Staffnet+ >
Llwyddiant i gydweithwyr o'r Cyngor mewn gwobrau gofal cymdeithasol
Llwyddiant i gydweithwyr o’r Cyngor mewn gwobrau gofal cymdeithasol
Cynhaliodd Gofal Cymdeithasol Cymru eu seremoni Gwobrwyon Gofal Cymdeithasol flynyddol yr wythnos diwethaf – gydag enwebiadau gan Gyngor Bro Morgannwg yn llwyddo mewn dau gategori.
Nod y digwyddiad, a gynhaliwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd, yw cydnabod, dathlu a rhannu gwaith nodedig ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru ac mae'n edrych ar waith timau ac unigolion.
Cafodd y digwyddiad ei gyflwyno gan y darlledwr Garry Owen a Phrif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru Sue Evans, ac fe gafodd ei ddarlledu'n fyw ar Youtube, lle gwelwyd enwebiadau'r Cyngor ar y rhestr fer.
Enillodd Keri Llewellyn o Asiantaeth Gofal Cartref All Care y wobr yn y categori 'Gofalwn Cymru' am ei chyfraniad i’r gwaith o ddatblygu'r sector.
Helpodd hefyd i ddarparu cyfleoedd cymdeithasol i bobl sy'n byw yng nghartrefi gofal y Fro a phobl a allai fel arall gael eu hynysu yn eu cartrefi eu hunain.
Enwebwyd Keri gan Andy Cole, Rheolwr Gweithredol Gwasanaethau Ardal y Cyngor.
Mae Keri yn rheoli asiantaeth gofal cartref preifat yn y Fro a chafodd ei henwebu am ei hymrwymiad i wella bywydau pobl hŷn a dinasyddion sy'n agored i niwed yn y gymuned.
Sefydlodd Keri Gymunedau Gofal yn Gweithredu Gyda'i Gilydd (CCAT) i helpu i ddod â phobl at ei gilydd i gymdeithasu a chwrdd â phobl newydd. Mae hi wedi trefnu ciniawau Nadolig, pantomeimau, digwyddiadau te prynhawn a 'diwrnodau ras', heb dderbyn cyllid ychwanegol.
Yn ei enwebiad, dywedodd Andy: "Mae Keri yn haeddu cydnabyddiaeth am y gwaith rhagorol ac arloesol y mae wedi'i wneud i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddiwallu anghenion pobl yn y gymuned sydd ei angen fwyaf.
"Mae Keri wedi dangos ymrwymiad clir i wella bywydau pobl hŷn a dinasyddion sy'n agored i niwed yn y gymuned.
"Mae'n amlwg bod anghenion dinasyddion wrth wraidd yr hyn y mae'n ei wneud ac mae ei hasiantaeth yn cyson fynd y tu hwnt i ddisgwyliadau, yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cael ei harwain gan ddinasyddion lle bynnag y bo modd."
Yn ogystal, cafodd Tŷ Rondel ganmoliaeth uchel yn y categori 'Cefnogi Pobl sy'n Byw gyda Dementia', yn tynnu sylw at y gwaith anhygoel y mae'r tîm yn ei wneud mewn partneriaeth â The Care Collective.
Mae Tŷ Rondel yn y Barri yn darparu cyfleoedd cymdeithasol i bobl sy'n byw gyda dementia ac yn caniatáu iddyn nhw gadw eu hurddas a'u hymdeimlad o annibyniaeth.
Pan oedd cyfyngiadau Covid-19 yn golygu bod yn rhaid i'r cartref gau, addasodd tîm y ganolfan ddydd yn gyflym i barhau i ddarparu ffyrdd o gyfathrebu i deuluoedd ac anwyliaid, oedd yn help garw ac y n gysur mawr i'r bobl oedd yn defnyddio’r ganolfan ddydd.
Roedd y gwobrau'n gyfle gwych i gydnabod yr holl waith caled sydd wedi cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl.
I weld y canlyniadau’n llawn, ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru neu gallwch wylio recordiad o'r digwyddiad ar Youtube Gofal Cymdeithasol Cymru.