Yr Wythnos Gyda Rob
05 Awst 2022
Annwyl gydweithwyr,
Hoffwn ddechrau drwy longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau'r Staff eleni ac a fyddai wedi derbyn eu newyddion da yr wythnos hon. Mae cael eu henwebu am wobr yn gamp gwirioneddol a dylai pawb a gafodd eu cyflwyno am wobr fod yn falch iawn bod eu cydweithwyr yn dymuno eu gweld yn cael eu cydnabod. Gyda mwy o enwebiadau wedi dod i law nag erioed o'r blaen, roedd cystadleuaeth hynod o gryf ar draws yr holl gategorïau gwobrwyo. Mae'n dipyn o gamp felly i fod ar y rhestr fer a phawb a ddylai fod yn falch iawn ohonyn nhw eu hunain. Gallwch weld y rhestr lawn o'r rhai sydd ar y rhestr fer, ynghyd â manylion y digwyddiad a sut i brynu tocynnau ar ganolfan Gwobrau Staff ar StaffNet+. Bydd rhagor o wybodaeth a diweddariadau'n cael eu cyhoeddi ar staffnet a staffnet+ dros yr wythnosau nesaf wrth i ni adeiladu at y noson wobrwyo ei hun ar 30 Medi.

Mae'r wythnos hon wedi gweld ein tîm Chwaraeon a Chwarae yn cynnal diwrnod hwyl i'r teulu yn hynod lwyddiannus ym Mharc Romilly yn y Barri. Daeth y digwyddiad i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol ddydd Mercher â channoedd i deuluoedd i'r parc. Roedd yn enghraifft wych o dimau ar draws y Cyngor yn cydweithio, gyda'r Gwasanaeth Ieuenctid, Tîm Dechrau'n Deg, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, Gwasanaeth Rhianta'r Fro, Tîm Dysgu Oedolion, Strategaeth a Pholisi, a thimau Cyfathrebu i gyd yn rhan annatod o'i wneud yn llwyddiant. Yn ogystal â rhoi diwrnod am ddim i lawer o deuluoedd yn ystod gwyliau'r haf, roedd y digwyddiad yn tynnu sylw at y rôl bwysig sy'n chwarae ar iechyd corfforol, iechyd meddwl, a pherthnasoedd plant a phobl ifanc. Roedd y diwrnod yn rhan o raglen Haf o Hwyl fydd yn cael ei chynnal tan ddiwedd mis Medi a byddwn yn eich annog chi i gyd i edrych ar beth arall sydd wedi ei gynllunio ar ein gwefan. Da iawn bawb.

Mae Prosiect Sero yn ffocws mawr i'r Cyngor dros y blynyddoedd nesaf ac felly mae'n un o nifer o feysydd rydym wedi gofyn am eich barn amdanynt yn yr Arolwg Staff eleni. Mae'r arolwg eleni yn fwy nag unrhyw ymarfer blaenorol, a hyd yma mae'r ymateb wedi bod yn galonogol iawn. Mae'r arolwg yn gyfle go iawn i staff siapio sut y bydd y Cyngor yn gweithio yn y dyfodol. Mae'n cynnwys iechyd a lles, uwch arweinyddiaeth, cefnogaeth rheolwr llinell, cyfathrebu ac amodau gwaith. Bydd ymatebion ein cydweithwyr yn llywio penderfyniadau allweddol yn y meysydd hyn. Erbyn hyn rydym wedi cael mwy na mil o ymatebion gan gydweithwyr ond rydym eisiau mwy ac nid yw’n rhy hwyr i rannu eich barn. Bydd yr arolwg yn cau ddydd Llun 08 Awst felly os nad ydych wedi cael cyfle eto, dywedwch eich barn cyn y dyddiad cau. Bydd unrhyw un sy'n cwblhau'r arolwg ar-lein hefyd yn cael cyfle i gystadlu am wobr am ddim ac fe allai ennill te prynhawn am ddau, pâr o docynnau i berfformiad ym Mhafiliwn Pier Penarth, neu benwythnos yn un o gytiau traeth Ynys y Barri.

Wrth i Pride Cymru nesai, hoffwn dynnu eich sylw at ddigwyddiad y mae ein rhwydweithiau GLAM ac Diverse yn ei gynnal. Bydd y digwyddiad 'Uni-Tea' yn gyfle i staff sydd am fod yn rhan o orymdaith Pride Cymru eleni gwrdd â'u cyd-orymdeithwyr, aelodau a rhwydweithiau. Bydd ein timau rhwydwaith GLAM a Diverse yno, yn rhannu gwybodaeth ynghylch sut rydym yn cefnogi amrywiaeth a chynhwysiant o fewn y Cyngor. Gallwch hefyd gofrestru eich diddordeb i ymuno â ni ar gyfer Gorymdaith Pride ar 27 o Awst a chael gwybod pa ddathliadau lleol eraill sydd ar y gweill. Mae mwy o wybodaeth ar Staffnet+.

Yn olaf, hoffwn ddymuno pob lwc i Dîm y Fro sydd yn cynrychioli'r Cyngor yn 10k Ynys y Barri y penwythnos hwn. Mae'r tîm yn codi arian ar gyfer Sefydliad y Maer sy'n cefnogi grwpiau gwirfoddol a chymunedol ar draws y Fro gyda grantiau bach. Maent bron hanner ffordd at eu targed o £1000. Rhywun sydd wedi casglu £325 cychwynnol tuag at y targed yw un o'n rhedwyr, Craig Nichol. Codwyd yr arian hwn gan ei gwsmeriaid ac mae'n rhoi syniad o faint mae gwaith Craig yn cael ei werthfawrogi gan ei gleientiaid ar y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff ym Mhenarth a faint mae'n ei gyfrannu'n bersonol at wneud y cynllun yn gymaint o lwyddiant. Da iawn Craig a phob lwc i ti a rhedwyr eraill dros y penwythnos.
Gallwch ddysgu mwy am y tîm, pam eu bod yn rhedeg, a sut i gyfrannu ar eu tudalen StaffNet +. Pob lwc tîm.
Diolch fel bob amser i'r holl gydweithwyr am eich ymdrechion yr wythnos hon. Diolch yn fawr bawb.
Rob.