Staffnet+ >
Y tu mewn i Wasanaethau Cyn-filwyr y Fro gydag Abigail Warburton
Y tu mewn i Wasanaethau Cyn-filwyr y Fro gydag Abigail Warburton
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei rhestr o enillwyr ar gyfer 'Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn' 2022.
Ymhlith yr enillwyr a restrwyd eleni oedd sawl awdurdod lleol o Gymru, gan gynnwys Bro Morgannwg.
Mae'r wobr yn cydnabod cyflogwyr sy’n cefnogi'r Lluoedd Arfog yn rhagweithiol ac yn gwneud eu gwerthoedd yn gydnaws â Chyfamod y Lluoedd Arfog. Mae rhai o'r ffyrdd y mae'r Cyngor yn gwneud hyn yn cynnwys rhoi absenoldeb ychwanegol â chyflog i filwyr wrth gefn a rhoi polisïau Adnoddau Dynol cefnogol ar waith ar gyfer cyn-filwyr a gwirfoddolwyr.
Ar hyn o bryd dim ond 156 o sefydliadau ledled y DU sydd wedi cael y wobr hon ac mae llawer o waith caled yn gysylltiedig â chyflawni’r statws yma.
Un o'r gweithwyr allweddol sy'n rhan o'r gwaith hwn yw'r Swyddog Cynghori Cyn-filwyr, Abigail Warburton.
Gwaith beunyddiol Abigail yw cynnig cyngor a chefnogaeth ddi-dâl a diduedd i aelodau cymuned y Lluoedd Arfog. Mae’r gwaith hwn yn cwmpasu ystod eang o faterion gan gynnwys budd-daliadau, gofal cymdeithasol, cyllid, cyflogaeth a thai. Mae’n cynnwys gweithio'n uniongyrchol gydag aelodau presennol y lluoedd arfog, cyn-filwyr a'u teuluoedd.
Yn ogystal â'r gwaith hwn, Abigail hefyd yw Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog ar gyfer Cyngor Bro Morgannwg a Chyngor Caerdydd a hi sy’n gyfrifol am gryfhau’r ddarpariaeth a gynigir gan awdurdodau lleol mewn perthynas â Chyfamod y Lluoedd Arfog. Mae’r gwaith hefyd yn cynnwys codi ymwybyddiaeth am Gyfamod y Lluoedd Arfog a phecyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru ymhlith yr holl awdurdodau.

Wrth gael ei holi am ei gwaith a'i harferion beunyddiol, dywedodd Abigail: "Mae pob diwrnod yn wahanol ac felly hefyd pawb yr ydw i’n cwrdd â nhw; Rydw i’n delio gyda llawer o wahanol bobl ac ymholiadau.
"Rwy'n cymryd rhan mewn cyfarfodydd ar-lein yn rheolaidd gyda grwpiau ffocws gwahanol, rwy'n cwrdd â phobl wyneb yn wyneb i helpu i lenwi ffurflenni neu i roi cyngor. Rwy'n mynychu Grwpiau Cyn-filwr drwy gydol yr wythnos ac ar benwythnosau ac yn cefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog a'r teuluoedd pan fo angen.
"Rwyf hefyd yn mynychu digwyddiadau'r Lluoedd Arfog ac fe ges i'r fraint o fod yn rhan o Saliwt 21 Gwn Jiwbilî Frenhinol y Frenhines a'r orymdaith Croeso’n Ôl lle cwrddais â Thywysog Cymru."
Mae Abigail wedi bod yn gweithio i'r Cyngor ers dros 16 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi gweithio a dysgy mewn sawl maes gan gynnwys Budd-daliadau Tai, Treth y Cyngor, Ymateb Cyntaf i Oedolion, Credyd Cynhwysol a Gwasanaethau Cwsmeriaid, yn ogystal â llawer o rai eraill.
Aeth Abigail ymlaen i ddweud: "Rydw i wir yn mwynhau'r hyn dwi'n ei wneud ac os gallaf wneud gwahaniaeth i ansawdd bywyd rhywun yna dyma'r peth sy'n rhoi'r boddhad mwyaf i mi, boed hynny'n gynhwysiant ariannol neu gymdeithasol, mae dod â phobl at ei gilydd yn y grwpiau Cyn-filwyr a gweld rhywun a allai fod yn ynysig yn gymdeithasol a heb gefnogaeth yn ymgysylltu ag eraill yn y grŵp yn cynhesu’r galon.
"Rydw i’n cael cwrdd â phobl anhygoel o bob oed ac yn cael dysgu am eu stori unigol sy'n fraint.
O ran rhai o agweddau mwy heriol y rôl, dywedodd Abigail: "Bydd y mwyafrif yn pontio heb unrhyw broblemau ac yn dod o hyd i waith a chartrefi ond i rai mae'r newid i fywyd sifil yn gallu bod yn her.
"Nid yw'n hawdd rhoi’r gorau i wasanaethu a dechrau rheoli cyllid a llety pan fo hynny’n rhywbeth sydd i gyd yn cael ei drefnu ar eich rhan yn y Lluoedd Arfog. Mae rhai angen yr help ychwanegol hwnnw i ymdopi p’un a yw hynny o'r diwrnod y maent yn gadael neu ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach.
Mae'r Fro wedi cynnal llawer o achlysuron i goffau'r rhai a roddodd eu bywydau ac a wasanaethodd eu gwlad.
Cyngor y Fro oedd y cyntaf i arwyddo'r Cyfamod Cymunedol yn ôl yn 2011 ac mae bob amser yn ceisio gwella'r ymrwymiad i Gymuned y Lluoedd Arfog a chynnig Gwasanaeth pwrpasol i Gyn-filwyr.