Beth yw’r Wythnos Cynhwysiant?

Crëwyd yr Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol, sy’n cael ei chynnal rhwng 27 Medi a 3 Hydref 2021, gan Inclusive Employers sy'n trefnu'r ymgyrch bob blwyddyn.

27 Medi, 2021

Were-participating-in-NIW-2021Nod yr wythnos yw codi ymwybyddiaeth o gynhwysiant yn y gweithle.

Bellach yn ei nawfed flwyddyn, thema’r Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol yn 2021 yw #UnoDrosGynhwysiant #UnitedForInclusion.

Mae'n fater o ddod â phobl a sefydliadau at ei gilydd i rannu dysgu ac arfer gorau fel y gallwn gydweithio i gyrraedd ein nod cyffredin o wneud cynhwysiant yn realiti bob dydd. 

Drwy gydol yr wythnos hon, byddwn yn canolbwyntio ar wahanol feysydd cynhwysiant a sut rydym yn datblygu ein hagenda cynhwysiant. 

I osod y cywair ar gyfer yr wythnos, mae ein Huwch Dîm Arwain  wedi bod yn egluro’r hyn mae cynhwysiant yn ei olygu iddyn nhw.

Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr

"Yn syml, mae'n golygu trin pawb fel unigolion.  Fel sefydliad, mae'n rhaid i ni weithio'n galetach i sicrhau bod ein sefydliad yn adlewyrchu’r cymunedau ehangach yr ydyn ni’n eu gwasanaethu, ac yn gweithio’n well iddyn nhw."

Paula Ham, Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau

"Mae cynhwysiant yn ymwneud â chefnogi pawb i gael mynediad at addysg, hyfforddiant, cyflogaeth, hamdden, ac unrhyw wasanaeth sydd ei angen arnynt i gyflawni eu potensial a byw bywyd i'r eithaf. Mae hyn yn gofyn i ni adlewyrchu amrywiaeth y gymuned yn ein gweithlu, ymgysylltu'n agosach â staff a chymunedau i gael gwir ddealltwriaeth o wahaniaethau pobl ac i deilwra ein harferion a’n gwasanaethau mewn ymateb."

Lance Carver, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

"Mae cynhwysiant i fi yn ymwneud â gwneud i bawb deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae angen i ni ddeall ein rhagfarnau isymwybodol i newid yn ymwybodol sut rydyn ni’n rhyngweithio ac yn gweithredu, er mwyn sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael yr un cyfle i symud ymlaen a chael effaith. Rwyf hefyd yn cael fy ysgogi gan y gred bod angen i ni ddeall effaith braint a'r angen i wneud addasiadau cadarnhaol i'r rhai sy'n llai ffodus er mwyn byw mewn cymdeithas decach a mwy cydradd."

Miles Punter, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai

"I fi mae cynhwysiant yn ffordd o feddwl ac ymddwyn ac mae'n gosod yr amgylchedd yn y gweithle. Mae'n wir ein bod i gyd yn wahanol ac mewn llawer iawn o ffyrdd ond nad y gwahaniaethau hynny sy'n ein diffinio, ein perthnasoedd, ein hymddygiad a sut rydym yn trin ein gilydd sy’n ein diffinio."          

Tom Bowring, Pennaeth Polisi a Thrawsnewid Busnes

"I fi, mae cynhwysiant yn golygu gwerthfawrogi pawb fel unigolyn a chofleidio cyfraniadau unigryw pobl i'n sefydliad a'n bywydau. Mae bod yn agored i wahaniaethau yn bwysig iawn er mwyn deall y safbwyntiau sydd gennym yn ein gwaith ac i wneud y penderfyniadau cywir sydd o fudd i'n cydweithwyr a'n preswylwyr. Nid yw'n ymwneud â thrin pawb yr un fath, ond eu trin yn unol â phwy ydyn nhw, a’n herio ein hunain i gael gwared ar rwystrau a rhagfarn."

 
Debbie Marles, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro 

"Mae cynhwysiant yn golygu i mi sicrhau bod tegwch ar draws darpariaeth gwasanaeth a mynediad at yr un peth, ynghyd ag ecwiti mewn cyfleoedd cyflogaeth fel nad oes unrhyw un yn cael ei eithrio na'i gyfyngu i gael mynediad i'r un peth o ganlyniad i anabledd neu fod â nodwedd warchodedig. O ganlyniad, mae gan y Cyngor gyfle i fanteisio ar gronfa eang o dalent a all lywio a chynorthwyo i lunio polisi a phenderfyniadau'r Cyngor."

Carys Lord, Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151

"I fi mae cynhwysiant yn y gweithle yn golygu bod y gweithle yn un sy'n gwerthfawrogi gwahaniaethau unigol yn y gweithlu, ac yn gwneud i bawb deimlo eu bod yn cael croeso ac yn cael eu derbyn. Er mwyn cyflawni hyn, mae hefyd yn hanfodol nad yw diwylliant y gweithle yn ynysu unrhyw weithwyr yn seiliedig ar eu gofynion a'u hanghenion arbennig nac yn tynnu sylw atynt mewn unrhyw ffordd."

Tracy Dickinson, Pennaeth Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol

"Pan fo pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu derbyn fel aelod o'r tîm ac yn rhan o'r sefydliad ac i 'fod'. Lle rydym yn dathlu amrywiaeth a heriau a ffynnu fel sefydliad."

Mae rhagor o wybodaeth am yr Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol a sut i gymryd rhan ar gael drwy wefan Inclusive Employers. 

Trwy gydol yr wythnos hon, byddwn yn canolbwyntio ar wahanol feysydd cynhwysiant a sut rydym yn datblygu ein hagenda cynhwysiant. Cadwch lygad am eitemau ar StaffNet bob dydd yr wythnos hon yn ogystal ag ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Cymerwch ran yn y Cwis Wythnos Cynhwysiant!

Cymerwch ran, i gael ychydig o hwyl ac uno dros gynhwysiant. 

Gwneud y Cwis