Yr Wythnos gyda Rob
08 Ebrill 2022
Annwyl gydweithwyr,
Mae hon wedi bod yn wythnos fawr arall i'r Fro. Rwy’n falch iawn o rannu y cyhoeddwyd yn swyddogol mai ni yw noddwr arweiniol cyntaf erioed Gwobrau Busnes Bro Morgannwg.
Diolch i raddau helaeth i waith y Cyngor, mae busnesau bach ym Mro Morgannwg yn tyfu'n gyflym ac mae'r Fro'n cael ei chydnabod fwyfwy fel un o'r lleoedd mwyaf deniadol yng Nghymru i gynnal busnes.
Bydd y gwobrau, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â'n tîm Adfywio, yn dwyn ynghyd ac yn cydnabod y mentrau entrepreneuraidd ac arloesol hynny sy'n gwneud gwahaniaeth ar draws ein cymunedau. Bydd y gwobrau hefyd yn cefnogi elusen leol werthfawr, Tŷ Hapus. Mae Tŷ Hapus yn wasanaeth am ddim i bobl y mae dementia wedi effeithio arnyn nhw a'u teuluoedd. Mae’n nodi deng mlynedd ers ei sefydlu yn 2022. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu i greu'r gwobrau, ac yn fwy cyffredinol i bob un ohonoch sy'n gweithio i wneud y Fro yn lle mor fywiog i fyw a gweithio ynddo.
Ar nodyn tebyg, hoffwn hefyd ddiolch i’r aelodau o'r timau Cyfreithiol, Ystadau ac Adfywio a fu'n gweithio drwy'r nos i sicrhau cytundeb pwysig yr wythnos diwethaf. Gweithiodd James Doherty, Lorna Cross a Mark White hyd at yr oriau mân yn cwblhau trefniant a fydd yn gweld fflyd o drenau ecogyfeillgar Trafnidiaeth Cymru yn cael cartref yn Nepo Rheilffordd y Barri. Roedd yn rhaid cwblhau'r gwaith papur cyn y flwyddyn ariannol newydd a dangosodd y rhai fu ynghlwm â’r gwaith allu i feddwl ar eu traed i ganfod atebion i rai problemau annisgwyl.
Dyma enghraifft wych o weithwyr proffesiynol medrus o wahanol dimau yn gweithio gyda'i gilydd i gwblhau tasg bwysig erbyn terfyn amser tynn. Gwnaeth y rheiny a weithiodd yn ystod y nos fwy na’r hyn a ddisgwylid ac mae'r ymrwymiad hwnnw'n cael ei werthfawrogi'n fawr.
Gobeithio y bydd llawer ohonoch chi eisoes wedi gweld bod ein hymgyrch codi arian Milltiroedd ar gyfer Wcráin wedi pasio ei tharged cychwynnol o 1774 milltir yr wythnos hon. Roedd gan yr eitem ar StaffNet a gyhoeddwyd yn gynharach yn yr wythnos ddetholiad gwych arall o luniau o gydweithwyr yn cwblhau eu milltiroedd, gan gynnwys rhai a wnaed yn Efrog Newydd.
Er mwyn ymuno yn hwyl yr ymgyrch, er ychydig yn nes at at adref, cadeiriais gyfarfod yr Uwch Dîm Arwain yr wythnos hon wrth gerdded o amgylch Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston. Gyda'n gilydd, llwyddom i gerdded cyfanswm o 30 milltir ac er bod y tywydd braidd yn oer, cawsom drafodaeth wych wrth ymestyn ein coesau a mwynhau'r golygfeydd. Rhoddodd gyfle i ni fyfyrio ar sesiwn yr holl brif swyddogion yr wythnos hon a gynhaliwyd Ddydd Mercher ar thema o greu diwylliant o wrando. Byddaf yn rhannu mwy o fanylion am hyn yn ystod yr wythnosau nesaf, ond cefais fy ysbrydoli gan yr egni yn yr ystafell yr wythnos hon a syniadau creadigol pobl ar sut y gallwn rymuso ac ymgysylltu mwy â'n cymunedau. Roedd hefyd yn gyfle da iawn i ailgysylltu â chydweithwyr ar ôl cyfnod mor hir.
