Staffnet+ >
Rhaglen Weithgareddau'r Pasg 2022
Rhaglen Weithgareddau’r Pasg 2022
Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) wedi llunio rhaglen o weithgareddau ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd yn y Fro dros gyfnod y Pasg.
Ar ôl ei llwyddiant ysgubol yn y blynyddoedd diwethaf, mae GGiD wedi bod yn gweithio gyda nifer o bartneriaid i greu Rhaglen Weithgareddau’r Pasg llawn gweithdai a gwersi hwyl drwy gydol mis Ebrill 2022.
Mae'r gweithgareddau'n cynnwys gweithdai crefft, helfeydd wyau, gwersi nofio a llwybrau natur ac mae'n addas ar gyfer plant a phobl ifanc o bob oed.
Mae'r rhaglen hefyd yn cynnig gweithgareddau cynhwysol i blant ag anghenion ychwanegol, megis sesiynau pêl-droed cadair bŵer.
Rhaglen Weithgareddau’r Pasg 2022
Bydd y rhaglen yn cael ei diweddaru'n rheolaidd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw golwg arni!
Mae GGiD hefyd wedi llunio rhestr o grwpiau chwarae, clybiau gwyliau a gwarchodwyr plant o amgylch y Fro i helpu teuluoedd sydd angen gofal plant dros wyliau'r ysgol.
Os oes gennych unrhyw adborth neu gwestiynau am y rhaglen, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: