Prosiect Pentref Court Road: Denise Baker

28 Ebrill 2022

Y llynedd, cyhoeddodd y Cyngor y byddai llety dros dro yn cael ei agor ar Court Road yn y Barri fel rhan o gynllun gwerth miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd.

Y datblygiad hwn, sy'n cynnwys 11 o fyngalos, yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru ac fe'i hadeiladwyd mewn ymateb i'r pwysau mawr ar fathau eraill o lety dros dro yn y Fro.

Mae Denise Baker, Swyddog Llety Dros Dro sy'n rhan o'r Tîm Tai, wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o roi'r cyfleuster ar waith.

"Mae'r datblygiad newydd yn Court Road wedi rhoi rhywbeth i ymgeiswyr anelu ato ac mae’r tai’n boblogaidd iawn. Maen nhw’n cynnig llety hunangynhwysol, fforddiadwy, dros dro sy’n help mawr wrth fynd i’r afael â’r sefyllfa dai," meddai.

"Mae'r preswylwyr sydd wedi cael eu lletya ar y safle wedi datblygu mwy o barch at y gwasanaeth a'r staff sydd ynghlwm wrth y prosiect.  Mae hyn yn rhannol oherwydd yr hunan-barch mae'r unedau wedi'i roi i'r ymgeiswyr.  

"Mae’r ffaith bod 7 o'r 11 preswylydd bellach mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth yn dyst i hyn, fel y mae’r gostyngiad mewn ymddygiad troseddol o ran rhai unigolion."

courtroad01

Gyda chymorth a chefnogaeth gan y tîm, mae 63 y cant o'r preswylwyr naill ai'n gweithio, neu mewn addysg sy'n llawer mwy na'r niferoedd mewn mathau eraill o lety dros dro.

"Yn gyntaf oll, mae pob llety o fewn prosiect Court Road, y mae’r tîm yn ei alw’n Bentref Court Road, wedi'i ddodrefnu â nwyddau gwyn a gwely," Ychwanegodd Denise.

"Fodd bynnag, y peth pwysicaf mae'r Pentref yn ei roi i’r trigolion yw parch a'r manteision lles cyffredinol y mae'r amgylchedd yn eu cynnig."

Cafodd Denise ei magu yn y Fro ac mae wedi byw yma erioed. Ymunodd â'r tîm yn 2014. 

Y tu allan i'r gwaith, mae Denise yn mwynhau cadw'n heini a threulio amser gyda'i hwyrion a'i hwyresau. Mae hi hefyd yn bencampwr draenogod ac mae ganddi ei noddfa a'i hysbyty ei hun ar gyfer draenogod yn ei gardd, yn eu nyrsio tan eu bod yn iach eto.  

Mae gwaith Denise yn cynnwys meithrin perthynas dda gyda'r preswylwyr, eu galluogi i gynnal eu llety ac i ffynnu. Dywed Denise fod ei phrofiad blaenorol yn gweithio gyda cheiswyr lloches wedi ei helpu'n fawr gyda hyn.

Fe wynebodd prosiect digartrefedd Court Road heriau. Oherwydd Covid-19, bu llawer o oedi.  Bu'n rhaid i'r tîm hefyd aros i lawer o'r deunyddiau gyrraedd o Ewrop.

Mae'r prosiect hwn yn ymdrech ar y cyd ac mae Denise yn cael ei chefnogi gan dîm digartrefedd penodol. Heb ragwelediad ac ymrwymiad y Gwasanaethau Tai yn gyffredinol, aelodau wardiau lleol y Cyngor, ac anogaeth Llywodraeth Cymru, efallai na fyddai'r cynllun wedi bod yn bosibl.

Heb os, mae'r Pentref wedi dod yn gymuned bwysig iawn i'w drigolion ac mae bywydau wedi cael eu newid yn gadarnhaol, gyda llawer o'r trigolion yn mynd yn eu blaen i sicrhau eu cartrefi parhaol eu hunain. 

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn ystyried opsiynau i efelychu'r cynllun mewn rhannau eraill o'r Fro.