Yr Wythnos Gyda Rob
19 Awst 2022
Annwyl gydweithwyr,
IHoffwn ddechrau'r wythnos hon drwy ddweud llongyfarchiadau i fyfyrwyr chweched dosbarth o bob cwr o Fro Morgannwg sy'n dathlu cyfres drawiadol arall o ganlyniadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol.
Bydd hon wedi bod yn wythnos bryderus i nifer, nid yn unig i ddisgyblion ond hefyd i rieni ac aelodau eraill y teulu. Bydd hefyd wedi bod yn emosiynol rwy'n siŵr i lawer o gydweithwyr yn ein hysgolion a'r timau hynny ar draws y Cyngor sy'n helpu pobl ifanc i gyflawni. Diolch yn fawr iawn i'n holl staff a'n cydweithwyr a helpodd i wneud iddo ddigwydd. Mae eich cefnogaeth yn amhrisiadwy wrth helpu ein pobl ifanc i wireddu eu potensial. Diolch yn fawr iawn.
Mae rhaglen Haf o Hwyl hefyd yn cael y marciau uchaf ar hyn o bryd. Mae'r rhaglen yn cynnig mynediad am ddim i blant, pobl ifanc a theuluoedd i amrywiaeth o chwaraeon, chwarae, gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol. Mae miloedd wedi cymryd rhan yn barod yr haf hwn ac mae’r adborth hyd yma wedi bod yn wych. Un o uchafbwyntiau'r wythnos hon oedd Diwrnod Hwyl Dechrau'n Deg yn y Barri. Daeth torf fawr o bobl i gaeau Pencoedtre a bwrlwm go iawn yn yr awyr gyda llawer o blant hapus yn mwynhau gweithgareddau fel peintio wynebau a wal ddringo am ddim. Hoffwn ddiolch i bawb a helpodd i drefnu'r digwyddiad, yn ogystal â phawb sy'n gweithio o wahanol adrannau a thimau ar draws y Cyngor i wneud y rhaglen ehangach yn gymaint o lwyddiant.
Ymhlith y dwsinau o stondinau gan dimau'r Cyngor oedd ein tîm Polisi a Thrawsnewid Busnes a dreuliodd y diwrnod yn siarad â thrigolion am yr hyn sydd angen i ni ganolbwyntio arno ar gyfer y dyfodol. Bydd y gwaith yn llywio ein Cynllun Cyflenwi Blynyddol ar gyfer 2023/24. Rydym yn holi beth ddylai ein hymrwymiadau fod am y flwyddyn. I wneud hyn, rydym yn edrych ar yr hyn a gyflawnwyd gennym a’r hyn y gallen ni fod wedi ei wneud yn wahanol. Fel rhan o hyn mae dogfen gryno ardderchog a chyfres o fideos wedi eu cynhyrchu. Mae'r rhain yn gwneud gwaith gwych o dynnu sylw at yr hyn yn union a gyflawnwyd yn 2021/22 ac maent yn werth cael golwg arnynt.
Soniais mewn neges yn gynharach y mis hwn ein bod cyn hir am ddechrau siarad â thrigolion a rhanddeiliaid eraill am fater pwysig arall – gwelliannau yn y dyfodol i Lan Môr Penarth. Mae'r gwaith hwn bellach ar y gweill ac rydym yn derbyn llawer o awgrymiadau gwych ar-lein a thrwy fyrddau awgrymiadau sydd wedi eu gosod ym Mhafiliwn y Pier. Os ydych chi'n mynd heibio'r penwythnos hwn, galwch heibio a rhannwch eich syniadau, neu dwedwch wrthym beth rydych chi'n ei feddwl ar-lein.
Mae'r Pafiliwn bob amser yn brysur ac fe fuodd hyd yn oed yn fwy felly ddoe gydag ymweliad Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans. Ymunodd y Gweinidog â chydweithwyr o Dysgu a Sgiliau a Big Fresh Catering yn ogystal ag Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lis Burnett, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Celfyddydau a'r Gymraeg, y Cynghorydd Rhiannon Birch. Roedd y Gweinidog a swyddogion Llywodraeth Cymru ym Mhenarth i ymweld â chanolfan arloesol Gofod Gwneud (Makerspace) yn y Llyfrgell ac i glywed am y model busnes y tu ôl i'r Big Fresh. Dim ond enghraifft arall o'n gwaith yn denu sylw'r rheiny ar y llwyfan cenedlaethol.
Bydd modd i unrhyw un sydd allan hwnt ac yma ym mhen arall y Fro i weld man chwarae newydd Windmill Lane yn Llanilltud Fawr. Dyma'r diweddaraf mewn rhestr hir o ardaloedd chwarae yn y Fro i gael bywyd newydd ar ôl buddsoddiad mawr gan y Cyngor. Mae'r cyfleusterau newydd yn addas i blant o amrywiol oedrannau, o blant bach i blant 12 oed a bydd coed newydd yn cael eu plannu cyn bo hir i gwblhau'r trawsnewidiad. Diolch i bawb sy'n gweithio i wella ein gofodau chwarae.
Yn olaf, gydag o leiaf ychydig wythnosau yn rhagor o'r haf yn weddill a allaf awgrymu bod unrhyw dimau sy'n chwilio am leoliad cyfarfod gwahanol yn dilyn arweiniad gan y tîm TGCh a Data yn Dysgu a Sgiliau a gafodd gyfarfod cerdded y mis hwn ar hyd yr arfordir treftadaeth. Mae'n wych gweld timau'n dod o hyd i ffyrdd o roi eu lles wrth galon eu gwaith, ac yn arddull diguro Tîm y Fro, fe wnaethon nhw hyd yn oed gynnal cyrch bach casglu sbwriel ar hyd y ffordd. Da iawn bawb.
Fel bob amser, diolch i chi i gyd am eich gwaith caled yr wythnos hon. Mwynhewch y penwythnos.
Diolch yn fawr iawn.
Rob.