Yr Wythnos Gyda Rob
12 Awst 2022
Annwyl gydweithwyr,
Mae'r tywydd poeth iawn wedi dychwelyd yr wythnos hon. Roedd hi'n hyfryd clywed ddoe bod trigolion wedi bod yn stopio rhai o'n criwiau gwastraff i gynnig diodydd oer iddyn nhw. Dyma ein hatgoffa cymaint mae pobl yn gwerthfawrogi ein gwaith, ond hefyd mor anodd y gall gweithio mewn tymheredd mor uchel fod. Rwy'n gwybod y bydd yn benwythnos prysur i'r rhai sy'n gweithio yn ein cyrchfannau, ein parciau a'n parciau gwledig, yn ogystal â'r rhai sydd allan yn y gwres ar ddyletswyddau casglu gwastraff. Mae'r cyngor gafodd ei gyhoeddi nôl ym mis Gorffennaf ynghylch sut i gadw'n ddiogel tra'n gweithio yn y gwres yn dal ar gael ar StaffNet+. Bydd hefyd negeseuon mwy cyffredinol ynghylch sut i gadw'n ddiogel a mwynhau'r tywydd poeth ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol gydol y penwythnos.

Does dim dwywaith bod tywydd eithafol mwy aml fel sy’n digwydd ar hyn o bryd yn dystiolaeth o newid hinsawdd. Mynd i'r afael â hyn yw un o'r heriau mwyaf y byddwn yn eu hwynebu ac mae’n flaenoriaeth bwysig i'r Cyngor, felly rwy'n falch o allu rhannu bod ein rhaglen Prosiect Sero wedi cael sylw yr wythnos hon fel enghraifft o arfer gorau gan wefan Carbon Copy. Cefnogir y wefan sy'n tynnu sylw at 'weithredu lleol â meddwl mawr' gan Climate Action a Chyfeillion y Ddaear. Er bod gennym lawer iawn i'w wneud o hyd wrth fynd i’r afael â'n heriau hinsawdd lleol, mae'n galonogol iawn gweld ein gwaith hyd yn hyn yn cael cymaint o sylw.

Darn allweddol o'r gwaith hwn yw ein rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif a hoffwn longyfarch Kelly Williams sydd wedi llwyddo’n rhyfeddol yn ei harholiad Rheoli Prosiectau Adeiladu Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig gyda 84% gwych. Da iawn Kelly. Mae tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cael eu dathlu'n aml am eu gwaith sy'n arwain y sector, a hynny’n briodol iawn. Does gennyf ddim amheuaeth y bydd hyn yn parhau wrth iddynt ddatblygu a hogi eu sgiliau hyn yn oed ymhellach.
Hefyd yr wythnos hon mae gwaith ein tîm Llyfrgelloedd wedi fy ngwneud yn hynod o falch o fod yn gweithio i Gyngor Bro Morgannwg.
Bydd rhai ohonoch eisoes wedi gweld y darllediadau newyddion cenedlaethol gan ITV Cymru a BBC Cymru a bydd eraill wedi darllen yr hanes yn llawn ar StaffNet+ ynghylch sut y daeth cynulleidfaoedd mawr i lyfrgelloedd yn y Barri, Penarth a'r Bont-faen yr wythnos hon ar gyfer y gyfres hynod boblogaidd Awr Stori’r Breninesau Drag.

Gwnaeth y plant fwynhau’r perfformiadau gan yr artist drag Aida H Dee yn fawr iawn, ac wythnosau o waith caled gan ein tîm Llyfrgelloedd wnaeth y cyfan yn bosibl. Roedd lleiafrif bach o brotestwyr yn llai cadarnhaol, gwaetha’r modd. Roedd cynghorau eraill wedi dewis canslo digwyddiadau oherwydd hyn. Ond roedd y Cyngor hwn yn benderfynol o beidio â gadael i hyn ddylanwadu arno ac roedd gwaith y tîm, gyda chefnogaeth gan gydweithwyr Bro Ddiogelach a’r tîm Cyfathrebu, yn golygu bod ein digwyddiadau wedi mynd yn eu blaen a’u bod hefyd yn ddathliad proffil uchel iawn o'r cynhwysiant sy’n greiddiol i’n sefydliad.
Diolch yn fawr i bawb a wnaeth hyn yn bosibl. Rydyn ni i gyd yn falch ohonoch chi.

Mater arall gafodd lawer o sylw yn y cyfryngau yr wythnos hon oedd y cynnydd tebygol mewn biliau tanwydd yn ddiweddarach eleni, gyda rhagamcanion wedi codi eto. Bydd hyn yn cael effaith enfawr ar lawer iawn o bobl, a hoffwn dynnu sylw cydweithwyr unwaith eto at y ganolfan gymorth costau byw rydyn ni wedi'i datblygu ar ein gwefan. Mae cefnogaeth wedi'i thargedu at y rhai sydd ei angen fwyaf yn cael ei datblygu, ac rwy'n gobeithio gallu rhannu manylion am hyn cyn bo hir. Yn y cyfamser, rwy'n gwybod y bydd llawer ohonoch yn siarad â chleientiaid a chwsmeriaid fydd â gwir bryderon ynghylch sut y byddant yn ymdopi. Mae'r wybodaeth ar-lein yn rhoi cyngor ardderchog i chi ei rannu.
Fel bob amser, diolch i chi i gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon. Diolch yn fawr bawb.
Rob.