Mae enwebiadau ar gyfer y Gwobrau Staff bellach ar agor!

Staff Awards 2022 Email Banner Cym

Gallwch nawr enwebu eich cydweithwyr ar gyfer un o'r 13 gwobr a fydd ar gael pan fydd seremoni wobrwyo flynyddol y Cyngor yn dychwelyd ym mis Medi.

Gan ddychwelyd ar ôl bwlch o 3 blynedd, bydd y Gwobrau Staff eleni yn fwy ac yn well nag erioed.  Mae cyfanswm o 13 categori ar gyfer gwobrau eleni.  Mae'r categorïau wedi'u hailwampio i adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, y Cynllun Corfforaethol a Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, yn ogystal â dathlu ymroddiad ac ymrwymiad staff, wedi sawl blwyddyn hynod heriol.

Fel yn y blynyddoedd a fu, bydd y digwyddiad gwobrwyo yn cael ei gynnal heb gost i drigolion Bro Morgannwg.   Mae hyn oherwydd haelioni amrywiaeth o noddwyr, sydd wedi'u rhestru isod r gyfer pob categori.

Enwebu cydweithiwr ar gyfer y Gwobrau Staff

Categorïau Ein Harwyr 

Mae'r enwebiadau hyn yn benodol i bob cyfarwyddiaeth/ysgol a'u nod yw cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r sefydliad, yr ysgol, y gymuned neu i dinasyddion.

Dylai'r enwebiad dynnu sylw at y cyfraniad a wnaed a'r effaith y mae hyn wedi'i chael, gan nodi sut mae'r enwebai wedi gweithio yn unol â'n gwerthoedd a'n hamcanion llesiant. 

Rydym am weld sut mae staff a thimau wedi croesawu ffyrdd trawsnewidiol, arloesol a chreadigol o weithio. Gallai'r cyfraniad fod ar gyfer prosiect penodol, ymateb pandemig, mynd y filltir ychwanegol yn eu rôl neu wasanaeth cwsmeriaid eithriadol. 

  • Arwr Amgylchedd a Thai - Noddwr Tarmac

  • Arwr Adnoddau - Noddwr Morgan Sindall

  • Arwr Gwasanaethau Cymdeithasol - Noddwr Watts Truck and Van

  • Arwr Dysgu a Sgiliau - Noddwr ISG

  • Arwr Ysgolion - Noddwr ABM

  • Arwr yr Arwyr - Noddwr DairyLink

Categorïau ehangach

Mae'r categorïau'n agored i'r holl staff, ac eithrio'r categori 'Ysgolion, Creu Effaith', sydd wedi'i gyfyngu i'r rhai sy'n gweithio yn ein hysgolion. 

Seren Sy'n Codi – Noddwr Centregreat

Mae hwn yn canolbwyntio ar gyflawniadau ein sêr sy'n codi; y genhedlaeth nesaf o arweinwyr, y rhai sy’n creu newid a meddylwyr trawsnewidiol. Gallai enwebiadau fod o grŵp oedran 16-24, kickstarters, prentisiaid neu raddedigion, ond nid ydynt wedi'u cyfyngu i’r rheiny.

Tîm y Flwyddyn – Noddwr BYUK 

Gall enwebiadau fod gan dimau ar draws y Cyngor, gall hyn gynnwys ysgolion, timau disylw a thimau traws-swyddogaethol neu dimau 'rhithwir' sydd wedi'u sefydlu i ddelio â mater neu brosiect penodol neu i ymateb iddo.

Partneriaeth Allanol Orau – Noddwr Parentpay

Mae'r wobr hon yn ceisio cydnabod cyfraniad ehangach gwaith partneriaeth allanol.  Gall enwebiadau gynnwys mentrau sy'n rhychwantu partneriaid yn y sector cyhoeddus, cydweithio, y trydydd sector a grwpiau cymunedol. 

Ysgolion, Creu Effaith – Noddwr Castell Howell

Mae'r wobr hon yn benodol i'r rhai sy'n gweithio yn ein hysgolion a'i nod yw cydnabod cyfraniad ein hysgolion yn y gymuned ehangach.

Dathlu Amrywiaeth ac Ymgysylltu – Noddwr AECOM

Mae'r wobr hon yn cydnabod y rhai sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y Cyngor a chroesawir enwebiadau ar gyfer aelodau unigol o staff neu dimau sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, yn ogystal ag ymgysylltu ehangach ar draws y sefydliad.

Effaith Ar y Gymuned – Noddwr Zipporah 

Rydym yn chwilio am dimau/unigolion sydd wedi cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, gan fynd i'r afael â materion fel tlodi bwyd, iechyd meddwl a lles neu effaith y pandemig, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rheiny.

Prosiect Sero – Noddwr Romaquip 

Mae'r wobr hon yn cydnabod cyfraniad unigolyn, tîm neu fenter sy'n helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd.  Dylai’r cyfraniad ddangos arferion trawsnewidiol, gostyngiad neu ostyngiad a ragwelir mewn allyriadau carbon a cheisio cefnogi nodau ehangach Prosiect Sero.

Mae enwebu cydweithiwr yn ffordd wych o ddangos iddynt pa mor dda yw’r gwaith a wnânt a'r gwahaniaeth y mae eu gwaith yn ei wneud. 

Bydd yr enwebiadau'n cau ar 10 Mehifer.

Enwebu cydweithiwr ar gyfer y Gwobrau Staff