Staffnet+ >
Cyfle olaf i ymuno â Gorymdaith Pride Cymru!
Cyfle olaf i ymuno â Gorymdaith Pride Cymru!
Bydd cydweithwyr yn cwrdd yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn yma, 27 Awst, ar gyfer gorymdaith Pride Cymru.
Byddwn yn ymgynnull ar gyfer yr orymdaith am 09:00 ym Maes Parcio'r Atrium (Prifysgol De Cymru) i ddosbarthu crysau-t, baneri mawr a baneri bach. Os ydych eisoes wedi cadarnhau eich lle, byddwn mewn cysylltiad â manylion pellach.
Os hoffech ymuno, cysylltwch â Tom Narbrough ar tnarbrough@valeofglamorgan.gov.uk.
