Yr Wythnos gyda Rob

29 Ebrill 2022

Annwyl gydweithwyr,

Gobeithio eich bod chi gyd yn iawn ar drothwy penwythnos gŵyl banc. 

Hoffwn ddechrau drwy eich cyfeirio at y recordiad o gyfarfod dydd Llun y Cyngor Llawn. Hwn oedd cyfarfod olaf y Cyngor cyn yr etholiad lleol ddydd Iau a manteisiodd nifer o gynghorwyr y Fro, gan gynnwys yr Arweinydd presennol, y Cynghorydd Neil Moore, nad yw'n sefyll i’w ailethol, ar y cyfle i gofnodi eu diolch am waith staff dros y tymor diwethaf, yn enwedig yn ystod yr ymateb i Covid-19.

Dywedais ychydig eiriau ar y pwnc hefyd a hoffwn ailadrodd yma mai’r ddwy flynedd a hanner diwethaf fu’r cyfnod sydd wedi golygu mwyaf i fi gydol fy ngyrfa, er maen nhw oedd y mwyaf heriol hefyd.  Y rheswm am hynny yw oherwydd i fi weld sut yr ymatebodd ein timau i'r heriau enfawr yr oedden nhw’n eu hwynebu. Gwnaeth y staff i gyd, ar bob safle, waith gwych a chaiff hynny fyth mo’i anghofio.

Un o'r pethau a wnaeth i ni allu ymateb mor dda oedd parodrwydd ein timau i gefnogi'r rhai mewn amgylchiadau eithriadol ac ymdrechu i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl. Yr wythnos hon rwyf wedi gweld dwy enghraifft wych o’r union beth  hyn gan ein tîm Dysgu a Sgiliau.

Hoffwn longyfarch Stephanie Buttwell sydd wedi ennill gwobr Kit gan yr Ymgyrch Addysg Fel Arall am ragoriaeth wrth weithio gyda theuluoedd sydd wedi dewis addysgu eu plant gartref, a'u cefnogi.  Fel rhan o'n tîm Addysg Ddewisol yn y Cartref, mae Stephanie yn gweithio'n uniongyrchol gyda theuluoedd ac mae'r wobr yn gydnabyddiaeth o faint mae'n ei roi i hyn. Llongyfarchiadau Stephanie. 

The Cake Box

Yr wythnos hon hefyd mae'r tîm y tu ôl i'r Bocs Cacennau yn Ysgol Y Deri wedi ennill tair gwobr yn Rowndiau Terfynol Rhanbarthol Gwobr Menter yr Ifanc. Mae'r Bocs Cacennau yn gwmni sydd wedi'i sefydlu a'i redeg gan ddisgyblion YYD. Roeddent yn enillwyr yn y categorïau Gwasanaeth Cwsmeriaid Gorau a'r Cyflwyniad Gorau, yn ogystal â'r Rhaglen Tîm yn y categori Anghenion Dysgu Ychwanegol. 

Mae'r diolch am y llwyddiant yn bennaf i'r disgyblion Ross, Joe, Morgan, Callum, Ashley, Erin,  John, a Joel. Fodd bynnag, ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth tîm staff ymroddedig yn cynnwys Steve Jones, Nadine Britten, ac Anthony Doherty.

Dywedodd yr athro dosbarth Sue Williams: "Bydd hyn yn rhoi hwb enfawr i hyder ein pobl ifanc, eu bod bellach yn gwybod y gallant gystadlu'n gyfartal â rhai o'r entrepreneuriaid ifanc mwyaf talentog sydd yna."  Rwy’n gwbl gytûn. 

Miles For Ukraine

Mae'r tîm nawr yn mynd drwodd i rowndiau terfynol Cymru gyfan ar 18 Mai.  Pob lwc bawb. 

Hoffwn eich atgoffa i gyd fod ein hymgyrch Milltiroedd dros Wcráin  yn dod i ben ddydd Mawrth. Rydyn ni bellach lai na 200 milltir i ffwrdd o gyrraedd dwywaith ein targed cychwynnol. Mae'r ymateb hyd yma wedi bod yn rhyfeddol. Mae dros £12,000 wedi'i godi ar hyd y ffordd. Mae pob cyfraniad, mewn milltiroedd neu arian, yn gwneud gwahaniaeth felly os gallwch ychwanegu at y naill gyfanswm neu'r llall, gwnewch hynny.

Staff Awards 2022 Cym

I gloi, hoffwn orffen drwy eich annog i gyd i edrych ar y categorïau ar gyfer y Gwobrau Staff eleni, y mae enwebiadau ar agor ar eu cyfer bellach. Mae bob amser yn wych gweld gwaith cydweithwyr yn uniongyrchol neu gael y wybodaeth ddiweddaraf am lwyddiannau unigol y gallaf dynnu sylw atynt yn y negeseuon hyn. Fodd bynnag, gwn fod cymaint mwy o waith yn cael ei wneud ac rwyf am weld cymaint â phosibl ohono’n cael ei gydnabod. Bydd y gwobrau eleni yn fwy ac yn well nag erioed felly os ydych chi'n adnabod rhywun sy'n haeddu gwobr, cofiwch eu henwebu. 

Fel bob amser diolch am eich ymdrechion yr wythnos hon. Gobeithio y cewch i gyd benwythnos gwych. 

Diolch yn fawr iawn. 

Rob.