Yr Wythnos gyda Rob 22 Ebrill 2022

Annwyl gydweithwyr,

Hoffwn ddechrau'r neges heddiw gan dorri rhywfaint o newyddion gwych. Rwy'n falch iawn o allu rhannu bod y Cyngor wedi llwyddo i gipio dwy wobr Anrhydedd Gofal Cymdeithasol Cymru ddoe.

Cafodd y tîm yn Rondel House ganmoliaeth uchel yn y categori Cefnogi Pobl sy'n Byw Gyda Dementia. Mae hyn yn tynnu sylw at y gwaith anhygoel y mae tîm Rondel yn ei wneud, mewn partneriaeth â'r Care Collective, i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr. Enillodd Keri Llewellyn o'r asiantaeth All Care y Wobr yn y categori Gofalwn Cymru am ei chyfraniad i ddatblygu'r sector ac i ddarparu cyfleoedd cymdeithasol i bobl sy'n byw yng nghartrefi gofal y Fro a'r rhai a allai fel arall gael eu hynysu yn eu cartrefi eu hunain.  Da iawn.  Da iawn chi yn wir.

Andy Cole SCW Accolades Awards

Credaf yn gryf bod rhaid i weision cyhoeddus gael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu am eu hymdrechion. Dyna pam y bydd y Gwobrau Staff eleni yn fwy ac yn well nag erioed. Gan ddychwelyd ar ôl bwlch o 3 blynedd, bydd enwebiadau'n agor Ddydd Llun ar gyfer yr 13 categori a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn. Mae'r categorïau wedi'u hailwampio i adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, y Cynllun Corfforaethol a Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, yn ogystal â dathlu ymroddiad ac ymrwymiad staff, ar ôl sawl blwyddyn hynod heriol.  Rwyf wrth fy modd bod gennym noddwr ar gyfer pob gwobr unigol. Byddwch yn gallu enwebu eich cydweithwyr neu'ch timau ar-lein gan ddefnyddio'ch gliniadur, neu ffôn symudol, neu drwy lenwi'r ffurflenni enwebu a fydd ar gael ym mhob safle o ddechrau'r wythnos nesaf. 

 

Yr un mor bwerus â chydnabyddiaeth mewn seremonïau gwobrwyo y mae adborth uniongyrchol gan y rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau. Cefais e-bost yn gynharach yr wythnos hon yn canmol gwaith cydweithwyr yn ein tîm Gwasanaethau Cymdogaeth gan breswylydd a oedd wedi codi mater graffiti ym Mhenarth.Rwyf bob amser yn hynod falch ac yn ostyngedig o glywed am waith ein cydweithwyr ac rwy’n methu aros i ddarllen y cyflwyniadau. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor staff y tu ôl i'r gwobrau am eu gwaith gwych hyd yn hyn. Heb sôn am eu gwaith yn llwyddo i sicrhau mwy o noddwyr nag erioed gan wneud yn siŵr na fydd y dathliad mawr hwn yn dod ar unrhyw gost i dalwyr y Dreth Gyngor nac i’r Cyngor chwaith.

"Aeth un o'ch gweithwyr i'r safle heddiw ac mae wedi gwneud gwaith o'r radd flaenaf i gael gwared ar yr holl graffiti sarhaus o'r gysgodfa. Cymerais yr amser i ddiolch iddo'n bersonol. Mae'n edrych gymaint yn well nawr."

Hoffwn ddiolch yn bersonol hefyd i'r rhai y tu ôl i hyn ac rwyf wedi cael gwybod bod y gwaith wedi'i wneud gan Mike Harney a Gary Gordon yn ein tîm Glanhau. Diolch yn fawr i’r ddau ohonoch.

Mae un arall o'n cydweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdogaeth wedi cael ei ganmol yr wythnos hon. Efallai bod rhai ohonoch eisoes wedi gweld y darn ar Russell Morgan yn y South Wales Echo. Disgrifiodd Russell ei waith, sy'n cynnwys paratoi'r traeth yn Ynys y Barri bob bore, fel y swydd orau yn y byd. Rwy’n siŵr bod rhai ohonom yn sicr yn genfigennus pan fydd yr haul yn tywynnu.

Russell Morgan SW Echo

Hefyd yn y cyfryngau yr wythnos hon gan dderbyn canmoliaeth haeddiannol iawn, oedd y tîm y tu ôl i'r Pod Bwyd ym Mhenarth a gafodd sylw ar Newsnight ar BBC 2. Mae gwaith gwych ar y gweill mewn gwahanol dimau yn helpu i gefnogi'r rhai yr effeithir arnynt gan dlodi bwyd ac mae'r cydweithwyr hynny a oedd o flaen y camera ar flaen y gad yn hyn o beth.

Rwyf hefyd yn mynd i ganmol eto’r rhai yn adeiladau'r Swyddfeydd Dinesig a'r Alpau sydd wedi bod yn pecynnu ac yn dosbarthu parseli bwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf - mae'r rhain yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Yn benodol, hoffwn sôn eto am Jo, Lloyd a Helen, yn y tîm Polisi a ofynnodd i mi yr wythnos hon drosglwyddo diolch y Cyngor i archfarchnad Morrison am eu cymorth. Mae hyn yn rhywbeth yr oeddwn yn fwy na pharod i'w wneud, ond byddai'n ddrwg peidio â diolch eto i'n cydweithwyr sy'n pecynnu bagiau ac yn trefnu danfoniadau ar ben y llwyth gwaith o ddydd i ddydd.

Hoffwn orffen gydag un diolch arall a hynny i Rachel Protheroe yn ein tîm Gwasanaethau Democrataidd. Mae Rachel wedi gwneud gwaith gwych dros y flwyddyn ddiwethaf i foderneiddio'r ffordd rydym yn cynnal seremonïau yn y Fro a'u marchnata fel gwasanaeth. Yr wythnos hon rhoddwyd  trwydded i’r Cyngor gynnal seremonïau priodas a phartneriaethau sifil mewn nifer o leoliadau ar draws y Fro, gan gynnwys y cytiau traeth yn Ynys y Barri. Rwy'n gwybod bod hyn wedi bod yn ymdrech tîm gwirioneddol, felly diolch yn fawr iawn i bawb sy'n gysylltiedig.  Os hoffech wybod mwy, neu yn gwybod rywun arall a fyddai, bydd staff o’r tîm Cofrestru yn y cytiau traeth y penwythnos hwn i ateb cwestiynau a threfnu ychydig o archebion gobeithio. Pob lwc.

Diolch fel bob amser am eich gwaith yr wythnos hon, ac i'r rhai fydd yn darllen hwn fore Llun ar ôl gwyliau'r Pasg... Croeso nôl.

Diolch yn fawr iawn am y tro. 

Rob.