddangos undod â'r gymuned LHDTC+ ac fel enghraifft wych o gynwysoldeb Cyngor Bro Morgannwg. Gobeithio y cewch i gyd ddiwrnod gwych.  Nid yw'n rhy hwyr i ymuno â'r tîm, cysylltwch â Chadeirydd GLAM, Tom Narborough ymlaen llaw.

Rwy'n credu ei fod yn dweud llawer am y sefydliad y bydd ein cydweithwyr yn gorymdeithio yn yr un wythnos ag y llwyddom i gyhoeddi bod y Cyngor wedi derbyn statws Awdurdod Arloesi gan Race Equality Matters i gydnabod ein gwaith i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol drwy greu mannau diogel.

LGBT GLAM Logo

Mae cael ei gydnabod fel arloeswyr yn golygu bod y gwaith y mae'r Cyngor wedi'i wneud wedi arwain at newid a chael effaith ar hyd a lled y sefydliad cyfan. Barn y panel dyfarnu oedd bod gwaith y Cyngor i sicrhau bod lleisiau o leiafrifoedd ethnig yn cael eu clywed mewn cyfarfodydd Mannau Diogel yn "glir ac yn sylweddol" a rhoddwyd y sgôr uchaf bosibl i’r Cyngor am y ffordd mae’n sicrhau bod awgrymiadau ynghylch ffyrdd o wella yn cael eu rhoi ar waith.  

Diolch i bawb sy'n ymwneud â'r gwaith hwn ac sy'n mynychu neu'n cefnogi ein rhwydweithiau GLAM ac Amrywiaeth. Mae eich gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. 

Suzanne Clifton AbseilingDydw i ddim am i'r wythnos hon fynd heibio heb dynnu sylw at weithgareddau allgyrsiol ein Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, Suzanne Clifton. Y penwythnos diwethaf fe wnaeth Suzanne abseilio 131 troedfedd i lawr Gwesty Dewi Sant ym Mae Caerdydd i godi arian ar gyfer Age Connects Caerdydd a'r Fro. Camp drawiadol iawn ac un sydd hyd yma wedi codi £360 i'r elusen. Nid yn unig ymdrech fawr, ond ymdrech ddewr iawn hefyd!  Da iawn Suzanne. 

Rwy'n defnyddio'r neges hon yn rheolaidd i estyn fy niolch i'r rhai sy'n ymddeol neu'n symud ymlaen i rolau eraill. Yr wythnos hon rwyf am sôn am Jill Gorin o dîm Economi ac Adfywio'r Cyngor. Mae Jill yn ymddeol ar 1 Medi, wedi cyfraniad sylweddol a brwdfrydig i waith y Cyngor ar ddatblygu economaidd. Rwy'n gwybod y bydd cydweithwyr Jill yn colli ei chyfraniadau ac rydym i gyd yn dymuno'n dda iddi am ymddeoliad hir ac iach. Diolch Jill.

InVentry visitor systemEfallai bod rhai ohonoch eisoes wedi sylwi ar y ciosgau ymwelwyr InVentry newydd yn yr Alpau a'r Swyddfeydd Dinesig. Mae’r system mewngofnodi ymwelwyr newydd yn weithredol nawr a rhaid i bob ymwelydd fewngofnodi drwy ddefnyddio'r ciosg InVentry yn y dderbynfa wrth gyrraedd yr adeilad. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar Staffnet+.

Yn olaf, os ydych chi'n chwilio am ffordd fwy heddychlon i fwynhau penwythnos gŵyl y banc yna fe wnaeth erthygl ddiweddar gan Arweinydd y Cyngor yng nghylchgrawn Buddy yn y Barri dynnu sylw at rywfaint o'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan Bartneriaeth Natur y Fro a ffyrdd y gallwn ni i gyd gymryd rhan ynddo. Os nad ydych wedi gweld y darn eto yna gallwch ei ddarllen ar-lein ac mae llawer o awgrymiadau da a dolenni defnyddiol ar gyfer gwaith cadwraeth gallwn i gyd ymgymryd ag ef. 

Gobeithio y bydd llawer ohonoch yn cael cyfle i fwynhau penwythnos gŵyl y banc ac i'r rhai ohonoch sy'n gweithio ac ar ddyletswydd, mae diolch mawr i chi gennyf a’m cydweithwyr. Fel bob amser diolch am eich ymdrechion yr wythnos hon. 

Diolch yn fawr iawn.   

Rob.