Staffnet+ >
Pod Bwyd Penarth yn ymddangos ar Newsnight
Pod Bwyd Penarth yn ymddangos ar Newsnight
20 Ebrill 2022
Mae Pod Bwyd newydd Penarth wedi derbyn sylw drwy Brydain ar ôl ymddangos ar rifyn dydd Iau Newsnight.
Ymwelodd camerâu rhaglen y BBC â'r adeilad yn St Luke's Avenue yr wythnos diwethaf i gasglu lluniau ohono'n cael ei ddefnyddio ac i gyfweld â Mark Ellis a Mark Faulkner.
Maent yn ddau aelod o'r Tîm Tai sy'n rhedeg y pod, sy'n darparu bwyd a chynhyrchion eraill ar sail 'talu fel y gallwch'.
Defnyddiwyd y cynnwys mewn adroddiad ar yr argyfwng costau byw, oedd yn rhan o gyfres o eitemau sy'n cael eu dangos cyn yr etholiadau lleol y mis nesaf.
Dywedodd yr Uwch Reolwr Cymdogaethau Farida Aslam: "Mae Mark Ellis a Mark Faulkner wedi gweithio'n galed iawn ar y prosiect hwn, gyda chymorth cydweithwyr eraill o'r Tîm Rheoli Tai a grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr.
"Roedd yn wych bod rhaglen mor uchel ei phroffil â Newsnight wedi ymweld â'r Pod Bwyd i godi ymwybyddiaeth o'r ymdrechion hynny i helpu pobl yn ystod amseroedd anodd.
"Gyda biliau ynni'n codi, ynghyd â phris tanwydd a bwydydd, mae llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd ymdopi.
"Rydym wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n defnyddio'r Pod Bwyd dros yr wythnosau diwethaf. Maent yn dweud wrthym fod y cyfleuster hwn yn hanfodol gan fod popeth yn mynd mor ddrud.
Wedi'i agor ddechrau mis Mawrth ac yn gweithredu o gynhwysydd llongau wedi'i addasu, mae'r pod yn cynnig nwyddau tun a nwyddau darfodus, nwyddau ymolchi a chynhyrchion hylendid i breswylwyr.
Sefydlwyd Pod Bwyd blaenorol fis Awst y llynedd gyda chymorth Cymdeithas Trigolion STAR a gwirfoddolwyr o'r ardal leol ar safle cyfagos cyn symud i'w leoliad newydd.
Mae ar agor ar ddyddiau Llun a Gwener rhwng 2pm a 4pm a dydd Mercher o 3.30pm tan 5.30pm.
Gall unrhyw un ddefnyddio'r pod a thalu dim ond yr hyn y gallant ei fforddio am eitemau.
Mae'r Pod Bwyd yn helpu i fynd i’r afael â gwastraff bwyd rhaglen Cymdogaeth Llechen Lân y Tîm Tai, cynllun dwy flynedd i wneud yr ardal hon o Benarth yn lanach, yn wyrddach, yn iachach ac yn fwy cysylltiedig.
Mae'r bennod o Newsnight ar gael i'w gwylio eto drwy BBC iPlayer. Mae'r Pod Bwyd i’w weld tua 40:30 i mewn i’r rhaglen.