Staffnet+ >
Llyfrgelloedd dan eu sang ar gyfer Drag Queen Story Hour
Llyfrgelloedd dan eu sang ar gyfer Drag Queen Story Hour
11 Awst 2022

Cynhaliodd llyfrgelloedd y Fro gyfres o ddigwyddiadau hynod boblogaidd yr wythnos hon gydag Aida H Dee yn ymweld ar gyfer Drag Queen Story Hour.
Croesawyd Aida, a gyflwynodd berfformiad unigryw llawn hiwmor ac angerdd, i adeiladau sy'n cael eu rhedeg gan y cyngor yn y Barri, Penarth, Llanilltud Fawr a'r Bont-faen.
Aeth staff llyfrgell yr ail filltir i sicrhau bod pob digwyddiad yn rhedeg yn ddidrafferth er gwaethaf presenoldeb ambell i brotestiwr.
Yn anffodus, nid yw ymddangosiadau Aida yn cael croeso mor gynnes gan leiafrif bach ac mae Awdurdodau Lleol eraill wedi dewis canslo digwyddiadau oherwydd eu gweithredoedd.
Ond roedd y Cyngor hwn yn benderfynol o beidio â chael ei ddylanwadu gan ymddygiad o'r fath a, diolch i ymdrechion cydweithwyr, cynhaliwyd pob perfformiad yn y Fro heb ddigwyddiad mawr, ac fe'u mwynhawyd yn fawr gan y rhai a fynychodd.
Dywedodd Trevor Baker - Pennaeth Strategaeth, Dysgu Cymunedol ac Adnoddau: "Hoffwn ddiolch o galon i'r holl staff am lwyfannu’r digwyddiadau Drag Queen Story Hour yr wythnos hon.
"Digwyddodd y rhain mewn amgylchiadau heriol, ond roedden nhw'n llwyddiant ysgubol oherwydd ymrwymiad, proffesiynoldeb a charedigrwydd staff ein llyfrgelloedd a thu hwnt.
"Fel Cyngor, rydym yn falch o gynnig profiadau sy'n adlewyrchu amrywiaeth ein trigolion.
"Mae Drag Queen Story Hour yn gyfle i ysbrydoli cariad at ddarllen, tra’n dysgu gwersi dyfnach am amrywiaeth, hunangariad a gwerthfawrogiad o bobl eraill. Mae yna hefyd negeseuon pwysig ynghylch derbyn a chynwysoldeb.
"Yn union fel sesiynau blaenorol, daeth llawer o bobl i’r digwyddiadau. Gwnaeth rhieni a phlant gyfrannu’n frwdfrydig a rhoi adborth cadarnhaol iawn am eu profiadau.
"Nid pawb sydd o blaid y digwyddiadau hyn, ond yn y Fro credwn ei bod yn bwysig sefyll yn erbyn anoddefgarwch.
"Mae gennym ni amrywiaeth o ddarllenwyr a llyfrau amser stori yn ein llyfrgelloedd yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, sy'n golygu bod rhywbeth at ddant pawb. Rydym yn falch o gynnwys Drag Queen Story Hour fel rhan o'r ystod eang hon o raglenni a digwyddiadau."
Daeth camerâu’r BBC ac ITV i ymweld â’r sesiynau, gan helpu i arddangos bod y Cyngor yn sefydliad sy'n dathlu amrywiaeth.
Nid yw'r Awdurdod yn cuddio ei ymrwymiad i gynwysoldeb ac mae'n mynychu digwyddiadau sy'n hyrwyddo'r gwerth hwn yn rheolaidd.
Y nesaf o’r rhain yw Pride Cymru, sy'n cael ei gynnal dros benwythnos dydd Sadwrn 28 Awst yng Nghaerdydd, gyda disgwyl i nifer fawr o staff fynychu.
Os hoffech ymuno â’r Cyngor a GLAM yn gorymdeithio yn y digwyddiad, e-bostiwch :