Staffnet+ >
Hundreds turn out for Flying Starts Family Fun Day
Cannoedd yn dod i Ddiwrnod Hwyl i'r Teulu Dechrau'n Deg

Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaeth tîm Dechrau'n Deg Cyngor Bro Morgannwg gynnal diwrnod llawn hwyl ym mharc Pencoedtre.
Gweithiodd Dechrau'n Deg mewn partneriaeth â dros 40 o wasanaethau a sefydliadau gan gynnwys Gwasanaeth Ieuenctid y Fro, Llyfrgelloedd y Fro, Pedal Power a Gwasanaeth Tân De Cymru i gynnig amrywiaeth o weithgareddau rhad ac am ddim i deuluoedd eu mwynhau.
Roedd y gweithgareddau'n cynnwys peintio graffiti, cestyll neidio, dewin, beicio a chelf a chrefft.
Dywedodd Kathryn Clarke, Rheolwr Dechrau'n Deg: "Roedd y digwyddiad heddiw'n gyfle i asiantaethau a'r gymuned ailgysylltu yn dilyn dwy flynedd heriol.
Fel arfer mae ein digwyddiadau yn cael eu cynnal yn flynyddol, ond oherwydd y pandemig, rydyn ni wedi gorfod gohirio rhai digwyddiadau.
Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o deuluoedd o bob rhan o'r Fro yn dod heddiw.
Diolch yn fawr iawn i dîm Dechrau'n Deg a'n hasiantaethau partner am wneud y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol.
"Roedd tîm rhianta'r Fro yn un o'r nifer o wasanaethau a oedd yn bresennol ar y diwrnod.
Meddai Rachel Evans, Ymarferydd Rhianta: "Mae'n anhygoel gweld popeth yn symud ymlaen o'r pandemig a phobl yn mwynhau’r Diwrnod Hwyl i'r Teulu.
"Nawr gallwn symud i flwyddyn academaidd newydd mewn ffordd gadarnhaol i'n Plant a'n Teuluoedd."
Denodd y diwrnod deuluoedd o bob rhan o'r Fro. Cawsom sgwrs gyda rhai o'r teuluoedd oedd yn mwynhau'r llu o weithgareddau. Dywedodd un teulu: "Mae'n braf iawn gweld teuluoedd yn dod at ei gilydd i fwynhau'r diwrnod.
"Rydw i yma gyda fy chwaer a'i phlant, ac mae ein merched yn gyffro i gyd am y wal ddringo.
"Mae gweithgareddau am ddim i deuluoedd yn bwysicach nag erioed gyda chostau byw cynyddol.
"Roedd y diwrnod hefyd yn gyfle i'r timau ymgysylltu â'r trigolion a chodi ymwybyddiaeth o'r llu o wasanaethau rhad ac am ddim sydd ar gael yn y Fro sy’n cefnogi teuluoedd.
Meddai Deborah Lewis, Swyddog Datblygu Addysg Oedolion: "Mae heddiw'n gyfle gwych i ni ymgysylltu â theuluoedd lleol a chodi ymwybyddiaeth o'n gwasanaeth a'r cyfleoedd sydd ar y gweill.
"Mae cynllun Dechrau'n Deg yn rhaglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi teuluoedd a gwella datblygiad, iechyd a lles plant. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys pedwar hawl gan ddarparu gofal plant, gofal iechyd, rhaglenni rhianta a datblygiad iaith.
Dywedodd Sue Davies, Uwch Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar Dechrau'n Deg: "Mae'r tîm yn gwneud gwaith anhygoel ac rydym yn falch iawn o weithio i Dechrau'n Deg oherwydd ei fod yn wasanaeth rhagorol sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn.

"Heddiw, gall teuluoedd ymweld â'n stondin i ganu caneuon ar y thema jyngl i hyrwyddo lleferydd ac iaith ac annog cefnogaeth rhieni wrth ddarllen straeon a chanu.
"Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau a chymorth i deuluoedd ar wefan Cyngor Bro Morgannwg.
Mae'r diwrnod yn un o nifer o weithgareddau am ddim sydd ar gael i bobl ifanc yr haf hwn. Bydd Haf o Hwyl yn para tan 30 Medi ac mae'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau am ddim, sy'n addas i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed.