Eich cyfle i lunio'r Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol cyntaf erioed 

18 Ebrill 2022

WSP Stock Classroom 


Mae ymgynghoriad bellach ar y gweill ar Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol cyntaf erioed Cymru.  

Mae'r safonau drafft, a ddatblygwyd yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru, wedi'u cynllunio i helpu i sicrhau bod pawb yng Nghymru sydd ei angen yn cael hyfforddiant diogelu cyson o ansawdd uchel.  Yn benodol, bydd y prosiect yn sicrhau bod:

- sefydliadau yn ymgorffori'r safonau ar gyfer ymarferwyr yn eu polisïau a'u gweithdrefnau diogelu 

- ymarferwyr yn deall eu cyfrifoldebau sy'n berthnasol i'r grŵp y maent ynddo a sut i ddilyn y polisïau a'r gweithdrefnau perthnasol 

- gan ymarferwyr fynediad at Weithdrefnau Diogelu Cymru ac yn cydymffurfio â hwy;

Diben y Safonau Diogelu Cenedlaethol yw sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael hyfforddiant cyson o ansawdd da sy'n berthnasol i'w rôl a'u cyfrifoldebau, ac y gallwn ni, fel ymarferwyr, ddiogelu pobl hyd eithaf ein gallu. 

"Er mwyn sicrhau eu bod yn addas i'r diben, mae angen i ni glywed gan ystod mor eang â phosibl o ymarferwyr a sefydliadau a byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ymateb i'r ymgynghoriad."   

Mae dogfen ddrafft ar y Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol bellach wedi ei chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad.  Gallwch ddarllen y ddogfen ddrafft ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Yna gallwch ddweud eich dweud ar y drafft drwy: 

• gwblhau’r arolwg ar-lein 

• cwblhau'r ddogfen ymgynghori a'i hanfon drwy e-bost i consultations@socialcare.wales

• rhannu eich barn yn uniongyrchol gydag aelod o'r grŵp prosiect gan ddefnyddio'r manylion cyswllt yn y ddogfen ymgynghori 

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 17 Mehefin 2022

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn arwain y gwaith o ddatblygu'r Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol. Mae'r safonau wedi'u cyd-gynhyrchu gan grŵp datblygu cenedlaethol amlasiantaethol yn ogystal â grwpiau eraill sy'n canolbwyntio ar agweddau penodol ar y gwaith.

Datblygwyd y Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol mewn ymateb i gydnabyddiaeth nad oes safonau cenedlaethol amlasiantaethol ar gyfer diogelu hyfforddiant ar waith; bod diffyg cysondeb o ran dylunio, cynnwys a darparu hyfforddiant diogelu ar draws sefydliadau yng Nghymru; a bod dryswch yn aml ynghylch y lefelau priodol o hyfforddiant diogelu ar gyfer y gweithlu.