Ddydd Mercher, roeddem wedi codi £1,479 ar gyfer Apêl Dyngarol Wcráin y Pwyllgor Argyfyngau (DEC). Mae'n bleser gennyf rannu bod y cyfraniad a dderbyniwyd ddoe gan ysgolion y Fro wedi chwalu’r cyfanswm hwn. Mae cyfanswm o £10,357.03 wedi'i godi ar gyfer yr apêl gan 14 o ysgolion ar y cyd a bydd bellach yn cael ei ychwanegu at y cyfanswm. Codwyd yr arian drwy nifer o ddigwyddiadau gwahanol a byddwn yn rhannu’r holl fanylion mewn eitem newyddion arbennig yr wythnos nesaf. Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd at yr ymdrech aruthrol hon.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio yn y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'r gwasanaeth bellach yn cael ei ddirwyn i ben ond mae'r ymdrechion hynny i nodi achosion positif o Covid-19 ac atal ei drosglwyddiad wedi chwarae rhan enfawr yn ein helpu i wella o ddyddiau tywyll y pandemig.
Cefais lythyr gan Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yr wythnos hon, a ddywedodd:
"Mae gwaith caled ac ymrwymiad pawb ym mhob rhan o’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu (POD) wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran cadw Cymru'n ddiogel dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
"Rydych chi i gyd wedi gwneud mwy na’r disgwyl, yn aml mewn amgylchiadau anodd iawn. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch o galon i chi am eich ymroddiad i'ch rôl. Rwyf mor falch o'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni. Rwyf hefyd yn falch iawn o'r ymagwedd partneriaeth llwyddiannus yn y sector cyhoeddus a ddefnyddiwyd gennym i ddarparu gwasanaethau i bobl ledled Cymru." Ni allwn gytuno mwy. Da iawn bawb a fu’n rhan o hynny.
Er bod rhai agweddau ar yr ymateb i’r pandemig yn dod i ben, mae darparu cymorth i'n cymunedau mewn cyfnod anodd yn parhau. Hoffwn ddiolch i Helen Moses, Joanna Beynon a Lloyd Fisher ynghyd â thîm cyfan Polisi a Thrawsnewid Busnes am eu gwaith yn ystod yr wythnosau diwethaf wrth gydlynu nifer o grantiau gwahanol sy'n canolbwyntio ar ansicrwydd y cyflenwad bwyd. Mae'r tîm wedi gweithio gyda nifer o ysgolion a'r sector gwirfoddol i sefydlu rhai cynlluniau cyffrous iawn y byddaf yn rhannu manylion amdanynt yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae'r tîm hefyd wrthi'n pacio 647 o barseli bwyd a hylendid a fydd yn mynd allan i'n dinasyddion yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae hon yn her logistaidd a chorfforol aruthrol, ac yn arbennig, dywedir wrthyf fod Jo wedi bod yn ffynhonnell gyson o egni a brwdfrydedd drwyddi draw. Diolch am eich gwaith a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac uniongyrchol i'n dinasyddion.
Mae cydweithwyr yn ein tîm Tai hefyd wedi defnyddio arian grant i ddiben tebyg ac wedi prynu, pacio a dosbarthu bwyd i denantiaid Cartrefi Bro a phobl mewn llety dros dro. Mae’n wych gweld cymaint o bobl wasted yn chwilio am ffyrdd newydd o gefnogi ein cymunedau.
Yn olaf, yr wythnos hon hoffwn ddweud diolch wrth Siân James yn ein tîm Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir sy'n ein gadael i ymgymryd â swydd newydd mewn awdurdod lleol arall yn ddiweddarach y mis hwn. Ymunodd Siân â'r Fro 24 mlynedd yn ôl bellach. Pan ffurfiwyd y GRhR yn 2015 roedd yn fenter uchelgeisiol ac mae Siân yn un o'r bobl sydd wedi gwneud y gwasanaeth yn gymaint o lwyddiant yn y blynyddoedd oddi ar hynny. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chi Siân ac rwy'n gobeithio y bydd eich gyrfa yn dod â chi'n ôl i'r Fro un diwrnod.
Fel bob amser, diolch i chi i gyd am eich gwaith yr wythnos hon. Mae Tîm y Fro’n parhau i fynd o nerth i nerth.
Diolch yn fawr bawb.
Rob.