Cyn bo hir: Oracle Fusion
Bydd y ffordd y mae'r holl staff yn cael gafael ar wybodaeth am eu cyflog, eu manylion personol, a llawer mwy yn newid cyn bo hir.
In the coming months, Oracle Fusion will launch, replacing the current Oracle system.
Bydd Oracle Fusion yn cael ei lansio yn y misoedd nesaf, gan ddisodli'r system Oracle bresennol.
Gallwch ddefnyddio Oracle Fusion i weld eich slipiau cyflog, gwybodaeth bersonol, cofnodi treuliau a llawer mwy.
Bydd y system newydd yn seiliedig ar y cwmwl ac felly bydd staff yn gallu mewngofnodi gan ddefnyddio dyfeisiau gwaith a phersonol, gyda dull mewngofnodi un cam fydd yn golygu na fydd angen i chi osod a chofio cyfrineiriau lluosog.
Bydd Oracle Fusion yn rhoi porth hunanwasanaeth i bob cyflogai i gyflwyno gwahanol geisiadau adnoddau dynol, llwyfan llawer gwell i reolwyr adolygu a gweithredu ar y rhain yn ogystal â chwblhau llawer o'r tasgau sydd angen ffurflen BM ar hyn o bryd, a llwyfan caffael llawer gwell.
Bydd y llwyfan yn rhoi'r Cyngor ar flaen y gad yn y sector cyhoeddus o ran rheoli'r gadwyn gyflenwi, y gyflogres, a phrosesau Adnoddau Dynol.
Bydd gwybodaeth yn cael ei hychwanegu at y hyb wrth i ni nesáu at lansio Oracle Fusion.
Ochr yn ochr â gwella gwasanaethau i staff, un o nodau allweddol y strategaeth ddigidol yw gwella profiad cwsmeriaid.
Os hoffech chi wybod mwy am sut y gallai Oracle Fusion eich helpu chi yna cysylltwch â ni.
E-bostiwch: fusion@valeofglamorgan.gov.uk