Staffnet+ >
Rydym wedi cyrraedd wythnos olaf Milltiroedd Dros Wcráin
Rydym wedi cyrraedd wythnos olaf Milltiroedd Dros Wcráin

250.26 milltir i fynd cyn i ni groesi llinell derfyn Milltiroedd Dros Wcráin!
Ar ôl torri ein targed gwreiddiol o 1,775 milltir yn gynnar yn ein hymgyrch, yr her newydd oedd cwblhau’r daith yn ôl i'r Barri.
Hyd yn hyn, rydym wedi cyrraedd 3,299.74 milltir!
Mae llawer ohonoch wedi bod yn mwynhau'r awyr agored bendigedig dros wyliau'r Pasg. Os nad ydych eisoes wedi rhannu eich teithiau, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu cyflwyno - mae pob milltir yn cyfrif!
Rydym wrth ein bodd yn gweld eich lluniau o olygfeydd hardd, wynebau hapus a chŵn bach ciwt felly peidiwch ag anghofio atodi llun gyda'ch cyflwyniad milltiroedd.
Cofnodwch eich milltiroedd a gwnewch rodd drwy ein hyb Milltiroedd ar gyfer Wcráin.
Hyd yma, mae eich rhoddion a'ch ymdrechion i godi arian wedi codi swm anhygoel o £1,858.
Ochr yn ochr ag ymdrechion anhygoel ysgolion ledled y Fro i godi arian, bydd yr arian yr ydych wedi'i godi yn helpu i ddarparu cysgod, bwyd, dŵr a hanfodion eraill i'r rhai sy'n ffoi rhag y rhyfel.
Gweler y gwahaniaeth y gall eich rhoddion ei wneud:
-
Gallai £10 ddarparu cyflenwadau hylendid hanfodol i un person am fis
-
Gallai £20 ddarparu bwyd brys i un person am fis
-
Gallai £50 ddarparu blancedi i 10 o bobl i’w cadw'n gynnes
-
Gallai £100 ddarparu bwyd brys i ddau deulu am fis
Cofiwch rannu eich ymdrechion a'r Tudalen Just Giving gyda ffrindiau a theulu!